Tegeingl: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Maelor (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 8: | Llinell 8: | ||
[[Categori:Cantrefi Cymru]] |
[[Categori:Cantrefi Cymru]] |
||
[[Categori: |
[[Categori:Hanes Sir y Fflint]] |
||
[[Categori:Sir y Fflint]] |
Fersiwn yn ôl 00:28, 7 Mawrth 2009
Cantref yng ngogledd-ddwyrain Cymru oedd Tegeingl. Fe'i enwir ar ôl y Deceangli, un o lwythau Celtaidd Cymru yn Oes yr Haearn a'r cyfnod Rhufeinig.
Mae'r cantref yn gorwedd yn nwyrain y Berfeddwlad ar arfordir y Gogledd rhwng Afon Clwyd yn y gorllewin a Glannau Dyfrdwy yn y dwyrain. I'r gorllewin mae'n ffinio â chantrefi Rhos a Rhufoniog, yn y de-orllewin â chwmwd Dogfeiling yng nghantref Dyffryn Clwyd, ac yn y de-ddwyrain ag Ystrad Alun a Phenarlâg. Roedd y diriogaeth yn cyfateb yn fras i Sir y Fflint heddiw.
Yn Oes y Tywysogion roedd Tegeingl yn cynnwys tri chwmwd Rhuddlan, Prestatyn a Cwnsyllt. Perthynai'r cantref i dywysogion cynnar teyrnas Gwynedd, ond a ddiwedd yr 8fed ganrif fe'i goresgynwyd gan y Mersiaid, gelynion mawr Gwynedd a Phowys. Arosodd yn nwylo'r Saeson a'r Normaniaid nes i Owain Gwynedd ei adfer i Wynedd yn y 12fed ganrif. Newidiai ddwylo sawl gwaith yn yr ymgiprys rhwng tywysogion Gwynedd a Choron Lloegr yn y ganrif olynol.
Rhuddlan oedd ei ganolfan, ond roedd Diserth yn bwysig hefyd. Yn ddiweddarach sefydlwyd mynachlog yn Ninas Basing.