Ivor Richard, Barwn Richard: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 39: Llinell 39:
|birth_name=Ivor Seward Richard
|birth_name=Ivor Seward Richard
}}
}}
Gwleidydd [[Y Blaid Lafur (DU)|Llafur]] Prydeinig oedd''' Ivor Seward Richard, Barwn Richard''' PC [[Cwnsler y Frenhines|QC]] ([[30 Mai]] [[1932]] – [[18 Mawrth]] [[2018]]) a oedd yn Aelod Seneddol o 1964 hyd 1974. Roedd hefyd yn aelod o [[Comisiwn Ewropeaidd|Gomisiwn y Cymuned Ewropeaidd]] ac, yn ddiweddarach, eisteddfod fel arglwydd am oes yn Nhŷ'r Arglwyddi.
Gwleidydd [[Y Blaid Lafur (DU)|Llafur]] Prydeinig oedd''' Ivor Seward Richard, Barwn Richard''' PC [[Cwnsler y Frenhines|QC]] ([[30 Mai]] [[1932]] – [[18 Mawrth]] [[2018]]) a oedd yn Aelod Seneddol o 1964 hyd 1974. Roedd hefyd yn aelod o [[Comisiwn Ewropeaidd|Gomisiwn y Cymuned Ewropeaidd]] ac, yn ddiweddarach, eisteddodd fel arglwydd am oes yn Nhŷ'r Arglwyddi.


== Gyrfa wleidyddol ==
== Gyrfa wleidyddol ==

Fersiwn yn ôl 17:53, 21 Mawrth 2018

Y Gwir Anrhydeddus
Arglwydd Richard
Arweinydd Tŷ'r Arglwyddi
Arglwydd y Sêl Gyfrin
Yn ei swydd
2 Mai 1997 – 27 Gorffennaf 1998
Prif WeinidogTony Blair
Rhagflaenwyd ganViscount Cranborne
Dilynwyd ganBarwnes Jay o Paddington
Arweinydd yr Wrthblaid yn Nhŷ'r Arglwyddi
Yn ei swydd
18 Gorffennaf 1992 – 2 Mai 1997
ArweinyddJohn Smith
Margaret Beckett (Dros dro)
Tony Blair
Rhagflaenwyd ganArglwydd Cledwyn o Benrhos
Dilynwyd ganViscount Cranborne
Comisiynydd Ewropeaidd dros Gyflogaeth, Polisi Cymdeithasol, Addysg a Hyfforddiant.
Yn ei swydd
6 Ionawr 1981 – 5 Ionawr 1985
ArlywyddGaston Thorn
Rhagflaenwyd ganHenk Vredeling
Dilynwyd ganPeter Sutherland
Llysgennad Prydeinig i'r Cenhedloedd Unedig
Yn ei swydd
2 Mehefin 1974 – 21 Rhagfyr 1979
Rhagflaenwyd ganDonald Maitland
Dilynwyd ganAnthony Parsons
Aelod o Senedd
dros Barons Court
Yn ei swydd
15 Hydref 1964 – 28 Chwefror 1974
Rhagflaenwyd ganBill Carr
Dilynwyd ganDiddymwyd yr etholaeth
Manylion personol
GanwydIvor Seward Richard
30 Mai 1932(1932-05-30)
Sir Gaerfyrddin
Bu farw18 Mawrth 2018(2018-03-18) (85 oed)
Plaid wleidyddolLlafur
Alma materColeg Penfro, Rhydychen

Gwleidydd Llafur Prydeinig oedd Ivor Seward Richard, Barwn Richard PC QC (30 Mai 193218 Mawrth 2018) a oedd yn Aelod Seneddol o 1964 hyd 1974. Roedd hefyd yn aelod o Gomisiwn y Cymuned Ewropeaidd ac, yn ddiweddarach, eisteddodd fel arglwydd am oes yn Nhŷ'r Arglwyddi.

