Wicipedia:Pwll tywod: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
{{shortcut|WP:SB}}
===Dyma'r lle i weld os mae eich cod yn gweithio'n iawn===
===Dyma'r lle i weld os mae eich cod yn gweithio'n iawn===
#'''Gwasgwch ar y botwm ''Golygu cod y dudalen'' uchod
#'''Gwasgwch ar y botwm ''Golygu cod y dudalen'' uchod

Fersiwn yn ôl 00:09, 1 Ebrill 2018

Llwybr(au) brys:
WP:SB

Dyma'r lle i weld os mae eich cod yn gweithio'n iawn

  1. Gwasgwch ar y botwm Golygu cod y dudalen uchod
  2. Gludwch eich testun o dan y llinnell +++
  3. Cliciwch y botwm Dangos Rhagolwg isod.
  4. Plîs - Peidiwch â gwasgu'r botwm Cadw'r dudalen


Gludwch eich testun o dan y llinnell
+++++++++++++++++++++++++++++++++++++++++++++++++++++++++


Capital T, rapiwr o Albaneg o Cosofo


Capital T yw enw llwyfan Kushtrim Ademi a anwyd ar 1 Mawrth 1991 yn Priština, Cosofo. Mae'n gyfansoddwr, rapiwr a chanwr sy'n canu yn yr iaith Albaneg yn arbennig yn tafodiaeth Gheg a siaradir yng ngogledd Albania a Kosofo a'i ddinas enedigol, Priština, sef prifddinas Cosofo.

Bywyd

Mynychodd Kushtrim Ademi ysgol uwchradd (Gymnasium) Sami Frashëri yn Priština lle ddechreuodd ei ddiddordeb mewn cerddoriaeth. Ysbrydolwyd ef i ddechrau rapio gan ei ewythr, brawd ei fam, y rapiwr Besnik Canolli, un hanner o'r ddeuawd rapio Albaneg, 2po2, gydag Arben Mehmeti.

Yn 18 oed, canodd Kushtrim Ademi y gân, Shopping ar Video Festi Muzikor 2009, ac yna, flwyddyn yn hwyrach, cyhoeddwyd Shum Nalt, gwaith ar y cyd gyda Dafina Zeqiri a 2po2. Yn 2010 canodd y gân Diva gydag Eni Koçi yng nghystadleuaeth Kënga Magjike gan gyrraedd y rownd gyn-derfynnol.

Ers hynny, mae Ademi, o dan ei enw llwyfan Capital T wedi perfformio a chyfansoddi. Mae hefyd yn arddel y llys-enw, Trimi. Ymysg ei hits mwyaf mae Një Ëndërr ('breuddwyd') gydag Alban Skenderai; Pse po ma lun lojen ('pam bod hi mor hir') a Pasha Jeten. Ffilmiwyd fideo Pasha Jeten ('gyda bywyd') yn Skopje, prifddinas Macedonia. Er bod yn pensaerniaeth yn ymdebygu ar yr olwg gyntaf i Paris, Skopje yw'r lleoliad. Mae oddeutu 20% o boblogaeth Macedonia yn Albaneg.

Personol

Bu Capital T yn byw am gyfnod yn yr Unol Daleithiau, ond mae bellach nôl yn ei famwlad. Authentic Entertainment, lapel recordio ei ewythr, 2po2 sy'n cyhoeddi mwyafrif ei gerddoriaeth.

Disgograffi

Albymau

  • 2010: Replay
  • 2012: Kapo
  • 2015: Slumdog Millionaire
  • 2017: Winter Is Here

Senglau

2008
  • Shopping
2009
  • Shum Nalt
  • Supersweet
2010
  • Ma E Mira
2011
  • Make a wish
  • Ku Jon Paret
  • U Bo Von
2012
  • Veç Asaj
  • Karma
  • As Gucci As Luis
2013
  • Zero
  • Dit E Re
2014
  • Hapat E Mi
  • Posh (feat. 2po2)
  • Ballin (feat. Mc Kresha)
  • Kur Fol Zemra
2015
  • Qka Don Ajo
  • Pare Pare
2016
  • Hitman
  • Thirrem n Telefon (feat. Granit Derguti)
  • Bongo (feat. Dhurata Dora)
  • C'est La guerre
  • Koka Kola
2017
  • UNO
  • Hatixhe
  • Lule
  • Andiamo (feat. Ardian Bujupi)
  • Pse Po Ma Lun Lojen
  • Pa Cenzur (feat. Vig Poppa & Lyrical Son)
  • NUMRA (feat McKresha)

Senglau ar y Cyd

2013
2014
  • Prishtinali (2po2 feat. DJ Blunt, Lumi B, Lyrical Son, Capital T, Real 1, Mixey & DJ Flow)
  • Sonte (Flori Mumajesi feat. Capital T)

Dolenni