Ceridwen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu |
Ceridwyn??!! |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
[[Delwedd:Pair Ceridwen 00.JPG|300px|bawd|Ceridwen yn berwi'r perlysiau yn y pair, gyda Gwion Bach o'i blaen a Thegid Foel yn y cefndir (llun: J. E. C. Williams, tua 1900)]] |
[[Delwedd:Pair Ceridwen 00.JPG|300px|bawd|Ceridwen yn berwi'r perlysiau yn y pair, gyda Gwion Bach o'i blaen a Thegid Foel yn y cefndir (llun: J. E. C. Williams, tua 1900)]] |
||
[[Duwies]] Gymreig a Cheltaidd yw '''Ceridwen |
[[Duwies]] Gymreig a Cheltaidd yw '''Ceridwen'''. Mae hi'n cael ei chysylltu â'r [[Taliesin Ben Beirdd|Taliesin chwedlonol]] (a adnabyddir fel 'Gwion Bach' yn rhan gyntaf y chwedl) yn y chwedl ''[[Hanes Taliesin]]''. Y ffurf gynnar ar ei henw, a geir mewn testun yn ''[[Llyfr Du Caerfyrddin]]'', oedd Cyrridfen (o ''cyrrid-'' "rhywbeth cam"? + ''ben'' "gwraig, benyw"). Ond mae ''gwen'' yn yr hen ystyr "sanctaidd, dwyfol", yn elfen gyffredin mewn enwau santesau Cymreig ([[Gwenffrewi]], [[Dwynwen]], er enghraifft) ac enwau duwiesau a chymeriadau chwedlonol fel [[Gwenhwyfar]] a [[Branwen]]. Rhydd [[Rachel Bromwich]] "''teg ac annwyl''" fel ystyr yr enw Ceridwen. |
||
Roedd Ceridwen yn dduwies [[Celtaidd|Geltaidd]] yn wreiddiol, cyn droi'n ffigwr [[llên gwerin]]. Gellid ei hystyried yn agwedd ar y [[Mam-dduwies|Fam-dduwies]] ac mae'n bosibl fod ei gwreiddiau'n gorwedd yn y cyfnod cyn dyfodiad y Celtiaid. |
Roedd Ceridwen yn dduwies [[Celtaidd|Geltaidd]] yn wreiddiol, cyn droi'n ffigwr [[llên gwerin]]. Gellid ei hystyried yn agwedd ar y [[Mam-dduwies|Fam-dduwies]] ac mae'n bosibl fod ei gwreiddiau'n gorwedd yn y cyfnod cyn dyfodiad y Celtiaid. |
Fersiwn yn ôl 20:39, 7 Chwefror 2009
Duwies Gymreig a Cheltaidd yw Ceridwen. Mae hi'n cael ei chysylltu â'r Taliesin chwedlonol (a adnabyddir fel 'Gwion Bach' yn rhan gyntaf y chwedl) yn y chwedl Hanes Taliesin. Y ffurf gynnar ar ei henw, a geir mewn testun yn Llyfr Du Caerfyrddin, oedd Cyrridfen (o cyrrid- "rhywbeth cam"? + ben "gwraig, benyw"). Ond mae gwen yn yr hen ystyr "sanctaidd, dwyfol", yn elfen gyffredin mewn enwau santesau Cymreig (Gwenffrewi, Dwynwen, er enghraifft) ac enwau duwiesau a chymeriadau chwedlonol fel Gwenhwyfar a Branwen. Rhydd Rachel Bromwich "teg ac annwyl" fel ystyr yr enw Ceridwen.
Roedd Ceridwen yn dduwies Geltaidd yn wreiddiol, cyn droi'n ffigwr llên gwerin. Gellid ei hystyried yn agwedd ar y Fam-dduwies ac mae'n bosibl fod ei gwreiddiau'n gorwedd yn y cyfnod cyn dyfodiad y Celtiaid.
Yn y chwedl am Daliesin mae Ceridwen yn wraig i Degid Foel ac yn byw ym Mhenllyn ar lan Llyn Tegid (ger Y Bala heddiw). Fe'i cysylltir â dŵr a pherlysiau "rhinweddol" (h.y. sy'n iachau neu sy'n gysylltiedig â grymoedd hud a lledrith). Mae hi'n berwi'r llysiau mewn pair "am undydd a blwyddyn" ar lan y llyn ar gyfer ei mab Morfran (a lysenwir 'Afagddu' am ei fod mor hyll). Yn ogystal mae ganddi ferch hardd o'r enw Creirwy, sy'n un o "Dair Gwenriain Ynys Brydain" yn Nhrioedd Ynys Prydain.
Mae'r bortread o Geridwen yn berwi ei pherlysiau yn y pair yn debyg i'r disgrifiadau traddodiadol o wrachod (fel y tair gwrach yn Macbeth Shakespeare). Mae'n debyg mai duwies Natur gyda galluoedd creadigol a dinistriol oedd hi, fel Hecate ym mytholeg Roeg. Mae hi'n newid rhith wrth geisio dal Gwion Bach/Taliesin, gan newid yn filiast, yn iâr ac yn bysgodyn, ac mae hyn hefyd yn awgrymu ei bod yn cynrychioli Natur.
Ceir sawl cyfeiriad at Bair Ceridwen yng ngwaith y beirdd Cymraeg. Cafodd Taliesin, yn ei rith chwedlonol, tair dafn o ysbrydoliaeth yr Awen ohoni, ar ddamwain. Roedd Taliesin yn cael ei weld fel tad y Traddodiad Barddol gan y beirdd.
Cyfeiriadau
- Rachel Bromwich, Trioedd Ynys Prydein (Caerdydd, arg. newydd 1991)
- Patrick K. Ford, Ystoria Taliesin (Caerdydd, 1992)
- Ifor Williams, Chwedl Taliesin (Caerdydd, 1957)