Dinmael: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B robot yn ychwanegu: en:Dinmael |
|||
Llinell 10: | Llinell 10: | ||
*[[Cantrefi a chymydau Cymru]] |
*[[Cantrefi a chymydau Cymru]] |
||
{{eginyn hanes Cymru}} |
|||
[[Categori:Cymydau Cymru]] |
[[Categori:Cymydau Cymru]] |
||
⚫ | |||
[[Categori:Hanes Conwy]] |
|||
[[Categori:Hanes Sir Ddinbych]] |
|||
[[Categori:Teyrnas Gwynedd]] |
[[Categori:Teyrnas Gwynedd]] |
||
[[Categori:Teyrnas Powys]] |
[[Categori:Teyrnas Powys]] |
||
⚫ | |||
[[en:Dinmael]] |
[[en:Dinmael]] |
Fersiwn yn ôl 23:46, 6 Mawrth 2009
Hen arglwyddiaeth a chwmwd yng nghalon Gogledd Cymru yw Dinmael. Mae ei hanes cynnar yn dywyll ac ychydig iawn o gyfeiriadau sydd 'na iddi yn y cofnodion. Mae elfen gyntaf yr enw, 'din(as)', yn golygu 'caer, amddiffynfa', tra bod 'mael' yn golygu naill ai 'uchel' neu 'tywysog, brenin': "Y Gaer Uchel" yw'r ystyr yn ôl pob tebyg felly.
Mae Dinmael yn ardal yn y canol rhwng teyrnas Gwynedd a'r Berfeddwlad i'r gogledd a Phowys yn y de. Tir mynyddig uchel a rennir gan gymoedd agored ydyw. Yn y de a'r de-ddwyrain mae'n ffinio ag Edeirnion a Phenllyn, dau gantref strategol y newidiai eu meddiant rhwng Gwynedd a Phowys. Yn y gogledd ffiniai â chantrefi Rhos a Dyffryn Clwyd. Ni fu erioed yn ardal boblog ond roedd rheolaeth arni yn bwysig yn ddiweddarach yn Oes y Tywysogion oherwydd fod llwybr yn arwain i fyny o Lyndyfrdwy trwy Gerrigydrudion i gyfeiriad Nant Conwy a chalon Gwynedd.
Ar ganol y 12fed ganrif Einion ab Ednyfed, brawd Gwenllïan gwraig Rhirid Flaidd, oedd arglwydd Dinmael (neu'n dal tir sylweddol yno). Owain Brogyntyn oedd arglwydd Dinmael yn 1180.
Mae'r rhan fwyaf o diriogaeth Dinmael yn sir Conwy heddiw.