Celtiberiaid: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Thijs!bot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn newid: hu:Keltibérek
TXiKiBoT (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: an:Zeltibers
Llinell 17: Llinell 17:
[[Categori:Hanes Sbaen]]
[[Categori:Hanes Sbaen]]


[[an:Zeltibers]]
[[ca:Celtibers]]
[[ca:Celtibers]]
[[de:Keltiberer]]
[[de:Keltiberer]]

Fersiwn yn ôl 10:52, 12 Chwefror 2009

Botorrita: Plât efydd gydag arysgrif.

Roedd y Celtiberiaid (neu Celt-Iberiaid) yn bobl sy'n cael eu crybwyll gan yr haneswyr Diodorus Siculus, Appian a Martial fel pobl oedd yn gymysgedd o Geltiaid ac Iberiaid; yn ôl Strabo yr elfen Geltaidd oedd gryfaf. Roeddynt yn byw ar Benrhyn Iberia, yn y rhan sy'n awr yn ganol a gogledd Sbaen a gogledd Portiwgal. Ffurfiwyd hwy pan ymfudodd Celtiaid o Gâl a chymysgu a'r bobl leol.

Mae tystiolaeth am yr iaith Geltibereg o'r ganrif gyntaf CC.. Credir fod Celtiaid yn bresennol yn Sbaen cyn gynhared a'r 6ed ganrif CC, pan adeiladwyd y castros gyda muriau cerrig a ffosydd amddiffynnol. Mae'n debyg fod nifer o lwythau Celtiberaidd gwahanol; y llwyth cryfaf oedd yr Arevaci. Roedd eu canolfannau o gwmpas rhannau uchaf Afon Tagus ac Afon Douro, ac i'r dwyrain hyd Afon Ebro.

Yn yr Ail Ryfel Pwnig rhwng Carthago a Rhufain, Celtiberiaid oedd llawer o'r milwyr a groesodd yr Alpau gyda Hannibal i ymosod ar yr Eidal. Pan orchfygwyd y Carthaginiaid, bu raid i'r Celtiberiaid ymostwng i Rufain yn 195 CC ond bu mwy o ryfela yn y blynyddoedd nesaf. Cipiwyd dinas Numantia gan Scipio Aemilianus Africanus yn 133 CC. wedi gwarchae hir. Roedd rhai Celtiberiaid yn parhau i ymladd yn erbyn Rhufain yn rhyfel Sertorius, 79 - 72.

Llyfryddiaeth

  • Antonio Arribas, The Iberians 1964.
  • Barry Cunliffe, 'Iberia and the Celtiberians' yn "The Ancient Celts" (Penguin Books, 1997), ISBN 0-14-025422-6
  • J. P. Mallory, In Search of the Indo-Europeans (Thames & Hudson, 1989), ISBN 0-500-05052-X
  • Alberto J. Lorrio a Gonzalo Ruiz Zapatero, "The Celts in Iberia: An Overview" yn e-Keltoi 6