MI6: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
JAnDbot (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 43: Llinell 43:
[[ru:Секретная разведывательная служба]]
[[ru:Секретная разведывательная служба]]
[[simple:Secret Intelligence Service]]
[[simple:Secret Intelligence Service]]
[[sl:MI6]]
[[sl:Secret Intelligence Service]]
[[sq:Secret Intelligence Service]]
[[sq:Secret Intelligence Service]]
[[sr:MI6]]
[[sr:MI6]]

Fersiwn yn ôl 12:27, 19 Chwefror 2009

Pencadlys MI6

MI6 yw'r enw arferol a roddir ar y Gwasanaeth Gwybodaeth Gyfrinachol[1] (Saesneg: Secret Intelligence Service neu'r (SIS)), un o asiantaethau diogelwch y Deyrnas Unedig. Y Gwasanaeth Gwybodaeth Gyfrinachol yw asiantaeth cudd-ymchwil allanol y Deyrnas Unedig, sy'n rhan o gymuned cudd-ymchwil y wladwriaeth honno. Mae'n cyd-weithio â'r Gwasanaethau Diogelwch (MI5), Pencadlys Cyfathrebu'r Llywodraeth a'r Gweithlu Cudd-ymchwil Amddiffyn o dan gyfarwyddyd y Pwyllgor Cudd-ymchwil ar y Cyd (y Joint Intelligence Committee (JIC)). Syr John Scarlett yw'r pennaeth presennol.[2]

Ers 1995, lleolir pencadlys y Gwasanaeth Gwybodaeth Gyfrinachol yn Vauxhall Cross ar lan ddeheuol yr afon Tafwys, yn Llundain.

Gweithgareddau

Wrth i UDA a'r DU baratoi i oresgyn Irac in 2003, gweithredodd MI6 "Operation Mass Appeal", sef ymgyrch i blannu straeon ffug yng nghyfryngau gwledydd Prydain am Arfau Dinistriol Torfol (WMD) ym meddiant Irac er mwyn cefnogi'r llywodraethau hynny, a oedd yn ceisio defnyddio'r honiad am y WMDau fel esgus cyfreithiol dros y rhyfel yn y Cenhedloedd Unedig. Cafodd yr ymgyrch cudd yma ei ddatguddio gan y Sunday Times yn Rhagfyr 2003.[3] Mae honiadau gan y cyn-swyddog MI6 Scott Ritter yn awgrymu fod yr asiantaeth yn gyfrifol am ymgyrchoedd propaganda cyffelyb yn erbyn Irac ers y 1990au cynnar. Mae Ritter yn dweud bod MI6 wedi ei recriwtio yn 1997 i cynorthwyo'r ymgyrch propaganda. Dywed: "The aim was to convince the public that Iraq was a far greater threat than it actually was."[4] Mae gweithgareddau o'r fath yn mynd yn erbyn rheolau gweithredol MI6 ei hun, am nad yw'n fod i ymyryd ym materion mewnol y DU.

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Eginyn erthygl sydd uchod am y Deyrnas Unedig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato