Mynyddfor: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda ''''Mynyddfor''' yw prif enw un o'r mynyddoedd yng Nghwmwd Uwchgwyrfai. Ei uchder uwchben y môr yw 698 o fedrau. ==Daeareg== Cnewyllyn hen losgfynyd...'
 
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 47: Llinell 47:


ac wedyn:
ac wedyn:
:'' "...and Pen Drws Coed. The latter, that couchant elephant with its head turned to the north-east, seems as if it
:'' "...and Pen Drws Coed. The latter, that couchant elephant with its head turned to the north-east, seems as if it wished to bar the pass with its trunk" ''.
wished to bar the pass with its trunk" ''.


Fe â JPMJ ymhellach i drafod manylder a chywirdeb daearyddol a gramadegol yr enwau swyddogol:
Fe â JPMJ ymhellach i drafod manylder a chywirdeb daearyddol a gramadegol yr enwau swyddogol:

Fersiwn yn ôl 13:28, 16 Ebrill 2018

Mynyddfor yw prif enw un o'r mynyddoedd yng Nghwmwd Uwchgwyrfai. Ei uchder uwchben y môr yw 698 o fedrau.

Daeareg

Cnewyllyn hen losgfynydd yw Mynyddfor, o natur rheioleit asidig.

Llystyfiant

Oherwydd ei natur asidig, mathau o rug a llus sydd yn tyfu yno.

Enwau eraill

Mae nifer o enwau a ffurfiau ar yr enw y gellir eu dosbarthu yn fras yn ôl amser. "Nyddfor" oedd enw trigolion Waunfawr ar y mynydd, sef talfyriad o "Mynyddfor". Mae hwn bellach wedi ei ddisodli ar fapiau'r Arolwg Ordnans fel Mynydd Mawr. Adwaenir y mynydd o ochr Dyffryn Nantlle fel Mynydd y Grug yn unig.

Tua diwedd y 19g. dechreuodd rhai weld(ar ôl George Borrow isod) ffurf eliffant ar y mynydd ac fe'i ail fedyddwyd yn Saesneg fel Elephant Mountain ac yn Gymraeg fel Mynydd yr Eliffant neu 'Reliffant.

Mae enwau penodol ar sawl rhan o Fynyddfor, gan gynnwys Craig y Bere, Cwm Bychan, Castell Cidwm.

Llên a Llenyddiaeth

Mae'r canlynol wedi ei godi, gyda chaniatad, o lythyr personol[1] gan y Dr J Prys Morgan Jones (hen frodor Y Waunfawr) i DB (awdur y bennod), ac a gyhoeddwyd yn ddiweddarach ym Mwletin Llên Natur rhifyn 45-46 (Tachwedd 2011)[1]:

"...yn ymddangos fel horwth o eliffant a'i drwnc yn sipian o ddŵr Llyn Cwellyn. Yr Eliffant yw'r enw cyffredin a roddir arno, ond ar fapiau Arolwg Ordnans (SH 539 546)ceir Mynydd Mawr fel enw mwy syber a swyddogol. Serch hynny Mynyddfawr ac nid Mynydd Mawr yw'r enw parchus a roddir arno'n lleol – neu o leiaf dyna'r enw a arferid gynt gan drigolion yr ardal, mae dylanwad yr hyn a welir ar fapiau swyddogol yn gryf ar yr hyn sy'n cael ei ddweud. Pa dystiolaeth heblaw mympwy bersonol a allaf ei gynnig dros Mynyddfawr? Arferai fy nhad a anwyd ac a fagwyd yn y Waun-fawr gyfeirio at y mynydd fel Mynyddfawr (a'i ynganu M'nyddfawr, gyda'r acen ar yr -ydd-). Un arall a fagwyd yn y Waun ddechrau'r ugeinfed ganrif oedd yr athronydd a'r ysgolhaig Hywel D Lewis; yng nghanol y chwedegau bu'n traddodi Darlithoedd Gifford ar Freedom and Alienation, ac yn ei ragymadrodd mae'n sôn am ei fachgendod yn yr ardal:
"Moel Eilian had spewed up at some time from the volcanic depths of what is now the very deep Cwellyn Lake and from the vast crater in the side of the other mountain, Mynyddfawr — Elephant Mountain for us."

Yn ei hunangofiant Y Lôn Wen (1960) mae Kate Roberts yn sgrifennu:

"Ar lechwedd bryniau Moeltryfan a Moel Smatho* y gorwedd yr ardal, a thu hwnt i'r ddau fryn yma y mae Mynyddfawr (ynganer fel un gair a'r acen ar y sill olaf ond un), yr eliffant hwnnw o fynydd".

[*Moel Smytho ar y mapiau – enw arall i'w drafod efallai.]

Dywed JPMJ iddo weld o leiaf dair enghraifft yn ysgrifau T. H. Parry-Williams:

"..a diffwys cwterog Mynyddfawr yn anesgor o sefydlog"

'Drws-y-Coed' yn Synfyfyrion (1937)

"yr olwg ehangfawr a geir dros wyneb y llyn ar lechweddy Planwydd a moel y Mynyddfawr a chlogwyn Castell Cidwm yr ochr draw."

'Y Tri Llyn' yn O'r Pedwar Gwynt (1944)

"...neu Ddrws-y-coed-gwaith, fel y byddem ni'n galw'r pentref sydd rhwng troed y Garn a sodlau'r Mynyddfawr"

'Aur Drws-y-Coed' yn Pensynnu (1966).

Mae Alun Llywelyn-Williams yn ei lyfr Crwydro Arfon (1959) yntau yn sgrifennu:

"...a Chraig y Bera a'r Mynyddfawr ar y llaw arall" .

I fwydro a chymhlethu rhagor ar y mater mae George Borrow yn ei lyfr Wild Wales (1862), wrth sôn am ei daith o Gaernarfon i 'Beth Gelert', yn dweud:

"a noble hill called Mount Eilio appeared before me to the north; an immense mountain called Pen Drws Coed lay

over against it on the south, just like a couchant elephant"

ac wedyn:

"...and Pen Drws Coed. The latter, that couchant elephant with its head turned to the north-east, seems as if it wished to bar the pass with its trunk" .

Fe â JPMJ ymhellach i drafod manylder a chywirdeb daearyddol a gramadegol yr enwau swyddogol:

Mae'r cyd-destun yn dangos mai Mynyddfawr yw Pen Drws Coed yn hytrach na Mynydd Drws y Coed sydd ymhellach i'r de ar Grib Nantlle; wn i ddim a oes ffynonellau eraill yn defnyddio'r enw yma ar y mynydd, ond ni chlywais i erioed neb yn gwneud hynny. Felly ymddengys yn ddigon clir i mi mai Mynyddfawr ac nid Mynydd Mawr a ddylai fod ar y mapiau, a dichon mai rhyw orgywiro gan rywun oedd sgrifennu Mynydd Mawr. Clywir ambell un yn dadlau mai enw gwrywaidd yw mynydd ac felly na ddylid treiglo'r ansoddair ar ei ôl. Mae'r gair mynyddfawr yng [[Geiriadur Prifysgol Cymru|Ngeiriadur Prifysgol Cymru] fel ansoddair gyda'r diffiniad 'Enfawr fel mynydd'. Pan yw ansoddeiriau cyfansawdd yn cael eu ffurfio o enw +ansoddair fe dreiglir yr ail elfen yn feddal, boed yr enw yn wrywaidd neu yn fenywaidd (e.e. penboeth, coesgoch), a gellir defnyddio ansoddeiriau felly fel enwau.
  1. JPM Jones (2011) llythyr personol