Eisteddfod Aberteifi 1176: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu |
B wedi symud Eisteddfod Aberteifi, 1176 i Eisteddfod Aberteifi 1176: safoni |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 20:32, 5 Chwefror 2009
Eisteddfod Aberteifi, a gynhaliwyd dros y Nadolig yn 1176, yw'r eisteddfod gyntaf sy'n hysbys.
Fe'i cynhaliwyd gan Yr Arglwydd Rhys o Ddeheubarth yn ei lys yn Aberteifi. Cyn ei chynnal roedd y tywysog wedi anfon cenhadon i bob cwr o'r wlad i gyhoeddi'r ŵyl. Dyma'r cofnod amdano sydd ym Mrut y Tywysogion (diweddarwyd yr orgraff):
- Y Nadolig yny flwyddyn honno y cynhelis yr Arglwydd Rhys ap Gruffudd llys yn ardderchog yn Aberteifi, yn y castell, ac y gosodes deuryw ymryson yno, un y rhwng beirdd a phrydyddion, un arall y rhwng telynorion a chrythorion a phibyddion ac amrafaelion genhedloedd gerdd miwsig, ac ef a beris gosod dwy gadair i'r gorchfygwyr ac ef a anrhydedodd y rhei hynny o roddion ehelaeth.
Gŵr ifanc o lys Rhys a enillodd cadair y telynorion ond cipiwyd y gwobrau barddonol gan feirdd Gwynedd. Yn anffodus dydi'r Brut ddim yn enwi'r beirdd hynny ond buasai Cynddelw Brydydd Mawr, Meilyr ap Gwalchmai ac Einion ap Gwalchmai yn eu hanterth.