Brychan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau) |
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau) dileu delwedd |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
[[Delwedd:Brychan (straightened) Eglwys Aberhonddu (Brecon, Wales) 02.jpg|bawd|190px|Brychan ar ffenestr yn y Gadeirlan, Aberhonddu.]] |
|||
:''Erthygl am y sant yw hon. Am y bardd o'r 19eg ganrif gweler [[John Davies (Brychan)]].'' |
:''Erthygl am y sant yw hon. Am y bardd o'r 19eg ganrif gweler [[John Davies (Brychan)]].'' |
||
{{Gwybodlen person/Wicidata | fetchwikidata=ALL | onlysourced=no | suppressfields= dinasyddiaeth | nationality = {{banergwlad|Cymru}} | dateformat = dmy}} |
{{Gwybodlen person/Wicidata | fetchwikidata=ALL | onlysourced=no | suppressfields= dinasyddiaeth | nationality = {{banergwlad|Cymru}} | dateformat = dmy}} |
Fersiwn yn ôl 15:27, 17 Ebrill 2018
- Erthygl am y sant yw hon. Am y bardd o'r 19eg ganrif gweler John Davies (Brychan).
Brychan | |
---|---|
Brychan ar ffenestr yn y Gadeirlan, Aberhonddu. | |
Ganwyd | 400 Talgarth |
Bu farw | 480 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | brenin neu frenhines |
Blodeuodd | 5 g |
Dydd gŵyl | 6 Ebrill |
Tad | Anlach ferch Coronac ab Eurbre Wyddel |
Mam | Marchell ap Tewdrig ap Teithfall ap Teithrin |
Plant | Cynog Ferthyr, Dingad o Landingad, Santes Gwladys, Santes Cain, Santes Dwynwen, Santes Eiluned, Santes Tudful, Santes Tybïe, Cledwyn, Gwen o Dalgarth, Meleri ach Brychan, Belyau ach Brychan, Santes Cynheiddon, Tutglud ach Brychan, Nefyn ach Brychan, Santes Arianwen, Clydai ach Brychan, Santes Gwawr, Tangwystl ach Brychan, Rhiangar ach Brychan, Neithon, Dyfnan, Menefrida, Lluan, Cynon, Santes Ceinwen, Cleder, Ilud ach Brychan, Tudwen |
Brenin a sant oedd Brychan (fl. 5g),a roes ei enw i deyrnas Brycheiniog (yn ne-ddwyrain canolbarth Cymru) Ei ddygwyl yw 5 Ebrill.
Bywgraffiad
Priododd Marchell ach Tewdrig, pennaeth Llanfaes,[1] ag Anlach ap Coronac, mab i bennaeth Gwyddelig, ar yr amod y byddai eu plant yn cael eu magu ar ei thir hi. Marchell oedd yn perchen Garth Madryn. Cyfarfu rhieni Brychan yn Iwerddon ar ôl i'w fam fynd yno er mwyn dianc rhag gaeaf arbennig o oer. Ganwyd Brychan, eu hunig plentyn yng Ngarthmadrun. Ar ôl i Marchell farw etifeddodd Brychan ei thiroedd i'w trosglwyddo i'w ferched.
Etifeddiaeth
Roedd Brychan yn dad i bedwar ar hugain o ferched a tua 11 o feibion yn ôl y Cognatio de Brychan a ysgrifennwyd yn y 10g [1] ond mae wedi seilio ar dogfennau hŷn sydd ymhellach ar goll [1]. Mae'r 'Cognatio' yn enwi ei ferched fel a ganlyn: Arianwen, Rhiangar, Gwladys, Gwawr, Gwrgon, Nefydd, Lleian, Marchell, Meleri, Nefyn, Tutglid, Belyau, Ceinwen, Cynheiddon, Ceindrych, Clydai, Dwynwen, Eiluned, Goleudydd, Gwen, Ilud, Tybie, Tudful, a Tangwystl. Daeth y rhan fwyaf ohonynt yn seintiau gan sefydlu llannau yn ne a dwyrain Cymru yn bennaf. Cyfeirir at deulu ("llwyth") Brychan yn y Trioedd fel un o "dri llwyth seintiau Cymru" (ynghyd â theuluoedd Caw neu Coel a Chunedda.)
Enwir nifer o eglwysi, yn y de a'r canolbarth yn bennaf, ar ôl Brychan a'i ddisgynyddion; Bu Brycheiniog yn bwysig yn natblygiad Cristnogaeth Geltaidd [2]. Disgrifiodd John Davies de-dwyrain Cymru fel "meithrinfa'r Eglwys Geltaidd a chroth gweithgarwch a adfywiodd Ewrop." [2]
Ffurfwyd Brycheiniog fel cyngrhair rhwng rhai o feibion Brychan ar ôl ei farwolaeth er mwyn amddiffyn eu hunain rhag llwythau eraill.[1]
Gweler hefyd
- Rhestr o seintiau Cymru
- Santesau Celtaidd 388-680