Ceres (duwies): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Tudalen newydd: 250px|bawd|Ceres gyda Bacchus a Ciwpid Duwies amaethyddiaeth yn y Rhufain hynafol oedd '''Ceres''', y ffurf Rufeinig ar y dduwies Roeg... |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
[[Delwedd:Hans von Aachen 010.jpg|250px|bawd|Ceres gyda Bacchus a Ciwpid]] |
[[Delwedd:Hans von Aachen 010.jpg|250px|bawd|Ceres gyda Bacchus a Ciwpid. Paentiad gan [[Hans von Aachen]], Yr Almaen, 1600]] |
||
[[Duwies]] [[amaethyddiaeth]] yn y [[Rhufain hynafol]] oedd '''Ceres''', y ffurf Rufeinig ar y dduwies Roegaidd [[Demeter]]. Mae'n bosibl y bu Ceres yn un o dduwiesau brodorol [[yr Eidal]] yn wreiddiol, ond daw i'r amlwg yn hanes Rhufain yn 496 CC pan gyflwynwyd addoliaeth Demeter, [[Persephone]] ([[Lladin]]: [[Proserpina]]) a [[Dionysus]] (Lladin: [[Bacchus]]) adeg sychder mawer ar orchymyn offeiriaid y [[Sibyl]]. |

Fersiwn yn ôl 17:22, 13 Chwefror 2009
Duwies amaethyddiaeth yn y Rhufain hynafol oedd Ceres, y ffurf Rufeinig ar y dduwies Roegaidd Demeter. Mae'n bosibl y bu Ceres yn un o dduwiesau brodorol yr Eidal yn wreiddiol, ond daw i'r amlwg yn hanes Rhufain yn 496 CC pan gyflwynwyd addoliaeth Demeter, Persephone (Lladin: Proserpina) a Dionysus (Lladin: Bacchus) adeg sychder mawer ar orchymyn offeiriaid y Sibyl.
Fel cwlt swyddogol roedd addoliad Ceres yn dilyn y patrwm Groeg yn llwyr. Roedd y Rhufeiniaid yn arfer dathlu gemau'r Cerealia ar ddechrau mis Ebrill. Roedd yna ddathliad arall ym mis Awst: byddai'r merched yn ymprydio am naw diwrnod ac wedyn yn cyflwyno offrymau blaenffrwyth y tymor i Ceres, gan wisgo coronau o ŷd.
Pobl gyffredin oedd ei haddolwyr, yn bennaf, yn enwedig yn yr ardaloedd gwledig. Yno y ceir y dystiolaeth gryfaf am y dduwies Eidalaidd hynafol ei hun. Arferai'r werin bobl offrymu hwch (porca praecadanaea) i Ceres cyn gychwyn ar y gwaith o gael y cynhaeaf i mewn ac yn cyflwyno'r blaenffrwyth ŷd i deml y dduwies.
Ffynhonnell
- Oskar Seyffert, A Dictionary of Classical Antiquities (Llundain, 1902; sawl argraffiad ar ôl hynny).