Sarn Badrig: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Llinell 14: | Llinell 14: | ||
*[http://www.cimwch.com/llongddrylliadau/llongddrylliadau.htm Llongddrylliadau ar Sarn Badrig, o Cimwch.com] |
*[http://www.cimwch.com/llongddrylliadau/llongddrylliadau.htm Llongddrylliadau ar Sarn Badrig, o Cimwch.com] |
||
[[Categori:Arfordir Cymru]] |
|||
[[Categori:Daearyddiaeth Gwynedd]] |
[[Categori:Daearyddiaeth Gwynedd]] |
||
[[Categori:Llên gwerin Cymru]] |
[[Categori:Llên gwerin Cymru]] |
Fersiwn yn ôl 20:29, 6 Mawrth 2009
Sarn neu rîff dan y môr ym Mae Ceredigion yw Sarn Badrig. Mae'n ymestyn tua'r de-orllewin o'r arfordir ger Mochras, gerllaw Llanbedr am tua 24 km. Dim ond ar lanw isel iawn y gellir gweld y sarn, ond gan ei bod yn weddol agos at yr wyneb, mae'n medru bod yn beryglus i gychod. Credir i'r sarn gael ei chreu gan rewlif yn ystod Oes yr Ia yn gadael gweddillion clai clogfaen. Ceir amrywiaeth ddiddorol o wymon y môr ar y sarn, ac o'r herwydd mae'n Ardal Gadwraeth Arbennig.
Mewn chwedl, Sarn Badrig yw gweddillion y mur oedd yn gwarchod Cantre'r Gwaelod rhag y môr. Awgryma'r enw gysylltiad a Sant Padrig; y syniad mae'n debyg oedd ei bod yn sarn a ddefnyddiai ef i gerdded i Iwerddon.
Bu Lewis Morris yn cynnal arolwg o'r ardal. Yn mis Mai, 1742, ysgrifennodd: Have been upon ye Innermost part of Sarn Badrig and have taken many soundings. The more I know it the more terrible it is.
Sarn Badrig yw'r fwyaf o dair sarn ym Mae Ceredigion; y ddwy arall, ymhellach i'r de, yw Sarn-y-Bwch a Sarn Cynfelyn. Ystyrir hwy yn nodweddion tanfor unigryw yn Ynysoedd Prydain.