Gyrfa wleidyddol

Roedd yr Arglwydd Richard wedi bod yn aelod gweithgar o'r Blaid Lafur a'r Gymdeithas Fabian ers iddo fod yn y Brifysgol a sefodd fel ymgeisydd yn Ne Kensington yn etholiad cyffredinol 1959. Roedd hwn yn un o'r etholaethau mwyaf ffyniannus yn y wlad a daeth yn drydydd, ond yr unig fwriad oedd rhoi gyfle iddo ymarfer ei sgiliau ymgyrchu. Yn etholiad 1964, roedd Richard yn  ymgeisydd ar gyfer Baron's Court, etholaeth hynod ymylol rhwng Hammersmith a Fulham. Roedd Baron's Court wedi gweld cystadlaethau agos iawn o'r blaen a fe wnaeth presenoldeb canolfan deledu'r BBC gerllaw sicrhau sylw da yn y cyfryngau.

Enillodd Richard y sedd o ychydig dros 1,000 o bleidleisiau. Yn y Senedd, bu'n gwasanaethu am gyfnod byr fel cynorthwyydd i Denis Healey, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Amddiffyn ac fe'i benodwyd fel Gweinidog ar gyfer y Fyddin yn 1969. Er gwaethaf y gogwydd i'r Ceidwadwyr yn etholiad 1970 roedd yn lwcus i gadw ei sedd, a daeth yn llefarydd yr wrthblaid ar delathrebu. Collodd y swydd pan bleidleisiodd o blaid ymuno â'r Gymuned Ewropeaidd (Y Farchnad Gyffredin) yn 1971, ond fe'i ailbenodwyd yn gyflym fel llefarydd Materion Tramor.

Fodd bynnag, roedd Baron's Court yn sedd yn rhy fach i oroesi y addrefnu etholaethau a ddigwyddodd yn 1974 a cafodd Richard hi'n anodd i ddod o hyd i sedd newydd, am nad oedd aelodau o blaid Ewrop yn boblogaidd o fewn y Blaid Lafur ar y pryd. Cafodd ei ddewis ar y funud olaf i ymladd Blyth yn erbyn yr aelod AS Llafur blaenorol a oedd wedi ei ddad-ddethol oherwydd ei honiadau o lygredd lleol yn y Blaid Lafur lleol. Heb unrhyw gefndir yn yr ardal, a gyda gwrthwynebydd poblogaidd, fe'i gurwyd yn yr etholiad.

Wrth i'r Llywodraeth Lafur newydd ddod fewn yn Mehefin 1974, penodwyd ef yn Gynrychiolydd Parhaol y Deyrnas Gyfunol i'r Cenhedloedd Enedig, lle gwasanaethodd am bum mlynedd. Chwaraeodd Richard ran yn ceisio cymodi'r ddau ochr yng nghwrthdaro y Dwyrain Canol a Rhodesia.[1] Daeth yn ffigwr dadleuol ar ôl i Lysgennad yr U.D.A, Daniel Patrick Moynihan, feirniadu'r Cenhedloedd Unedig am basio cynnig yn datgan bod Seioniaeth yn ffurf o hiliaeth, a cyhuddodd Richard ef o ymddwyn "fel y Wyatt Earp gwleidyddiaeth ryngwladol"; yn fuan wedi hynny diswyddwyd Moynihan gan Henry Kissinger.

Roedd Richard yn cadeirydd Gynhadledd Genefa ar Rhodesia o 28 Hydref i 14 Rhagfyr 1976. Galwyd y gynhadledd i weithredu cytundeb Henry Kissinger gyda Prif Weinidog Ian Smith o Rhodesia o'r mis blaenorol i greu llywodraeth dros dro i lywyddu tra bod cyfansoddiad newydd rheol-y-mwyafrif yn cael ei ysgrifennu.[2] Ond roedd y gwahanol genedlaetholwyr Affricanaidd o Rhodesia yn gwrthod cydnabod y cytundeb ac ni wnaed unrhyw gynnydd yn ystod chwe wythnos y gynhadledd. Roedd Smith yn ddeifiol yn ei driniaeth o Richard yn ei hunangofiant, gan nodi "diffyg uniondeb a dewrder" Richard o fethu cadw i delerau cytundeb Kissinger.[3]

Disodlwyd Richard o fewm misoedd pan ddaeth y llywodraeth Geidwadol newydd i rym ym 1979. Fodd bynnag, ym 1980, cafodd ei ddewis gan y Blaid Lafur i gymryd un o'r swyddi ar y Comisiwn Ewropeaidd (gan ddisodli Roy Jenkins). Roedd yn hysbys mai trydydd dewis y Blaid Lafur oedd ar gyfer y swydd: roedd y cyn-Gweinidog Trysorlys Joel Barnett wedi gwrthod y gwahoddiad, a roedd y cyn-Ysgrifennydd Amddiffyn, Fred Mulley wedi cael ei atal gan y llywodraeth Geidwadol. Cymerodd Richard gyfrifoldeb am Gyflogaeth, Polisi Cymdeithasol, Addysg a Hyfforddiant.

