Abu al-Faraj al-Isfahani: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BOTarate (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 23: Llinell 23:


[[ar:أبو الفرج الأصفهاني]]
[[ar:أبو الفرج الأصفهاني]]
[[de:Abu'l-Faradsch al-Isfahani]]
[[de:Abu l-Faradsch al-Isfahani]]
[[en:Abu al-Faraj al-Isfahani]]
[[en:Abu al-Faraj al-Isfahani]]
[[es:Abu el-Faraj Isfahani]]
[[es:Abu el-Faraj Isfahani]]

Fersiwn yn ôl 13:55, 15 Chwefror 2009

Darlun o'r Kitab al-aghani (Llyfr y Caneuon), 1216-20, gan Abu al-Faraj al-Isfahani, casgliad o gerddi gan feirdd a cherddorion Arabeg enwog

Yr oedd Abu al-Faraj al-Isfahani, neu Abu-l-Faraj neu `Ali ibn al-Husayn ul-Isbahani (897-967) yn ysgolhaig o dras Arabaidd a aned yn Iran (Persia). Roedd yn perthyn i lwyth y Quraysh ac yn ddisgynydd uniogyrchol i'r caliph Umayyad olaf, Marwan II. Roedd ganddo felly gysylltiad â rheolwyr Umayyad de Sbaen, ac ymddengys iddo lythyru â nhw ac anfon rhai o'i weithiau iddynt. Ei waith enwocaf yw'r flodeugerdd Kitab al-Aghani (Llyfr y Caneuon).

Fe'i ganed yn Isfahan, de-orllewin Persia, ond treuliodd ei ieuenctid yn Baghdad ac astudiodd yno. Daeth yn enwog am ei wybodaeth o hynafiaethau Arabaidd cynnar.

Treuliodd weddill ei oes mewn sawl rhan o'r byd Islamaidd, yn Aleppo (Syria) gyda'i llywodraethwr Sayf ad-Dawlah (cyflwynodd Llyfr y Caneuon iddo), yn Ray gyda'r vizier Buwayhid Ibn 'Abbad, ac mewn lleoedd eraill.

Er iddo gyfansoddi barddoniaeth, ynghyd â blodeugerdd o gerddi ar fynachlogydd Mesopotamia a'r Aifft, a llyfr achau, mae'n enwog yn bennaf am y Kitab al-Aghani.

Llyfr y Caneuon

Blodeugerdd yw Kitab al-Aghani ('Llyfr y Caneuon'), sy'n cynnwys detholiad o gerddi a chaneuon o'r cyfnodau cynharaf yn hanes llenyddiaeth Arabeg (hyd at y 9fed ganrif), ynghyd â brasluniau o fywyd yr awduron a straeon amdanynt. Gododwyd y cerddi ar alawon, ond yn anffodus nid yw'n bosibl darllen y nodiant bellach. Oherwydd y manylion hanesyddol a geir ynddo, mae'r Kitab yn ffynhonnell hanesyddol bwysig. Mae'n cynnwys llawer o wybodaeth am ffordd o fyw ac arferion yr Arabiaid cynnar, ac mae'n un o'n ffynonellau pwysicaf am y cyfnod cyn-Islamaidd a blynyddoedd cynnar Islam.

Gweler hefyd