Barack Obama: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
JAnDbot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn newid: ca:Barack Obama
Garik (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 33: Llinell 33:
| gwefan = [http://www.change.gov/ Obama-Biden Transition Team]
| gwefan = [http://www.change.gov/ Obama-Biden Transition Team]
}}
}}
'''Barack Hussein Obama II''' yw'r 44ain [[Arlywydd Unol Daleithiau America|Arlywydd yr Unol Daleithiau]]. Mae o'n aelod o'r[[Plaid Democrataidd (Unol Daleithiau)|blaid Ddemocraidd]], . Roedd Obama yn Seneddwr o [[Illinois]] o [[2004]] hyd [[2008]]. Cafodd ei ethol yn etholiad arlywyddol Tachwedd 2008 yn erbyn [[John McCain]]. Roedd [[Oprah Winfrey]] a [[Ted Kennedy]] yn ei gefnogi.
'''Barack Hussein Obama II''' yw 44ain [[Arlywydd Unol Daleithiau America|Arlywydd yr Unol Daleithiau]]. Mae'n aelod o'r [[Plaid Democrataidd (Unol Daleithiau)|blaid Ddemocraidd]]. Yr oedd Obama yn Seneddwr o [[Illinois]] o [[2004]] hyd [[2008]]. Cafodd ei ethol yn etholiad arlywyddol Tachwedd 2008 yn erbyn [[John McCain]]. Yr oedd [[Oprah Winfrey]] a [[Ted Kennedy]] yn ei gefnogi.


Ef ydy'r Americanwr Affricanaidd cyntaf i gael ei ethol yn Arlywydd yr Unol Daleithiau. Graddiodd ym [[Prifysgol Columbia|Mhrifysgol Columbia]] a [[Prifysgol y Gyfraith, Harvard|Phrifysgol y Gyfraith, Harvard]]. Ar ôl cyhoeddi ei fod am sefyll am yr arlywyddiaeth yn Chwefror 2007, cyhoeddodd hefyd ei ddymuniad i weld milwyr ei wlad yn tynnu allan o [[Irac]] a chau .
Ef ydy'r Americanwr Affricanaidd cyntaf i gael ei ethol yn Arlywydd yr Unol Daleithiau. Graddiodd ym [[Prifysgol Columbia|Mhrifysgol Columbia]] a [[Prifysgol y Gyfraith, Harvard|Phrifysgol y Gyfraith, Harvard]]. Ar ôl cyhoeddi ei fod am sefyll am yr arlywyddiaeth yn Chwefror 2007, cyhoeddodd hefyd ei ddymuniad i weld milwyr ei wlad yn tynnu allan o [[Irac]] a chau .

Fersiwn yn ôl 12:55, 26 Chwefror 2009

Barack Hussein Obama II
Barack Obama


Deiliad
Cymryd y swydd
20 Ionawr 2009
Is-Arlywydd(ion)   Joe Biden
Rhagflaenydd George W. Bush

Cyfnod yn y swydd
3 Ionawr 2005 – 16 Tachwedd 2008
Rhagflaenydd Peter Fitzgerald
Olynydd Roland Burris

Aelod o Senedd (13ydd ardal)  Illinois
Cyfnod yn y swydd
8 Ionawr 1997 – 4 Tachwedd 2004
Rhagflaenydd Alice Palmer
Olynydd Kwame Raoul

Geni (1961-08-04) 4 Awst 1961 (62 oed)
Honolulu, Hawaii, UDA
Plaid wleidyddol Democratwr
Priod Michelle Obama (p. 1992)
Cartref Kenwood, Chicago, Illinois
Alma mater Prifysgol Columbia
Ysgol y Gyfraith Harvard
Galwedigaeth Cyfreithiwr
Gwleidydd
Crefydd United Church of Christ
Gwefan Obama-Biden Transition Team
Llofnod

Barack Hussein Obama II yw 44ain Arlywydd yr Unol Daleithiau. Mae'n aelod o'r blaid Ddemocraidd. Yr oedd Obama yn Seneddwr o Illinois o 2004 hyd 2008. Cafodd ei ethol yn etholiad arlywyddol Tachwedd 2008 yn erbyn John McCain. Yr oedd Oprah Winfrey a Ted Kennedy yn ei gefnogi.

