Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Adorian (sgwrs | cyfraniadau)
Adorian (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 453: Llinell 453:
[[ga:Foireann náisiúnta rugbaí na Breataine Bige]]
[[ga:Foireann náisiúnta rugbaí na Breataine Bige]]
[[gd:Sgioba nàiseanta rugbaidh na Cuimrigh]]
[[gd:Sgioba nàiseanta rugbaidh na Cuimrigh]]
[[gl:Selección nacional de rugby de Gales]]
[[gl:Selección de rugby de Gales]]
[[it:Nazionale di rugby XV del Galles]] {{Cyswllt erthygl ddethol|it}}
[[it:Nazionale di rugby XV del Galles]] {{Cyswllt erthygl ddethol|it}}
[[ja:ラグビーウェールズ代表]]
[[ja:ラグビーウェールズ代表]]

Fersiwn yn ôl 21:38, 28 Chwefror 2009

Cymru yn erbyn yr Eidal, Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, 2008. Cymru 47, Yr Eidal 8.
Delwedd:433px-Wru logo.png
Logo Undeb Rygbi Cymru

Mae tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru yn cynrychioli Cymru mewn gemau rhyngwladol. Dyma'r tîm sy'n cynrychioli Cymru ym mhencampwriaeth y chwe gwlad ac hefyd yng nghystadleuaeth Cwpan Rygbi'r Byd a gynhelir bob pedair blynedd. Dewisir aelodau o'r tîm hefyd i chwarae gyda'r Llewod Prydeinig a Gwyddelig.

Enillodd Cymru y bencampwriaeth am y tro cyntaf yn 1893, gan ennill y Goron Driphlyg hefyd. Enillwyd y bencampwriaeth eto yn 1900, gan ddechrau "oes aur" gyntaf rygbi Cymru, oedd i barhau hyd 1911. Wedi cyfnod llai llewyrchus, cafwyd blynyddoedd llwyddiannus eto yn hanner cyntaf y 1950au. Cafwyd trydydd "oes aur" rhwng 1969 a 1982. Yn 1971, cyflawnodd Cymru'r Gamp Lawn am y tro cyntaf ers 1952. Ystyria llawer mai tîm 1971, oedd yn cynnwys chwaraewyr fel Gareth Edwards, Barry John a J.P.R. Williams, oedd y gorau i gynrychioli Cymru erioed. Cyflawnwyd y Gamp Lawn eto yn 1976 a 1978.

Yn yr 1980au a'r 1990au cafwyd canlyniadau gwael, ond erbyn dechrau'r ganrif newydd roedd arwyddion gwella, a chyflawnwyd y Gamp Lawn yn 2005. Dilynwyd hyn gan berfformiadau siomedig yn y bencampwriaeth yn 2006 a 2007, ond yn 2008 cyflawnwyd y Gamp Lawn eto.

Hanes

Dechreuadau

Dechreuwyd chwarae rygbi'r undeb yng Nghymru yn 1850, pan ddaeth y Parchedig Rowland Williams yn Is-brifathro Coleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan, a chyflwyno'r gêm i'r myfyrwyr yno. Ffurfiwyd y clwb Cymreig cyntaf, Castell Nedd, yn 1871. Ffurfiwyd tîm Cymreig yn 1880, a chwaraeodd nifer o gemau yn erbyn clybiau a siroedd Seisnig, yn enwedig Swydd Gaerloyw a Gwlad yr Haf. Chwaraeodd y tîm cenedlaethol eu gêm ryngwladol anffurfiol gyntaf yn erbyn Lloegr yn Blackheath ger Llundain yn 1881, gan golli o saith gôl, gôl adlam a chwe chais i ddim. Ar 12 Mawrth 1881, ffurfiwyd Undeb Rygbi Cymru yn y Castle Hotel, Castell Nedd.[1] Ar 28 Ionawr 1882, cafodd Cymru eu buddugoliaeth gyntaf mewn gêm ryngwladol pan drechwyd Iwerddon yn Nulyn 8-0 (4 cais a dau drosiad).

Blynyddoedd cynnar (1883 - 1919)

Tîm Cymru a gurodd y Crysau Duon yn 1905.

