Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Camlas Abertawe"

Jump to navigation Jump to search
Ychwanegwyd 978 beit ,  2 flynedd yn ôl
Ehangu’r erthygl
(Hanes a dyfodol Camlas Abertawe)
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol
 
(Ehangu’r erthygl)
Tagiau: Golygu gyda'r llygad Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol
Camlas Abertawe
 
Agorodd Camlas Abertawe ym 1798. Rhedodd o ddociau Abertawe am 16 milltir lan Cwm Tawe at Abercraf. Oedd eisiau 10 loc i gyrraedd Pontardawe a 26 mwy i ddringo i Hen Neuadd Abercraf. Gwasanaethodd gweithfeydd alcam, dur a glofeydd. Oedd 4 cangen byr, fel enghraifft cangen Waun Coed rhwng Pontardawe ac Ynysmeudw. Rhedodd ar draws llawr y cwm i wasanaethau glofeydd uwchben yn ardal Gelli nudd.
 
Caewyd ym 1931.
 
Collwyd darnau i heolydd a datblygiadau ac erbyn 2018, rhedodd y gamlas o Glydach i Drebannws, ac o Bontardawe i Odre’r Graig.
 
Mae’r Ymddiriedolaeth Afonydd a Chamlesi (sy’n perchen y rhan fwyaf o afonydd a chamlesi trwy’r DU), yn perchen y gamlas, a mae’n dal i gyflenwi dŵr i waith nicel Y Mond.
 
Sefydlwyd Cymdeithas Gamlas Abertawe ym 1981. Ar hyn o bryd mae gwirfyddolwyr y Gymdeithas yn cynorthwyo’r Ymddiriedolaeth gyda gwaith cynnal a chadw. Mae gweithgareddau’r Gymdeithas i atgyweirio’r gamlas yn canolbwyntio ar lociau Trebannws, loc Clydach y Mond ac ar brosiect mawr i ailagor y gamlas ( a loc ) trwy hen iard y Cyngor yng Nghlydach.
24

golygiad

Llywio