Ef ydy'r Americanwr Affricanaidd cyntaf i gael ei ethol yn Arlywydd yr Unol Daleithiau. Graddiodd ym Mhrifysgol Columbia a Phrifysgol y Gyfraith, Harvard. Ar ôl cyhoeddi ei fod am sefyll am yr arlywyddiaeth yn Chwefror 2007, cyhoeddodd hefyd ei ddymuniad i weld milwyr ei wlad yn tynnu allan o Irac a chau .

Ei Hanes Cynnar

Ganwyd Obama ar 4 Awst 1961 yn Honolulu, Hawaii; yn fab i Barack Obama, Senior, dyn du o Nyang’oma Kogelo yn Kenya ac Ann Dunham, Americanes croen wyn o Wichita, Kansas. Cyfarfu ei rieni tra roeddent ym Mhrifysgol Hawaii.[1] Gwahanodd y ddau pan oedd Obama yn ddwy oed.[2] Dychwelodd tad Obama i Affrica, lle bu farw mewn damwain car yn 1982. Ailbriododd ei fam gyda dyn o'r enw Lolo Setoro, a symudodd y teulu i'w wlad enedigol ef, sef Indonesia, yn 1967. Yno, yn Jakarta, yr aeth Obama i'r ysgol gynradd hyd iddo droi'n ddeg oed.[3] Dychwelodd yr adeg hynny i Honolulu i fyw gyda'i daid a'i nain er mwyn mynychu Ysgol Punahou, gadawodd yr ysgol uwchradd honno yn 1979. Bu farw ei fam o gancr yn 1995.[4]Aeth i'r 'Occidental College' yn Los Angeles am ddwy flynedd ac yna i Brifysgol Columbia.

Gwaith

Gweithiodd yn Efrog Newydd a Chicago am rai blynyddoedd. Dychwelodd i Kenya, am gyfnod o bum wythnos yn 1988, i weld rhai o'i berthnasau.[5] Hefyd:

  • Gwaith cymdeithasol
  • Dychwelodd i Brifysgol y Gyfraith, Harvard (1988-1991)
  • Llywydd llawn amser yr Havard Law Review 1991
  • Gweithio i gyfreithwyr yn Chicago: Sidley & Austin yn 1989 a Hopkins & Sutter yn 1990
  • Sgwennu llyfr am hiliaeth: Dreams from My Father
  • Cyfarwyddwr Illinois Project Vote rhwng Ebrill a Hydref 1992
  • Darlithio am ddeuddeg mlynedd yn Ysgol y Gyfraith, Prifysgol Chicago; hyd at 2004
  • Cyfreithiwr gyda chwmni Davis, Miner, Barnhill & Galland hyd at 2004
  • Ar fwrdd Cyfarwyddo nifer o gwmnïau megis y Woods Fund of Chicago ar yr un pryd.

Y Gwleidydd

Cafodd Obama ei ethol i Senedd Illinois yn 1996 gan ganolbwyntio ei bolisiau ar bobl tlawd, hawliau sifil, lleihau'r dreth a chodi budd-daliadau plant. Cafodd ei ail-ethol i'r un sedd yn 1998, ac eto yn 2002. Ym mis Tachwedd 2004, cafodd ei ethol i Senedd yr Unol Daleithiau.

