Yr Eglwys yng Nghymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Gethin61 (sgwrs | cyfraniadau) Diweddaru enw a manylion yr Archesgob presennol. |
Coats of arms |
||
Llinell 15: | Llinell 15: | ||
<gallery> |
<gallery> |
||
Delwedd:Coat of |
Delwedd:Coat of Arms of the Diocese of Bangor.svg|[[Esgobaeth Bangor]] |
||
Delwedd:Coat of |
Delwedd:Coat of Arms of the Diocese of St Asaph.svg|[[Esgob Llanelwy]] |
||
Delwedd:Coat of |
Delwedd:Coat of Arms of the Diocese of St Davids.svg|[[Esgob Tyddewi]] |
||
Delwedd:Coat of |
Delwedd:Coat of Arms of the Diocese of Swansea & Brecon.svg|[[Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu]] |
||
Delwedd:Coat of |
Delwedd:Coat of Arms of the Diocese of Monmouth.svg|[[Esgobaeth Mynwy]] |
||
Delwedd:Coat of |
Delwedd:Coat of Arms of the Diocese of Llandaff.svg|[[Esgobaeth Llandaf]] |
||
Delwedd:Church of Wales |
Delwedd:Church of Wales group Arms.svg|Y cwbwl gyda'i gilydd |
||
</gallery> |
</gallery> |
||
Fersiwn yn ôl 00:33, 20 Mawrth 2018
Y gangen Gymreig o'r Eglwys Anglicanaidd yw'r Eglwys Yng Nghymru.[1] Datgysylltwyd Yr Eglwys yng Nghymru oddi wrth Eglwys Loegr ar 31 Mawrth 1920, dan Ddeddf yr Eglwys Gymreig (1914). Mae'r corff yn berchen ar bron i 1,400 o eglwysi yng Nghymru mewn dros 900 o blwyfi. Diffinia ei hun fel, "eglwys hynafol y tir hwn... sy'n gafael yn dynn yn yr athrawiaeth a'r weinidogaeth o un Eglwys gatholig ac efengylaidd.".[2]
John Davies yw Archesgob Cymru er 2017, a bu'n Esgob Abertawe ac Aberhonddu er 2008.[3]
Mae'r Eglwys yng Nghymru yn cydnabod Archesgob Caergaint fel canolbwynt undod, ond nid oes ganddo awdurdod dros yr Eglwys yng Nghymru.[4]
Esgobaethau
Mae talaith yr Eglwys wedi'i rhannu'n chwe esgobaeth. Rhennir yr Eglwys yng Nghymru yn chwe esgobaeth, a gofelir am bob un gan Esgob. Ym mhob un o’r esgobaethau y mae dwy neu dair o archddiaconiaethau; mae pymtheng archddiaconiaeth yn Yr Eglwys yng Nghymru. Penodir Archddiacon i bob un, ac y mae'r Archddiacon yn atebol i'r Esgob am eu gweinyddu. Rhennir yr Archddiaconiaethau ymhellach yn Ddeoniaethau.
Mae gan bob un o’r chwe esgobaeth yn Yr Eglwys yng Nghymru Gadeirlan. Hi yw mam-eglwys yr esgobaeth. Yma hefyd y mae 'cadair' yr Esgob. Yn y Gadeirlan y cynhelir digwyddiadau pwysig, megis Sefydlu Esgob newydd. Mae i bob Cadeirlan ei Deon. Fe’i penodwyd i redeg y Gadeirlan, gyda chymorth y Siapter. Ynghyd â'r Archddiaconiaid, y mae Deon y Gadeirlan yn un o glerigion mwyaf blaenllaw’r esgobaeth ar ôl yr Esgob.
Rheolir pob Cadeirlan yng Nghymru gan Siapter, sy'n cynnwys y Deon a nifer o Ganoniaid, a ddewisir o blith clerigion yr esgobaeth.
-
Y cwbwl gyda'i gilydd
Gweler hefyd
Cyfeiriadau
- ↑ cym.eglwysyngnghymru.org.uk; adalwyd 16 Ionawr 2016
- ↑ Y Catechism; Amelinelliad o'r Ffydd - The Catechism: An Outline of the Faith. Section III, isgymal 25, tud. 7 (Caerdydd. Gwasg yr Eglwys yng Nghymru 1993)
- ↑ "Ethol Archesgob Cymru newydd".
- ↑ s.6, Welsh Church (Temporalities) Deddf 1919.