Gerald Morgan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'thumb|Gerald Morgan, Aberystwyth Mae '''Gerald Morgan''' yn awdur ac addysgwr. Ganwyd ef yn Brighton, Lloegr yn 1935...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 12:04, 28 Mawrth 2018

Delwedd:Gerald-Morgan-200px.jpg
Gerald Morgan, Aberystwyth

Mae Gerald Morgan yn awdur ac addysgwr. Ganwyd ef yn Brighton, Lloegr yn 1935 i rieni o Gymry.

Addysg

Ganed Gerald Morgan yn Brighton yn 1935 i rieni o Gymry, ond di-Gymraeg. Aeth ati i ddygu Cymraeg, "o ddim" pan oedd yn ddyn ifanc.[1] Graddiodd mewn Saesneg o Brifysgol Caergrawnt ac mewn mewn Astudiaethau Celtaidd o Brifysgol Rhydychen gan symud i fyw i Gymru yn 1962. Bu'n athro Saesneg yn yr Ysgol Maes Garmon, Yr Wyddgrug ac Ysgol Uwchradd Aberteifi cyn dod yn brifathro ar Ysgol Uwchradd Llangefni cyn cael ei benodi’n brifathro cyntaf Ysgol Gyfun Gymraeg Penweddig yn 1973.

Awdur

Mae Gerald Morgan wedi bod yn awdur toreithiog yn y Gymraeg a'r Saesneg dros gyfnod o hanner canrif. Ymysg ei lyfrau mae: Yr Afal Aur (1965), The Dragon’s Tongue: The Fortunes of the Welsh Language (1966), This World of Wales (editor; 1968), Crist yn y Gwlag (1986), Castles in Wales: A Guidebook (2008), A Brief History of Wales (2008), Looking for Wales (2013) a Dinefwr: a Phoenix in the Welsh Landscape (2014).

Mae hefyd wedi ysgrifennu’n fynych ar Geredigion: Cyfoeth y Cardi (1995), Helyntion Y Cardi – Ysgrifau Ar Hanes Ceredigion (1997), A Welsh House and its Family: the Vaughans of Trawscoed (1997), Nanteos: A Welsh House and its Families (editor; 2001), Ceredigion: A Wealth of History (2005), Llwybr Arfordir Ceredigion – O’r Teifi i’r Dyfi / Ceredigion Coast Path – From the Teifi to the Dyfi (2008).

Tywysydd Parêd Gŵyl Dewi Aberystwyth =

Gerald Morgan, Parêd Gwyl Dewi Aberystwyth 2015

Yn 2015 penodwyd Gerald i rôl 'Tywysydd' Tywysydd Parêd Gŵyl Dewi Aberystwyth a gynhaliwyd ar ddydd Sadwrn 28 Chwefror. Mae bod yn Dywysydd yn arwydd o anrhydedd fel cydnabyddiaeth am gyfraniad i Gymreictod a'r Gymraeg yn ardal Aberystwyth.

Nododd Cadeirydd y Parêd, Siôn Jobbins mewn datganiad i'r wasg adeg yr orymdaith, fod "Gerald wedi bod yn bont rhwng siaradwyr Cymraeg a dysgwyr ers degawdau. Er ei fod o deulu Cymreig doedd ganddo dim Cymraeg a bu’n rhaid iddo ddechrau 'o ddim' cyn dod yn rhugl yn yr iaith. Mae hyn, a’i ddealltwriaeth dwfn o Gymru ac o’i deulu estynedig Gymreig, wedi rhoi iddo ddealltwriaeth dda wrth gynorthwyo pobl o bob cefndir i ddysgu Cymraeg.

Personol

Mae'n briod â'r Parch Enid Morgan. Mae ganddo 3 plentyn a 6 wyr.

Cyfeiradau

  1. wici365
  1. Datganiad i'r wasg ar gyfer Parêd Gwyl Dewi Aberystwyth 2015