Y flwyddyn wedyn, ffurfiwyd y bencampwriaeth a ddatblygodd i fod yn Bencampwriaeth y Chwe Gwlad, er mai dim ond pedair, Cymru, Iwerddon, Lloegr a'r Alban, oedd yn cymeryd rhan yn y blynyddoedd cynnar. Ni lwyddodd Cymru i ennill gêm yn y tymor cyntaf.

Datblygodd rygbi yn gyflym yng Nghymru, ac erbyn y 1890au roedd Cymru wedi arloesi dull newydd o chwarae, gyda saith cefnwyr ac wyth blaenwr, yn hytrach na chwe cefnwr a naw blaenwr fel o'r blaen. Cyn hir, roedd y timau eraill wedi mabwysiadu'r system hon. Enillodd Cymru y bencampwriaeth am y tro cyntaf yn 1893, gan ennill y Goron Driphlyg hefyd. Enillwyd y bencampwriaeth eto yn 1900, gan ddechrau "oes aur" gyntaf rygni Cymeu, oedd i barhau hyd 1911. Enillasant y Goron Driphlyg eto yn 1902 a 1905, a gorffen yn ail yn y bencampwriaeth yn 1901, 1903 a 1904.

Llinell yn ystod buddugoliaeth Cymru dros y Crysau Duon yn 1905.

Yn 1905, chwaraeodd Cymru eu gêm gyntaf yn erbyn Seland Newydd yng Nghaerdydd. Dychwelodd Gwyn Nicholls o'i ymddeoliad i fod yn gapten y tîm. Roedd y Crysau Duon eisoes wedi curo Lloegr, Iwerddon a'r Alban. O flaen torf o 47,000, sgoriodd asgellwr Cymru, Teddy Morgan, gais i roi Cymru 3 - 0 ar y blaen. Yn ddiweddarach yn y gêm, credai Bob Deans ei fod wedi sgorio cais i Seland Newydd, ond iddo gael ei lusgo'n ôl o'r llinell cyn i'r dyfarnwr gyrraedd. Arhosodd y sgôr yn 3 - 0, yr unig gêm i'r Crysau Duon ei cholli o'r 35 yn ystod eu taith.

Enillodd Cymru y bencampwriaeth eto yn 1906, ac yn ddiweddarach y flwyddyn honno, chwaraesant eu gêm gyntaf yn erbyn De Affrica, gan golli 11 - 0. Chwaraewyd y gêm gyntaf yn erbyn Awstralia ar 12 Rhagfyr 1908, gyda Chymru yn ennill 9 - 6. Bu digwyddiad od yn y gêm yn erbyn Lloegr ym Mryste y flwyddyn honno, pan chwaraewyd y gêm mewn niwl tew, a chafodd Rhys Gabe a Percy Bush hyd i'r bêl tu allan i linell 25 Lloegr heb i unrhyw un o chwaraewyr Lloegr sylweddoli hynny. Gafaelodd Gabe yn y bêl ac aeth i gyfeiriad y llinell tra rhedai Bush i'r cyfeiriad arall i ddrysu chwaraewyr Lloegr ymhellach. Ymhen tipyn cyrhaeddodd y dyfarnwr a'r chwaraewyr eraill at y llinell i ddarganfod Gabe yn eu haros gyda'r bêl.

Enillodd Cymru y bencampwriaeth eto yn 1909. Yn 1910, ffurfiwyd pencampwriaeth y Pum Gwlad pan ymunodd Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Ffrainc a'r gystadleuaeth. Yn 1911, Cymru oedd y tîm cyntaf i ennill y Gamp Lawn trwy guro pob un o'r tomau eraill yn y bencampwriaeth. Byddai bron yn ddeugain mlynedd cyn iddynt gyflawni'r gamp eto. Pan ddecheuodd y Rhyfel Byd Cyntaf yn 1914, daeth y gemau i ben tra parhai'r rhyfel.

Wedi'r rhyfel (1920-1968)

Cymru yn erbyn Iwerddon; llun o'r 1920au.

Ni chafodd Cymru fawr o lwyddiant yn ystod yn 1920au. Rhain oedd blynyddoedd y dirwasgiad mawr, gyda miloedd o bobl yn gorfod gadael ardaloedd diwydiannol Cymru i chwilio am waith. Yn eu mysg roedd nifer o chwaraewyr rygbi rhyngwladol, a drôdd at rygbi'r gynghrair a symud i ogledd Lloegr. Rhwng 1923 a 1928, dim ond saith gêm a enillodd Cymru, pump o'r rhain yn erbyn Ffrainc. Enillodd Ffrainc eu buddugoliaeth gyntaf dros Gymru yn 1928.

