Calan Mai: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
BDim crynodeb golygu |
|||
Llinell 14: | Llinell 14: | ||
* Ar noson Calan Mai yn [[Sir Fôn]] a [[Sir Gaernarfon]] arferid chwarae gŵr gwyllt (neu grogi gŵr gwellt). Pe bai dyn yn colli ei gariad i berson arall, arferai wneud fodel bychan ohono gyda gwellt a'i guddio wrth dŷ ei gariad. Rhoddid nodyn bychan wedi ei glymu i'r dyn gwellt i ddo a lwc drwg i'r lleidr calon. |

||
* Arferid canu carolau Mai, carolau dan y pared neu garolau haf: caneuon eithaf erotig. |
* Arferid canu carolau Mai, carolau dan y pared neu garolau haf: caneuon eithaf erotig. |
||
* Yfwyd medd a meddyglyn (medd a pherlysiau) i ddathlu'r ŵyl. |
* Yfwyd [[medd]] a [[meddyglyn]] (medd a [[perlysiau|pherlysiau]]) i ddathlu'r ŵyl. |
||
==Gweler hefyd:== |
==Gweler hefyd:== |
Fersiwn yn ôl 09:19, 21 Chwefror 2009
Hen ŵyl Geltaidd ydyw Calan Mai (neu Gŵyl Calan Mai) sef 1 Mai, y cyntaf o Fai. Gelwir hi hefyd Beltane, neu Cétshamhain mewn Gwyddeleg. Mae'r duw Belenos (Beli Mawr i'r Cymry) yn ymwneud â'r ŵyl bwysig hon. Yng nghalendr y Celtiaid, mae'n gorwedd rhwng Gŵyl Fair (1 Chwefror) ac Alban Hefin (21 Mehefin).
Yn y Sanas Cormac dywedir fod gan y derwyddon le pwysig iawn i'w chwarae mewn cynnau tân tua'r adeg hon o'r flwyddyn gan yrru gwartheg rhwng y tanau er wmyn eu cadw rhag clefydau.
Gŵyl ffrwythlondeb a thwf oedd hon yn bennaf ac fe'i dethlir hi heddiw drwy'r byd. Arferid cynnau coelcerthi ar Galan Mai hyd at ganol y 19ed ganrif yn ne Cymru.
Yn ôl y Mabinogi arferai Gwyn ap Nudd a Gwythyr fab Greidawl ymryson â'i gilydd am law Creiddylad brydferth pob Calan Mai.
Traddodiadau
- Ar nos Calan Mai (h.y. y noson cyn y cyntaf o Fai) arferid casglu canghennau o'r ddraenen wen a blodau eraill i addurno'r tu allan i'r tŷ fel sumbol o dwf.
- Ar noson Calan Mai yn Sir Fôn a Sir Gaernarfon arferid chwarae gŵr gwyllt (neu grogi gŵr gwellt). Pe bai dyn yn colli ei gariad i berson arall, arferai wneud fodel bychan ohono gyda gwellt a'i guddio wrth dŷ ei gariad. Rhoddid nodyn bychan wedi ei glymu i'r dyn gwellt i ddo a lwc drwg i'r lleidr calon.
- Arferid canu carolau Mai, carolau dan y pared neu garolau haf: caneuon eithaf erotig.
- Yfwyd medd a meddyglyn (medd a pherlysiau) i ddathlu'r ŵyl.
Gweler hefyd:
Ffynonellau:
- Trefor M. Owen. Welsh Folk Customs. Gwasg Gomer, Llandysul 1987.
- Duwiau'r Celtiaid gan Gwyn Thomas, Llafar Gwlad 24.