Llong danfor: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
VolkovBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: eu:Itsaspeko
Llinell 34: Llinell 34:
[[es:Submarino]]
[[es:Submarino]]
[[et:Allveelaev]]
[[et:Allveelaev]]
[[eu:Itsaspeko]]
[[fa:زیردریایی]]
[[fa:زیردریایی]]
[[fi:Sukellusvene]]
[[fi:Sukellusvene]]

Fersiwn yn ôl 09:02, 2 Chwefror 2009

Y llong danfor Sbaenaidd Galerna yn Stockholm, Sweden

Llong (llong ryfel gan amlaf) sydd wedi'i chynllunio i allu mynd dan y môr ac aros yno am gyfnodau estynedig yw llong danfor.

Y cofnod cynharaf am long o'r fath yw'r un a adeiladwyd gan yr Iseldirwr Cornelis Drebbel (1572 - 1634) ac a ddangoswyd i'r brenin Iago I o Loegr yn aber Afon Tafwys yn 1624.

Cafwyd model mwy ymarferol gan y dyfeisydd o Americanwr David Bushnell (1742 - 1824), brodor o Connecticut, UDA. Y Turtle oedd ei henw a gwelodd gyfnod byr o wasanaeth yn y Chwyldro Americanaidd. Cafwyd sawl llong danfor arbrofol yn ystod y 19eg ganrif, e.e. y Resurgam a aeth i lawr oddi ar arfordir gogledd-ddwyrain Cymru, rhwng Y Rhyl a Mostyn, yn 1879 (aeth llong danfor arall, y Thetis, i lawr yn yr un ardal yn 1939).

Defnyddid llongau tanfor gan sawl llynges yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Y math mwyaf effeithiol oedd yr Unterseeboot (U-boot) Almaenig. Roedd y rhain yn arf effeithiol iawn yn yr Ail Ryfel Byd hefyd a chollwyd cannoedd o longau iddynt, yn arbennig yn y confois a hwyliai o'r Unol Daleithiau i Brydain ac o Brydain i'r Undeb Sofietaidd. Yn y Cefnfor Tawel suddodd llongau tanfor yr Unol Daleithiau dros hanner llongau masnach Siapan a 276 o longau rhyfel.

Ers diwedd yr Ail Ryfel mae llongau tanfor wedi datblygu'n sylweddol. Mae rhai yn cael eu gyrru gan adweithyddion niwclear ac yn medru aros dan ddŵr am fisoedd bwy gilydd. Yn y Rhyfel Oer datblygwyd llongau tanfor niwclear i gario taflegrau niwclear, e.e. y taflegryn Trident (taflegryn) a ddefnyddir gan Brydain ac UDA.

Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol