Llyn Yamdrok: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
TXiKiBoT (sgwrs | cyfraniadau) B robot yn ychwanegu: de, lt, ru, zh |
B robot yn ychwanegu: fr:Yamdrok-Tso |
||
Llinell 10: | Llinell 10: | ||
[[de:Yamzhog Yumco]] |
[[de:Yamzhog Yumco]] |
||
[[en:Yamdrok Lake]] |
[[en:Yamdrok Lake]] |
||
[[fr:Yamdrok-Tso]] |
|||
[[lt:Jamdrokas]] |
[[lt:Jamdrokas]] |
||
[[ru:Ямдрок Цо]] |
[[ru:Ямдрок Цо]] |
Fersiwn yn ôl 19:12, 18 Chwefror 2009
Llyn yn rhaglawiaeth Lhasa, Tibet, a ystyrir yn un o lynnoedd sanctaidd y wlad honno, yw Llyn Yamdrok (Tibeteg: Yamdrok Yumtso, ཡར་འབྲོག་གཡུ་མཚོ་ Yamdrok Yumtso neu Yamdrok Tso; Wylie: Yar-'brog G.yu-mtsho). Ei hyd yw tua 72 km (45 milltir). Amgylchynnir y llyn gan sawl copa eiraog ac mae'n cael ei fwydo gan nifer o ffrydiau sy'n disgyn o lethrau'r mynyddoedd hynny. Mae'n gorwedd tua 90 km i'r dwyrain o dref Gyantse a thua 100km i'r de-ddwyrain o Lhasa. Yn ôl traddodiad mae'n gartref i dduwies leol.
Fel Lhamo La-tso, Llyn Namtso a Llyn Manasarovar, mae Yamdrok yn un o lynnoedd sanctaidd Bwdhaeth Tibet. Caiff ei barchu fel talisman sy'n un o'r lleoedd sy'n cynrychioli ysbryd cenedl y Tibetiaid. Dyma'r llyn mwyaf yn Ne Tibet. Ceir tua dwsin o ynysoedd arno, gyda un ohonynt yn gartref i Fynachlog Samding, yr unig fynachlog yn Nhibet gydag abades yn bennaeth ar gymuned o fynachod.