Llyn Cwellyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
creu
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 17:34, 14 Mehefin 2006

Mae Llyn Cwellyn yn lyn yn Eryri, gogleddd Cymru, sy'n gowedd rhwng Yr Wyddfa a Mynydd Mawr a rhwng pentrefi Rhyd-ddu a Betws Garmon gerllaw ffordd yr A4085. Er ei fod yn wreiddiol yn lyn naturiol, caiff ei ddefnyddio fel cronfa i gyflenwi dŵr i rannau o Wynedd ac Ynys Môn.

Mae Llyn Cwellyn yn lyn gweddol fawr gydag arwynebedd o 215 acer (0.87 cilomedr sgwar), ac mae dros 120 troedfedd o ddyfnder yn y man dyfnaf. Mae Afon Gwyrfai yn llifo trwyddo. Adeiladwyd argae yn y rhan ogleddol, ond nid yw hyn wedi ychwanegu rhyw lawer at faint y llyn.


Cyfeiriadau

  • The Lakes of Eryri gan Geraint Roberts. Gwasg Carreg Gwalch, Llanrwst, 1995.