Édouard Manet: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Replacing superseded 'Edouard Manet - The Old Musician - Google Art Project.jpg' with 'Édouard Manet - Le Vieux Musicien.jpg'
Llinell 32: Llinell 32:
Image:Edouard Manet 061.jpg|'''Y Canwr Sbaeneg,''' 1860
Amgueddfa Gelf Metropolitan
Image:Edouard Manet 061.jpg|'''Y Canwr Sbaeneg,''' 1860
Amgueddfa Gelf Metropolitan
File:Édouard Manet - L'Enfant à l'épée.jpg|'''Bachgen yn dal cleddyf''', 1861
File:Édouard Manet - L'Enfant à l'épée.jpg|'''Bachgen yn dal cleddyf''', 1861
File:Edouard Manet - The Old Musician - Google Art Project.jpg|'''Y Hen Gerddor,'''1862
Oriel Gelf Genedlaethol
File:Édouard Manet - Le Vieux Musicien.jpg|'''Y Hen Gerddor,'''1862
Oriel Gelf Genedlaethol
Image:Edouard Manet - Mlle Victorine Meurent in the Costume of an Espada.JPG|'''Mlle. Victorine mewn gwisg Matador,''' 1862
Amgueddfa Gelf Metropolitan
Image:Edouard Manet - Mlle Victorine Meurent in the Costume of an Espada.JPG|'''Mlle. Victorine mewn gwisg Matador,''' 1862
Amgueddfa Gelf Metropolitan
File:Édouard Manet - Le Christ mort et les anges.jpg|'''Crist Farw gydag Angylion'''
1864
File:Édouard Manet - Le Christ mort et les anges.jpg|'''Crist Farw gydag Angylion'''
1864

Fersiwn yn ôl 04:27, 25 Mawrth 2018

Édouard Manet
GalwedigaethPeintiwr
Mae "'Manet'" yn ailgyfeirio i'r dudalen hon. Ni ddylid cymysgu rhwng Manet a Monet, arlunydd arall o'r un cyfnod.

Arlunydd o Ffrancwr oedd Édouard Manet (23 Ionawr 1832 - 30 Ebrill 1883), sy'n adnabyddus fel un o'r enwocaf o'r Argraffiadwyr (Ffraneg: Impressionnistes). Bu'n un o'r arlunwyr cyntaf y 19g i beintio bywyd y cyfnod ac yn ffigwr allweddol yn y newid o Realaeth i Argraffiadaeth (Impressionnisme).[1]

Picnic ar y gwair gan Manet; olew ar ganfas, 1863

Achosodd ei weithiau enwog cynnar Le Déjeuner sur l'herbe (Picnic ar y Gwair) ac Olympia gryn syndod pan arddangoswyd yn gyntaf. Yn ddiweddarach roedd y gweithiau yma'n hynod o bwysig yn natblygiad celf fodern gan ddylanwadu’n fawr y cenedlaethau nesaf o arlunwyr.

Wedi'i geni a magu ym Mharis, yn fab i deulu cyfoethog. Fe'i hyfforddodd gyda Thomas Couture. Roedd ei waith yn seiliedig ar y chwarae rhwng cysgod a golau, gyda nifer cyfyngedig o liwiau gan wneud defnydd pwysig o ddu. Bu hefyd yn peintio'n syth o'r model. Roedd gwaith yr arlunydd Sbaeneg Diego Velázquez (1599-1660) yn ddylanwad mawr ar ei steil.

Ym Mharis fe gymysgodd gydag ysgrifenwyr avant-garde, yn fwyaf nodweddiadol gyda Baudelaire a ymddangosodd yn ei ddarlun Y Gerddoriaeth yng Ngerddi Tuileries. Daeth ei waith yn enwog trwy 'Salon des Refusés', arddangosfa o ddarluniau a wrthodwyd gan y sefydliad Salon swyddogol.

Ym 1869 a 1987 cynhaliodd arddangosfeydd un-dyn. Yn yr 1870au, o dan ddylanwad Claude Monet a Renoir, beintiodd dirluniau a golygfeydd o strydoedd wedi'u dylanwadau gan Argraffiadaeth (Impressionnisme). Serch hynny bu'n gyndyn i arddangos ei waith gyda'r impressionnistes gan obeithio am gydnabyddiaeth y Salon.

Oriel Édouard Manet

Cyfeiriadau