Hanes celf: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Astudiaeth hanes y celfyddydau gweledol yw '''hanes celfyddyd'''. Mae'n cwmpasu hanesyddiaeth arlunio, cerfluniaeth, pensaernïaeth, y...' Tagiau: Golygiad cod 2017 |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 20:01, 8 Ebrill 2018
Astudiaeth hanes y celfyddydau gweledol yw hanes celfyddyd. Mae'n cwmpasu hanesyddiaeth arlunio, cerfluniaeth, pensaernïaeth, y celfyddydau addurnol, darlunio, argraffu, ffotograffiaeth, a dylunio mewnol. Disgyblaeth academaidd ydyw sydd wedi hen ennill ei blwyf ym mhrifysgolion Ewrop, ac yn un o'r dyniaethau a'r celfyddydau breiniol.
Y dull ysgolheigaidd yw methodoleg draddodiadol hanes celfyddyd, sydd yn dibynnu felly ar brofiad, craffter, barn a meddylfryd beirniadol yr ysgolhaig. Disgwylir i hanesyddion celfyddyd feddu crap ar gyd-destun hanesyddol a diwylliannol yr arlunydd dan sylw, a dealltwriaeth eang o syniadau, themâu a mudiadau celfyddydol. Mae priodoli a dilysu celfyddydwaith yn nhermau ei arlunydd a chyfnod yn arfer hollbwysig i'r hanesydd celfyddyd.[1]
Cyfeiriadau
- ↑ (Saesneg) Art history. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 8 Ebrill 2018.