Polisïau

Israel a'r Palesteiniaid

Mae cael cefnogaeth y lobi Seionaidd dylanwadol AIPAC yn hanfodol i ymgeiswyr am arlywyddiaeth yr Unol Daleithiau. Traddododd Obama araith yng Nghynhadledd Flynyddol AIPAC 2008. Yn ogystal â gaddo cefnogi Israel, fel sy'n arferol gan wleidyddion UDA, datganodd fod Jeriwsalem yn "brifddinas Israel am byth", gan fynd yn erbyn un o brif hawliau'r Palesteiniaid sef bod Dwyrain Jeriwsalem a Mosg Al-Aqsa yn perthyn iddyn nhw.[6] Datganodd: "Our alliance is based on shared interests and shared values. Those who threaten Israel threaten us. And I will bring to the Whitehouse an unshakeable commitment to Israel's security... I will ensure that Israel can defend itself from any threat - from Gaza to Tehran."[7]

Yn ei ddatganiadau polisi ar y cyd â Joe Biden ar gyfer yr etholiad, gwnaeth Obama dri phwynt am ei bolisi tuag at Israel:[8]

  1. Sicrhau partneriaeth gref rhwng Israel ac UDA. Dywedodd, "our first and incontrovertible commitment in the Middle East must be to the security of Israel, America's strongest ally in the Middle East."
  2. Cefnogi "hawl Israel i amddiffyn ei hun" gan gyfeirio at y gefnogaeth lwyr a roddodd i Israel yn Rhyfel Libanus 2006.
  3. Cefnogi Cymorth Tramor i Israel. Dywedodd ei fod yn cefnogi ac amddiffyn y pecyn cymorth tramor blynyddol i Israel, sy'n cynnwys cymorth milwrol ac economaidd. Cofnododd hefyd fod ef a Biden wedi galw am gynyddu cyllidau cymorth tramor "to ensure that these funding priorities are met." Roedd wedi galw am barhau cydweithio milwrol ag Israel, e.e. i ddatblygu systemau taflegrau amddiffynnol. Mae hyn yn adlewyrchu ei ddatganiadau cryf o blaid cydweithio'n filwrol ag Israel yn y gorffennol, e.e. yng Nghynghadledd AIPAC yn Ebrill 2008: "Defense cooperation between Israel and the United States is a model of success, and must be deepened. As president, I will implement a Memorandum of Understanding that provides $30 billion (£30,000 miliwn) of assistance to Israel over the next decade, investments to Israel's security that will not be tied to any other nation." Ychwanegodd "We should export military equipment to our ally Israel under the same guidelines as NATO."[9]

Cafodd Obama ei feirniadu'n hallt gan sylwebwyr yn y Dwyrain Canol a'r byd Islamaidd am beidio deud dim am ddioddefiant y Palesteiniaid yn Gaza. Yn ei araith agoriadol fel Arlywydd ar yr 20fed o Ionawr 2009, ni chyfeiriodd at y sefyllfa yn Gaza o gwbl.

Cyfeiriadau

  1. Obama (1995), pp. 9–10. "Barack Obama: Creation of Tales", East African (Tach 1, 2004).
  2. Obama (1995), pp. 125–126. Gweler hefyd: Jones, Tim (March 27, 2007). "Obama's Mom: Not Just a Girl from Kansas", Chicago Tribune.
  3. Serafin, Peter (Mawrth 21, 2004). "Punahou Grad Stirs Up Illinois Politics", Honolulu Star-Bulletin.
  4. Ripley, Amanda (Ebrill 9, 2008). "The Story of Barack Obama's Mother", Time.
  5. Obama (1995), pp. 299–437
  6. "Obama, Israel and AIPAC", erthygl gan Uri Avnery ar Counterpunch.
  7. Israel Fact Sheet ar wefan bersonol Barack Obama.
  8. Datganiadau Polisi Tramor Obama a Biden
  9. Israel Fact Sheet ar wefan bersonol Barack Obama.

Dolenni allanol

Cyngres yr Unol Daleithiau
Rhagflaenydd:
Peter Fitzgerald
Seneddwr dros Illinois
gyda Richard Durbin

20052008
Olynydd:
Roland Burris
Swyddi gwleidyddol
Rhagflaenydd:
George W. Bush
Arlywydd Unol Daleithiau America
20 Ionawr 2009presennol
Olynydd:
deiliad
Swyddi gwleidyddol pleidiol
Rhagflaenydd:
John Kerry
Ymgeisydd Arlywyddol y Blaid Democrataidd
2008 (ennill)
Olynydd:
presennol
Baner Unol Daleithiau AmericaEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Americanwr neu Americanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol ak:Ɔbenem