Gwellodd pethau yn y 1930au, ac yn 1931, enillodd Cymru'r bencampwriaeth am y tro cyntaf ers naw mlynedd. Yn 1933, gyda Watcyn Thomas yn gapten, gorchfygodd Cymru dîm Lloegr yn Twickenham am y tro cyntaf. Yn 1935, cafodd Cymru fuddugoliaedd dros Seland Newydd, 13 - 12, gyda Haydn Tanner yn ennill ei gap cyntaf.

Dechrau ymosodiad: llun o gêm rhwng Cymru a Lloegr yn Twickenham yn 1931.

Ni fu rygbi rhyngwladol yn ystod yr Ail Ryfel Byd, heblaw am gêm answyddogol rhwwng Cymru a Lloegr yng Nghaerdydd yn 1940, a enillwyd gan Loegr, 18 - 9. Yn 1946, chwaraeodd Cymru yn erbyn tîm y "Kiwis" o fyddin Seland Newydd, gan golli 11 -3. Ail-ddechreuodd Pencampwriaeth y Pum Gwlad yn 1947, gyda Chymru'n rhannu'r bencampwriaeth a Lloegr. Collasant gartref i Ffrainc am y tro cyntaf yn 1948.

Bu'r 1950au yn ddegawd lwyddiannus iawn i Gymru; enillasant 29 o'u 49 gêm yn ystod y cyfnod, gyda dwy yn gyfartal. Ystyrir hanner cyntaf y degawd yn ail "oes aur", gyda John Gwilliam yn gapten a chwaraewyr fel Bleddyn Williams a Cliff Morgan yn disgleirio. Yn 1950 cyflawnodd Cymru y Gamp Lawn am y tro cyntaf ers 1911. Y flwyddyn wedyn, collwyd gêm yn erbyn De Affrica 6 -3. Cyflawnwyd y Gamp Lawn eto yn 1952, ac yna curwyd Seland Newydd 13 - 8 yn 1953. Yn 1954, chwaraewyd y gêm olaf yn San Helen, Abertawe, a daeth Parc yr Arfau, Caerdydd yn gartref swyddogol y tîm. Enillodd Cymru'r bencampwriaeth eto yn 1956.

Dilynwyd hyn gan nifer o dymhorau heb lawer o lwyddiant, ond rhannwyd y bencampwriaeth yn 1964. Y flwyddyn honno aeth Cymru ar daith am y tro cyntaf, i Dde Affrica, lle chwaraewyd nifer o gemau ac un gêm brawf. Collwyd y gêm brawf 24 -3, y gurfa waethaf ers 40 mlynedd. Enillodd Cymru y bencampwriaeth yn 1965 a 1966.

Apwyntiwyd hyfforddwr am y tro cyntaf yn 1967, David Nash, ond ymddiswyddodd pan wrthododd yr Undeb adael iddo fynd gyda'r tîm ar daith i'r Ariannin. Niweidiodd yr Undeb ei feddwl yn ddiweddarach, ac apwyntiwyd Clive Rowlands i deithio gyda'r tîm fel hyfforddwr. Nid oedd y tymor yn un llwyddiannus yn y bencampwriaeth; dim ond un gêm a enillwyd, a gorffennodd Cymru ar waelod y tabl. Y flwyddyn honno, chwaraeodd Gareth Edwards a Barry John eu gemau cyntaf i'r tîm cenedlaethol.

Y drydedd "oes aur" (1969–1979)

Enillodd Cymru bencampwriaeth 1969 a'r Goron Driphlyg, gan ddechrau'r hyn a ystyrir yn drydedd "oes aur" i rygbi Cymru. Y ddiweddarach y flwyddyn honno, bu Cymru ar daith yn Seland Newydd, ond collwyd y ddwy gêm brawf.

JPR Williams

Yn 1970, rhannodd Cymru'r bencampwriaeth a Ffrainc, a chwarae gêm gyfartal 6 - 6 yn erbyn De Affrica yng Nghaerdydd. Ym mhencampwriaeth 1971, cyflawnodd Cymru'r Gamp Lawn am y tro cyntaf ers 1952, gan ddefnyddio dim ond 16 chwaraewr yn y pedair gêm. Eu buddugoliaeth fwyaf nodedig oedd yn erbyn yr Alban. Roedd yr Alban ar y blaen yn hwyr yn y gêm pan sgoriodd Gerald Davies gais yn y gornel, a droswyd o'r llinell ochr gan John Taylor. Ystyrir tîm 1971 fel un o'r timau gorau yn hanes Cymru, gyda chwaraewyr fel Gareth Edwards, Barry John a J.P.R. Williams.

Yn ddiweddarach y flwyddyn honno, dewiswyd mwy o chwaraewyr Cymru nag o unrhyw dîm arall ar gyfer tîm y Llewod i fynd ar daith i Seland Newydd. Carwyn James oedd yr hyfforddwr, a Chymro arall, John Dawes yn gapten. Enillwyd y gyfres yn erbyn y Crysau Duon; y tro cyntaf i'r Llewod fod yn llwyddiannus yn Seland Newydd, a'r unig dro hyd yn hyn.

Yn 1972, roedd yr helyntion yng Ngogledd Iwerddon ar eu hanterth, a gwrthododd Cymru a'r Alban deithio i Ddulyn ar ôl iddynt dderbyn bygythiadau. Oherwydd hynny, ni enillodd neb y bencampwriaeth y flwyddyn honno, er i Gymru ennill y tair gêm a chwaraewyd ganddynt. Cyhoeddodd Barry John ei ymddeoliad, yn ddim ond 27 oed, y flwyddyn honno, ond roedd Cymru'n ffodus fod Phil Bennett ar gael i gymeryd ei le fel maswr. Yn 1973, rhannwyd y bencampwriaeth rhwng pob un o'r pum gwlad; yr un flwyddyn gorchfygodd Cymru dîm Awstralia 24 - 0 yng Nghaerdydd. Ym 1974 dilynwyd Clive Rowlands gan John Dawes fel hyfforddwr.

Enillodd Cymru y bencampwriaeth eto yn 1975, ac ym mhencampwriaeth 1976 cyflawnwyd y Gamp Lawn eto. Fel yn 1971, dim ond 16 charaewr a ddefnyddiwyd. Diweddwyd gyrfa un o chwaraewyr pwysicaf y tîm, Mervyn Davies, gan waedlif y tu mewn i'w graniwm, anaf a ddioddefodd pan oedd yn gapten Abertawe yn erbyn Pontypŵl mewn gêm ym 1976.

Enillwyd y Goron Driphlyg yn 1977, yna'r Gamp Lawn eto yn 1978. Yn dilyn gêm olaf y bencampwriaeth, ymddeolodd Gareth Edwards a Phil Bennett. Yn ddiweddarach yn y tymor, collodd Cymru 13 - 12 i'r Crysau Duon yng Nghaerdydd. Roedd hon yn gêm ddadleuol iawn; gan i un o chwaraewyr Seland Newydd, Andy Haden, gyfaddef yn ddiweddarach ei fod wedi disgyn allan o'r llinell yn fwriadol i ennill y gic gosb a roddodd fuddugoliaeth i'r Crysau Duon.

Enillodd Cymru y bencampwriaeth a'r Goron Driphlyg yn 1979. Hon oedd pencampwriaeth olaf “y drydedd oes aur” a'r tro diwethaf i Gymru ennill y bencampwriaeth ar eu pennau eu hunain hyd 1994. Yn yr un mlynedd ar ddeg rhwng 1969 a 1979, roedd Cymru wedi ennill y bencampwriaeth chwe gwaith a'i rhannu ddwywaith.

Cyfnod y trai (1980-1999)

Yn 1980, dathlwyd canmlwyddiant Undeb Rygbi Cymru gyda gêm yn erbyn Seland Newydd yng Nghaerdydd, ond collwyd o 23 - 3. Dim ond un gêm allan o bedair a enillwyd ym mhencampwriaeth 1982. Enillodd Cymru ddwy gêm allan o bedair ym mhencampwriaethau 1983 a 1984, ac yn 1983 cafwyd gêm annisgwyl o glos yn erbyn Japan yng Nghaerdydd, gyda Cymru'n ennill 29 - 24, yna collwyd i Awstralia 28 - 9. Dwy gêm allan o bedair a enillwyd ym mhencampwriaethau 1985 a 1986, a dim ond un yn 1987.

