Llyn Ladoga: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
BOTarate (sgwrs | cyfraniadau) B robot yn newid: es:Lago Ládoga |
B robot yn ychwanegu: af:Ladogameer |
||
Llinell 33: | Llinell 33: | ||
[[Categori:Llynnoedd Rwsia]] |
[[Categori:Llynnoedd Rwsia]] |
||
[[af:Ladogameer]] |
|||
[[ar:بحيرة لادوغا]] |
[[ar:بحيرة لادوغا]] |
||
[[az:Ladoqa gölü]] |
[[az:Ladoqa gölü]] |
Fersiwn yn ôl 14:47, 14 Mawrth 2009
Llyn dŵr croyw mwyaf Ewrop yw Llyn Ladoga (Rwsieg Ла́дожское о́зеро / Ladozhskoe ozero), wedi'i leoli yng ngogledd-orllewin Rwsia yn agos at y Môr Baltig yng Ngweriniaeth Karelia ac Oblast Leningrad.
Daearyddiaeth
Mae'r llyn yn gorchuddio arwynebedd o rhwng 17.7 (heb ynysoedd) ac 18.4 (gan gynnwys ynysoedd) mil km2. Ei hyd (o'r gogledd i'r dde) yw 219km, a'i led cyfartal yw 83km. Mae ef ar ei ddyfnaf yn y gogledd-orllewin, lle ceir y man dyfnaf, 230m. Ei ddyfnder cyfartal yw 52m. Mae'n llifo i mewn i Gwlff y Ffindir ar hyd Afon Neva drwy St Petersburg. Y Neva yw'r unig afon i lifo allan ohono, ond mae'n dwyn ei ddŵr oddiwrth tua 3500 o isafonydd sy'n llifo i mewn iddo. Y prif isafonydd yw'r Svir, y Volkhov, y Vuoksi a'r Syas. Mae'r llyn yn cynnwys tua 660 o ynysoedd, y rhan fwyaf ohonyn nhw yn y gogledd-orllewin, gan gynnwys yr Ynysoedd Valaam. Y prif drefi ar ei lannau yw Shlisselburg, Novaya Ladoga, Syasstroy, Pitkyaranta, Sortavala, Lakhdenpokhya a Priozersk.
Hanes
Hyd y 13eg ganrif, enw'r llyn oedd Llyn Nevo. Ailenwyd ar ôl y dref fasnachol o'r un enw (Staraya Ladoga) ar ei lannau. Roedd y rhan ogledd-orllewinol o'r llyn yn rhan o'r Ffindir tan 1940.