Bleddyn Fardd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B →Dolenni allanol: 4 gweithred, replaced: {{Authority control}} → {{Rheoli awdurdod}} using AWB |
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau) wd |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
{{Gwybodlen person/Wicidata | fetchwikidata=ALL | onlysourced=no | suppressfields= dinasyddiaeth | nationality = {{banergwlad|Cymru}} | dateformat = dmy}} |
|||
Bardd [[Cymry|Cymreig]] oedd '''Bleddyn Fardd''' (fl. [[1268]]-[[1283]]), un o'r olaf o [[Beirdd y Tywysogion|Feirdd y Tywysogion]]. Mae'n fardd nodweddiadol oherwydd y galargerddi a ysgrifenodd ar farwolaeth [[Llywelyn ap Gruffudd]], [[Tywysog Cymru]], sydd wedi eu cofnodi yn [[Llawysgrif Hendregadredd]], fel gweddill y testunau.<ref name="ReferenceA">Rhian M. Andrews (gol.). 'Gwaith Bleddyn Fardd'.</ref> |
Bardd [[Cymry|Cymreig]] oedd '''Bleddyn Fardd''' (fl. [[1268]]-[[1283]]), un o'r olaf o [[Beirdd y Tywysogion|Feirdd y Tywysogion]]. Mae'n fardd nodweddiadol oherwydd y galargerddi a ysgrifenodd ar farwolaeth [[Llywelyn ap Gruffudd]], [[Tywysog Cymru]], sydd wedi eu cofnodi yn [[Llawysgrif Hendregadredd]], fel gweddill y testunau.<ref name="ReferenceA">Rhian M. Andrews (gol.). 'Gwaith Bleddyn Fardd'.</ref> |
||
Fersiwn yn ôl 10:41, 17 Ebrill 2018
Bleddyn Fardd | |
---|---|
Ganwyd | 1258 Cymru |
Bu farw | 1284 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd |
Blodeuodd | 1268 |
Bardd Cymreig oedd Bleddyn Fardd (fl. 1268-1283), un o'r olaf o Feirdd y Tywysogion. Mae'n fardd nodweddiadol oherwydd y galargerddi a ysgrifenodd ar farwolaeth Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru, sydd wedi eu cofnodi yn Llawysgrif Hendregadredd, fel gweddill y testunau.[1]
Bywgraffiad
Ni wyddys dim am fywyd y bardd ar wahân i'r hyn y gellir casglu o dystiolaeth ei gerddi. Ymddengys mai Dafydd Benfras oedd athro barddol Bleddyn. Fel Dafydd Benfras, mae hi bron yn sicr fod Bleddyn Fardd yn bencerdd i Lywelyn ap Gruffudd; yn sicr yr oedd yn un o feirdd llys Gwynedd.[1]
Cerddi
Cedwir 14 o gerddi gan Fleddyn Fardd. Ceir saith awdl a saith cadwyn englynion; cyfanswm o 458 o linellau. Canodd farwnadau i Ddafydd Benfras, Goronwy ab Ednyfed (distain Gwynedd) a'i fab Hywel ap Goronwy. Ceir yn ogystal marwnad i Gruffudd ab Iorwerth ap Maredudd o Fôn. Canodd gerdd o fawl i Rys ap Maredudd ap Rhys o Ddeheubarth.[1]
Ond fe'i cofir yn bennaf efallai am y gyfres o farwnadau nodedig i Lywelyn ap Gruffudd a'i frodyr Dafydd ac Owain Goch. Yn ogystal canodd gerdd arbennig 'Marwnad Tri Mab Gruffudd ap Llywelyn', sydd i'w dyddio i tua 1283.[1]
Ceir yn ogystal marwysgafn gan y bardd ar ei wely angau.[1]
Llyfryddiaeth
- Rhian M. Andrews (gol.). 'Gwaith Bleddyn Fardd', yn Gwaith Bleddyn Fardd a beirdd eraill ail hanner y drydedd ganrif ar ddeg (Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1996). 'Cyfres Beirdd y Tywysogion'.
Cyfeiriadau
Dolenni allanol