Yn 1987, cynhaliwyd Cwpan Rygbi'r Byd am y tro cyntaf, yn Seland Newydd. Daeth Cymru trwy'r grŵp heb ormod o drafferth, a churwyd Lloegr yn y rownd nesaf, ond yn y rownd gyn-derfynol fe'u curwyd 49 - 6 gan y Crysau Duon, a aeth ymlaen i ennill y gwpan. Llwyddodd Cymru i guro Awstralia i orffen yn drydydd, eu canlyniad gorau yng Nghwpan y Byd hyd yma. Rhannwyd y bencampwriaeth yn 1988 a Ffrainc, gan ennill tair o'r pedair gêm a chipio'r Goron Driphlyg; collwyd y cyfle am y Gamp Lawn pan gollodd Cymru 9-10 i Ffrainc yng Nghaerdydd yn y gêm olaf. Collodd Cymru'n drwm ar daith i Seland Newydd yn ddiweddarach yn y flwyddyn, a symudodd nifer o chwaraewyr allweddol i rygbi'r gynghrair. Gorffennodd Cymru ar waelod y tabl yn 1989, gan ennill dim ond un gêm.

Agorwyd Stadiwm y Mileniwm yn 1999 gyda gêm yn erbyn De Affrica.

Ym mhencampwriaeth 1990, collodd Cymru bob un o'u gemau am y tro cyntaf ers 1892 a dim ond y trydydd tro yn eu hanes. Bu bron i'r un peth ddigwydd y flwyddyn wedyn, gyda dim ond un pwynt am gêm gyfartal yn erbyn Iwerddon yng Nghaerdydd. Yng Nghwpan y Byd 1991, collodd Cymru eu gêm gyntaf yn erbyn Gorllewin Samoa, ac er iddynt guro'r Ariannin, collasant i Awstralia a mynd allan o'r gystadleuaeth ar ddiwedd y gemau grŵp. Ni chafwyd llawer o lwyddiant yn y bencampwriaeth yn 1992 a 1993, ond enillodd Cymru'r gystadleuaeth yn 1994 gyda Ieuan Evans yn gapten. Roedd y tîm yn dibynnu'n drwm ar Ieuan Evans ac ar gicio Neil Jenkins yn y cyfnod yma. Aeth Jenkins ymlaen i osod record y byd am y nifer fwyaf o bwyntiau mewn gemau rhyngwladol, record a barhaodd hyd 2008. Collwyd pob gêm ym mhencampwriaeth 1995, ac yng Nghwpan y Byd 1995, aeth Cymru allan ar ddiwedd y gemau grŵp unwaith eto. Penodwyd Kevin Bowring fel hyfforddwr proffesiynol cyntaf Cymru y flwyddyn honno. Ar 26 Awst 1995, symudwyd pob gwaharddiad ar daliadau i chwaraewyr, a daeth rygbi'r undeb ar y lefel uchaf yn gêm broffesiynol. Bu Cymru'n arafach na rhai o'u cystadleuwyr i addasu i'r drefn newydd, a dim ond un gêm a enillwyd ym mhencampwriaethau 1996 a 1997.

Yn 1998, apwyntiwyd Graham Henry o Seland Newydd fel hyfforddwr, a gwelwyd gwelliant yn y canlyniadau. Enillodd Cymru ddeg gêm yn olynol, yn cynnwys buddugoliaeth 29 - 19 yn erbyn De Affrica, pencampwyr y byd ar y bryd, mewn gêm i ddathlu agoriad Stadiwm y Mileniwm. Hon oedd buddugoliaeth gyntaf Cymru yn erbyn De Affrica. Ym mhencampwriaeth 1999, enillwyd dwy gêm, yn cynnwys buddugoliaeth annisgwyl o 32 - 31 yng ngêm olaf y bencampwriaeth, yn erbyn Lloegr, oedd yn mynd am y Gamp Lawn.

Cynhaliwyd Cwpan Rygbi'r Byd 1999 yng Nghymru, a llwyddodd y tîm cenedlaethol i ddod trwy'r gemau grŵp y tro hwn, cyn colli 24 - 9 i Awstralia, a aeth ymlaen i ennill y gystadleuaeth.