Dychwelodd Richard i Gymru ym 1985 ac fe'i penodwyd yn Gadeirydd World Trade Centre Wales Ltd., oedd yn ceisio denu buddsoddwyr rhyngwladol i fusnesau Cymru. Yn 1990, fe'i ddewiswyd gan Blaid Lafur fel 'Arglwydd Gweithiol', a fe'i wnaed yn Arglwydd Oes ar 14 Mai 1990 gan cymryd y teitl Barwn Richard, o Rydaman yn Sir Ddyfed[4] a daeth yn llefarydd yr wrthblaid yn nhŷ'r Arglwyddi. Gwnaeth ei arddull bargyfreithiol arwain at ei benodiad fel Arweinydd Arglwyddi Llafur o 1992, a chafodd ei benodi i'r Cyfrin Gyngor. Ceisiodd Richard ddwysáu ymosodiad Llafur yn erbyn y Llywodaeth ac yn hwyr yn 1993 arloesoedd cynnig o ddiffyg Hyder yn y Llywodraeth (cam ddigynsail yn Nhŷ'r Arglwyddi), er ei fod yn cydnabod ei fod yn arwydd symbolaidd na fyddai'n gwneud i'r llywodraeth gywmp, oherwydd y flaenoriaeth a roddir i'r Tŷ Cyffredin.[5]

Pan enillodd Llafur yr etholiad 1997, daeth Richard daeth yn Arglwydd y Sêl Gyfrin ac Arweinydd Tŷ'r Arglwyddi. Gyda Llafur yn ffafrio diwygio y Tŷ a dechrau drwy gael gwared o'r Arglwyddi Etifeddol, dechreuodd Richard y gwaith ar gyfansoddiad newydd y Tŷ, ond cafodd sioc pan collodd ei swydd yn sydyn ar yr ad-drefnu cyntaf ym mis Gorffennaf 1998 lle fe'u ddisodlwyd gan y Farwnes Jay o Paddington. Cafodd ei feddyliau ar y broses o ddiwygio'r y Tŷ eu cyhoeddi yn Unfinished Business yn 1999 a daeth Richard yn ffrind beirniadol o'r Llywodraeth.

Yn ddiweddarach, gwasanaethodd yr Arglwydd Richard fel Cadeirydd y Cyd-Bwyllgor Seneddol ar Ddrafft Mesur Diwygio Tŷ'r Arglwyddi.[6] Bu farw ym mis Mawrth 2018 yn 85 mlwydd oed.[7]

Comisiwn Richard

Yn 2002 gwahoddwyd Richard gan y Llywodraeth Glymblaid oedd yn rhedeg Cynulliad Cenedlaethol Cymru i gadeirio comisiwn ar bwerau y Cynulliad. Cyhoeddwyd yr adroddiad ar 31 Mawrth 2004 ac argymellhwyd bod y Cynulliad yn cael pwerau deddfu sylfaenol mewn meysydd datganoledig o 2011, argymhelliad oedd yn ddadleuol i rai Aelodau Seneddol Llafur Cymru.

Cyfeiriadau

  1. Elaine Windrich, Britain and the politics of Rhodesian independence, p. 264, https://books.google.com/books?id=ZaYOAAAAQAAJ
  2. Smith, Ian (2008). Bitter Harvest: Zimbabwe and the Aftermath of Its Independence. London: John Blake Publishing. tt. 212–213. ISBN 978-1-84358-548-0.
  3. Smith 2008: 222
  4. London Gazette: no. 52141. p. 9287. 17 May 1990.
  5. [1]
  6. www.parliament.uk Archifwyd 3 November 2011 yn y Peiriant Wayback.
  7. Marw’r Arglwydd oedd am weld mwy o bwerau i Gymru , Golwg360, 20 Mawrth 2018.

Dolenni allanol