Muhammad Ahmad al-Mahdi: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B robot yn ychwanegu: gl:Muhammad Ahmad ibn Abd Allah Al-Mahdi |
Alexbot (sgwrs | cyfraniadau) B robot yn ychwanegu: zh:穆罕默德·艾哈迈德 |
||
Llinell 39: | Llinell 39: | ||
[[sw:Muhammad Ahmad ibn Abd Allah Al-Mahdi]] |
[[sw:Muhammad Ahmad ibn Abd Allah Al-Mahdi]] |
||
[[tr:Muhammed Ahmed]] |
[[tr:Muhammed Ahmed]] |
||
[[zh:穆罕默德·艾哈迈德]] |
Fersiwn yn ôl 08:21, 16 Chwefror 2009
Roedd Muhammad Ahmad al-Mahdi neu al-Mahdi (1844 - Mehefin, 1885) yn arweinydd gwrthryfel yn erbyn ymerodraeth Prydain yn y Sudan.
Ei hanes
Cafodd weledigaeth gyfriniol a chredodd mai ei genhadaeth oedd arwain ei bobl i ryddid. Datganodd ei fod y Mahdi a chywynodd wrthryfel yn erbyn llywodraeth yr Aifft (a reolai Sudan yn enw Prydain). Cipiodd Khartoum o ddwylo'r Cadfridog Gordon ym mis Ionawr 1885 ond bu farw rhai misoedd yn ddiweddarach yn Omdurman, efallai o golera.
Cafodd y Mahdi ei ddemoneiddio gan haneswyr poblogaidd cyfnod yr ymerodraeth Brydeinig.
Al-Mahdi
Ystyr y gair Arabeg al-Mahdi yw "Yr Un Sy'n Cael ei Dywys". Teitl crefyddol yn nhraddodiad Islam ydyw. Gellid cymharu'r cred yn y Mahdi â chred rhai Cristnogion yn ail-ddyfodiad y Meseia.