2000 - heddiw

Enillodd Cymru dair gêm allan o bump ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad 2000, a dwy gêm gydag un yn gyfartal ym mhencampwriaeth 2001.

Ymddiswyddodd Graham Henry wedi i Gymru golli 54 - 10 i Iwerddon ym mhencampwriaeth 2002, a daeth ei ddirprwy Steve Hansen yn hyfforddwr yn ei le. Wedi tymor gwael yn y bencampwriaeth yn 2003, pan gollwyd pob un o'r gemau, nid oedd disgwyliadau'n uchel ar gyfer Cwpan y Byd yn 2003. Er hynny, perfformiodd Cymru yn well na'r disgwyl. Er i Gymru golli i Seland Newydd yn eu grŵp, ystyrid y gêm yn un o oreuon y gystadleuaeth. Cyrhaeddodd Cymru y rownd nesaf, lle collasant mewn gêm gyffrous arall i Loegr, a aeth ymlaen i ennill y gystadleuaeth.

Ym mhencampwriaeth 2004, curwyd yr Alban a'r Eidal, ond collwyd y tair gêm arall, a gorffennodd Cymru yn bedwerydd yn y tabl. Ni adnewyddodd Steve Hansen ei gontract fel hyfforddwr, a dewiswyd Mike Ruddock i'w olynu.

Agorwyd tymor 2005 trwy ennill gêm agos rhyngddynt a Lloegr gyda sgor o 11 - 9. Cafwyd gêm gyffyrddus yn erbyn yr Eidal. Roedd y drydedd gêm yn erbyn Ffrainc yn agos 24- 18. Dangosodd y chwaraewyr eu cymeriad yn y gêm hon drwy ddod yn ôl yn yr ail hanner ac ennill o fod ar ei hêl hi ar hanner amser o 15-6. Cafwyd gêm hawdd yn erbyn yr Alban 46 - 22. Roedd y gêm olaf yn erbyn Iwerddon yn un galed ond enilodd Cymru o 32 i 20 yn Stadiwm y Mileniwm gan ennill ei cystadleuaeth gyntaf ers 1994 a'r Gamp Lawn gyntaf ers 1978. Yn ystod y tymor hwn roedd Cymru'n chwarae rygbi adloniadol drwy chwarae gêm agored wrth chwarae'r bêl yn gelfydd, sef y ffordd draddodiadol o chwarae i Gymru yn hytrach na dibynnu ar bwysau a bôn braich.

Cymru yn erbyn Ffrainc, Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, 2007

Dioddefodd amryw o chwaraewyr allweddol Cymru, Ryan Jones, Gavin Henson a Tom Shanklin, anafiadau tymor-hir yn ystod taith y Llewod i Seland Newydd ar ddiwedd 2005. Ar 14 Chwefror 2006, hanner ffordd trwy'r bencampwriaeth, ymddiswyddodd yr hyfforddwr, Mike Ruddock, yn annisgwyl, gan nodi rhesymau teulol. Daeth Scott Johnson yn hyfforddwr dros dro, ond tymor siomedig ydoedd, gyda Cymru'n gorffen yn bumed o'r chwe gwlad. Apwyntiwyd Gareth Jenkins yn hyfforddwr ar 27 Ebrill. Ym Mehefin 2006, aeth Cymru ar daith i chwarae dwy gêm brawf yn erbyn yr Ariannin, y gyntaf ohonynt yn Mhorth Madryn ym Mhatagonia i nodi'r cysylltiad Cymreig. Yr Ariannin a enillodd y ddwy gêm.

Bu'r tymor nesaf hefyd yn un siomedig, gyda Chymru'n colli pob un o'u pedair gêm gyntaf ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad, 2007. Dim ond buddugoliaeth yn y gêm olaf yn erbyn Lloegr a'u harbedodd rhag gorffen ar waelod y tabl. Bu perfformiad Cymru yng Nghwpan y Byd 2007 yn Ffrainc hefyd yn siomedig, er i rai o'r gemau gael eu cynnal yng Nghaerdydd. Collodd Cymry yng Nghaerdydd i Awstralia, yma collasant eto i Fiji, canlyniad oedd yn golygu eu bod yn mynd allan o'r gystadleuaeth ar ddiwedd eu gemau grŵp. Diswyddwyd Gareth Jenkins hyd yn oed cyn i'r tîm ddychwelyd i Gymru.

Ar 9 Tachwedd, 2007, apwyntiwyd Warren Gatland o Seland Newydd fel hyfforddwr. Dechreuodd ar ei waith ar 1 Rhagfyr, gyda Shaun Edwards o Loegr a Rob Howley o Gymru fel cynorthwywyr iddo. Ei gêm gyntaf fel hyfforddwr oedd gêm gyntaf Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad, 2008, yn erbyn Lloegr yn Twickenham ar 2 Chwefror. Roedd Lloegr wedi cyrraedd rownd derfynol Cwpan y Byd ychydig ynghynt, ac erbyn yr egwyl roeddynt 13 pwynt ar y blaen. Fodd bynnag, roedd perfformiad Cymru yn well o lawer yn yr ail hanner, ac enillwyd y gêm 26–19; buddugoliaeth gyntaf Cymru yn Twickenham ers 1988. Dilynwyd y gêm yma gan ddwy gêm yn Stadiwm y Mileniwm. Curwyd yr Alban 30-15, a'r Eidal 47–8, gyda Shane Williams yn sgorio dau gais ymhob un o'r ddwy gêm. Roedd y gêm nesaf yn Croke Park, Dulyn yn erbyn Iwerddon; disgwyliai llawer i Gymru golli, ond enillwyd 12–16, i ennill y Goron Driphlyg. Erbyn hyn, Ffrainc oedd yr unig dîm arall a siawns o ennill y bencampwriaeth, ond i wneud hynny, byddai raid iddynt guro Cymru yn y gêm olaf yng Nghaerdydd o 19 pwynt neu fwy. Roedd y gêm yn gyfartal 9-9 ychydig ar ôl yr egwyl, ond sgoriodd Shane Williams ei 41fed cais, gan osod record newydd, yna sgoriodd Martyn Williams gais arall ychydig cyn y diwedd i selio buddugoliaeth 29–12. Roedd hyn yn golygu fod Cymru nid yn unig yn ennill y bencampwriaeth ond y Gamp Lawn hefyd.

Dilynwyd hyn gan daith i Dde Affrica i chwarae dwy gêm brawf yn erbyn De Affrica, pencampwyr y byd. Roedd amrwyw o chwaraewyr yn absennol oherwydd anafiadau, a chollwyd y ddwy. Yn hydref 2008, chwaraeodd Cymru bedair gêm, gan golli i Dde Affrica a Seland Newydd ond ennill yn erbyn Canada ac Awstralia.

Record chwarae y tîm

Gemau yn erbyn prif dimau rygbi'r byd

Gwrthwynebydd Gemau Enillwyd Collwyd Cyfartal Canran enillwyd
Yr Alban 113 62 48 3 54.87
Ariannin 13 7 5 1 53.84
Awstralia 26 9 16 1 34.52
De Affrica 22 1 20 1 4.00
Yr Eidal 14 11 2 1 78.57
Ffrainc 85 43 39 3 50.59
Iwerddon 112 61 45 6 54.46
Lloegr 117 52 53 12 44.44
Seland Newydd 23 3 20 0 13.04

Pencampwriaeth y Chwe Gwlad

  Baner Lloegr Lloegr Baner Ffrainc Ffrainc Iwerddon Baner Yr Eidal Yr Eidal Baner Yr Alban Yr Alban Baner Cymru Cymru
Pencampwriaethau 107 76 107 8 107 107
Pencampwyr (Pencampwyr ar y cyd) 25 (10) 16 (7) 10 (8) 0 (0) 14 (8) 23 (11)
Y Gamp Lawn 12 8 1 0 3 10
Y Goron Driphlyg 23 N/A 9 N/A 10 19

Recordiau unigol

  Chwaraewr Nifer Cyfnod / blwyddyn Nodiadau
Nifer fwyaf o gapiau Gareth Thomas 100 1995 - 2007
Nifer fwyaf o gapiau yn olynol Gareth Edwards 53 1967 - 1978
Nifer fwyaf o bwyntiau Neil Jenkins 1,049 1991 - 2003 Record y byd hyd 2008
Nifer fwyaf o geisiau Shane Williams 45 2000 -
Nifer fwyaf o geisiau gan flaenwr Colin Charvis 22 1996 - 2007 Record y byd

Chwaraewyr Rygbi Cymru

Carfan 2009

Cyhoeddwyd carfan Cymru ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2009 ar 19 Ionawr 2009.

Cefnwyr
Chwaraewr
Safle Clwb
Gareth Cooper (*) Mewnwr Gloucester
Mike Phillips Mewnwr Gweilch
James Hook Maswr Gweilch
Stephen Jones Maswr Scarlets
Andrew Bishop Canolwr Gweilch
Gavin Henson Canolwr Gweilch
Jamie Roberts Canolwr Gleision Caerdydd
Tom Shanklin Canolwr Gleision Caerdydd
Leigh Halfpenny Asgellwr Gleision Caerdydd
Mark Jones Asgellwr Scarlets
Shane Williams Asgellwr Gweilch
Lee Byrne Cefnwr Gweilch
Blaenwyr
Chwaraewr
Safle Clwb
Gethin Jenkins Prop Gleision Caerdydd
Adam Jones Prop Gweilch
Rhys Thomas Prop Dreigiau Casnewydd Gwent
John Yapp Prop Gleision Caerdydd
Huw Bennett Bachwr Gweilch
Matthew Rees Bachwr Scarlets
Luke Charteris Clo Dreigiau Casnewydd Gwent
Bradley Davies Clo Gleision Caerdydd
Ian Gough Clo Gweilch
Alun Wyn Jones Clo Gweilch
Dafydd Jones Asgellwr Scarlets
Robin Sowden-Taylor Asgellwr Gleision Caerdydd
Jonathan Thomas Asgellwr Gweilch
Martyn Williams Asgellwr Gleision Caerdydd
Ryan Jones (c) Wythwr Gweilch
Andy Powell Wythwr Gleision Caerdydd
  • Wedi Gareth Cooper gael ei anafu, cymerwyd ei le gan Dwayne Peel

Carfan 2008

Stephen Jones

Enwogion y gorffennol

Arthur Gould

Llyfryddiaeth

  • Androw Bennett Welsh Rugby heroes (Talybont: Y Lolfa, 2002) ISBN 0862435528
  • John Billot History of Welsh international rugby (Caerdydd: Roman Way Books, 1999) ISBN 0951537911
  • Thomas Davies Gaeaf gwyn a hafau duon: tim rygbi Cymru, Mai 1987-Mehefin 1988 (Capel Garmon: Gwasg Carreg Gwalch, 1988) ISBN 0863811124
  • Gareth Edwards The golden years of Welsh rugby gol. David Parry-Jones (Llundain: Harrap, 1982) ISBN 0245538364
  • Howard Evans Welsh international matches, 1881-2000 (Caeredin: Mainstream, 1999) ISBN 1840182156
  • Royston James (gol) Can llwyddiant: cyfrol i ddathlu canmlwyddiant Undeb Rygbi Cymru (Abertawe: Christopher Davies, 1981) ISBN 0715405829
  • R. Gerallt Jones, Huw Llewelyn Davies a Carwyn James Y gamp lawn: golwg ar y tîm a'r tymor (Talybont: Y Lolfa, 1978) ISBN 904864685
  • Steve Lewis The priceless gift: 125 years of Welsh rugby captains (Caeredin:Mainstream, 2005) ISBN 1840189541
  • David Parry-Jones The Dawes decades: John Dawes and the third golden era of Welsh rugby (Pen-y-bont ar Ogwr: Seren, 2005) ISBN 1854113879
  • David Parry-Jones The Gwilliam seasons: John Gwilliam and the second golden era of Welsh Rugby (Pen-y-bont ar Ogwr: Seren, 2002) ISBN 1854113275
  • David Parry-Jones Prince Gwyn: Gwyn Nicholls and the first golden era of Welsh rugby Pen-y-bont ar Ogwr: Seren, 1999) ISBN 1854112627
  • Paul Rees Grand Slam!: year of the dragon (Caeredin: Mainstream, 2005) ISBN 1845960610
  • David Smith Fields of Praise: the official history of the Welsh Rugby Union (Gwasg Prifysgol Cymru, 1980) ISBN 0-7083-0766-3
  • Wayne Thomas A century of Welsh rugby players (Aston Brewery, Ansells Brewery Ltd, 1979)

Cyfeiriadau

  1. [1] Erthygl o'r enw: Historical Rugby Milestones 1880s

Cysylltiad allanol