Waldo Williams: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Edward Carpenter
Cysyllltiad a thad Waldo
Llinell 9: Llinell 9:


==Bywgraffiad==
==Bywgraffiad==
Cafodd ei eni yn [[Hwlffordd]], yn fab i J Edwal Williams, athro ysgol gynradd a Chymro Cymraeg. Enw ei fam (cyn priodi) oedd [[Angharad Jones]] a Saesneg oedd ei hiaith hi. Mae'n werth nodi fod tad Waldo a'r Parch [[John Jenkins (gweinidog ac heddychwr)|John Jenkins]], gweinidog gyda'r Bedyddwyr yn Hill Park, Hwlffordd, yn heddychwyr ac yn aelodau o'r Blaid Lafur Annibynnol.
Cafodd ei eni yn [[Hwlffordd]], yn fab i [[J Edwal Williams]], athro ysgol gynradd a Chymro Cymraeg. Enw ei fam (cyn priodi) oedd [[Angharad Jones]] a Saesneg oedd ei hiaith hi. Mae'n werth nodi fod tad Waldo a'r Parch [[John Jenkins (gweinidog ac heddychwr)|John Jenkins]], gweinidog gyda'r Bedyddwyr yn Hill Park, Hwlffordd, yn heddychwyr ac yn aelodau o'r Blaid Lafur Annibynnol.


Roedd yn saith oed yn dysgu [[Cymraeg]] pan symudodd y teulu i [[Mynachlog-ddu|Fynachlog-ddu]] yng ngogledd [[Sir Benfro]], [[1911]] - [[1915]] lle roedd ei dad yn brifathro ar yr ysgol gynradd. Yn [[1915]] daeth ei dad yn brifathro ar Ysgol Brynconin, Llandisilio a daeth y teulu'n aelodau o eglwys y Bedyddwyr, Blaenconin lle roedd y Parch [[T.J. Michael (Gweinidog)|T J Michael]] yn weinidog; heddychwr arall. Mynychodd Ysgol Ramadeg Arberth cyn mynd i Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth a graddio yn [[1926]] mewn Saesneg. Yn dilyn hyfforddiant fel athro bu'n dysgu mewn nifer o ysgolion yn Sir Benfro. Bu hefyd yn dysgu yng Ngogledd Cymru a Lloegr. Bu hefyd yn diwtor dosbarthiadau nos a drefnid gan Adran Efrydiau Allanol, [[Coleg y Brifysgol Aberystwyth]].
Roedd yn saith oed yn dysgu [[Cymraeg]] pan symudodd y teulu i [[Mynachlog-ddu|Fynachlog-ddu]] yng ngogledd [[Sir Benfro]], [[1911]] - [[1915]] lle roedd ei dad yn brifathro ar yr ysgol gynradd. Yn [[1915]] daeth ei dad yn brifathro ar Ysgol Brynconin, Llandisilio a daeth y teulu'n aelodau o eglwys y Bedyddwyr, Blaenconin lle roedd y Parch [[T.J. Michael (Gweinidog)|T J Michael]] yn weinidog; heddychwr arall. Mynychodd Ysgol Ramadeg Arberth cyn mynd i Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth a graddio yn [[1926]] mewn Saesneg. Yn dilyn hyfforddiant fel athro bu'n dysgu mewn nifer o ysgolion yn Sir Benfro. Bu hefyd yn dysgu yng Ngogledd Cymru a Lloegr. Bu hefyd yn diwtor dosbarthiadau nos a drefnid gan Adran Efrydiau Allanol, [[Coleg y Brifysgol Aberystwyth]].

Fersiwn yn ôl 14:31, 14 Mawrth 2018

Waldo Williams
FfugenwWaldo Edit this on Wikidata
Ganwyd30 Medi 1904 Edit this on Wikidata
Hwlffordd Edit this on Wikidata
Bu farw20 Mai 1971 Edit this on Wikidata
Hwlffordd Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig, Cymru Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethbardd, athro Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Adnabyddus amDail Pren Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Cymru Edit this on Wikidata
TadJ. Edwal Williams Edit this on Wikidata
MamAngharad Jones Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.waldowilliams.com Edit this on Wikidata
Waldo Williams ar glawr llyfr Stori Waldo Williams gan Alan Llwyd (Cyhoeddiadau Barddas; 2010).

Roedd Waldo Williams yn heddychwr, yn grynwr, yn genedlaetholwr, yn sosialydd ac yn un o feirdd mwyaf Cymru'r 20g (30 Medi 190420 Mai 1971). Un o'i gerddi enwocaf yw 'Mewn Dau Gae'.

Bywgraffiad

Cafodd ei eni yn Hwlffordd, yn fab i J Edwal Williams, athro ysgol gynradd a Chymro Cymraeg. Enw ei fam (cyn priodi) oedd Angharad Jones a Saesneg oedd ei hiaith hi. Mae'n werth nodi fod tad Waldo a'r Parch John Jenkins, gweinidog gyda'r Bedyddwyr yn Hill Park, Hwlffordd, yn heddychwyr ac yn aelodau o'r Blaid Lafur Annibynnol.

Roedd yn saith oed yn dysgu Cymraeg pan symudodd y teulu i Fynachlog-ddu yng ngogledd Sir Benfro, 1911 - 1915 lle roedd ei dad yn brifathro ar yr ysgol gynradd. Yn 1915 daeth ei dad yn brifathro ar Ysgol Brynconin, Llandisilio a daeth y teulu'n aelodau o eglwys y Bedyddwyr, Blaenconin lle roedd y Parch T J Michael yn weinidog; heddychwr arall. Mynychodd Ysgol Ramadeg Arberth cyn mynd i Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth a graddio yn 1926 mewn Saesneg. Yn dilyn hyfforddiant fel athro bu'n dysgu mewn nifer o ysgolion yn Sir Benfro. Bu hefyd yn dysgu yng Ngogledd Cymru a Lloegr. Bu hefyd yn diwtor dosbarthiadau nos a drefnid gan Adran Efrydiau Allanol, Coleg y Brifysgol Aberystwyth.

Priododd Linda yn 1941, ond bu hithau farw o'r diciâu yn 1943, a wnaeth e ddim priodi eilwaith. Cyfeiriodd droeon at y blynyddoedd hyn fel 'y blynyddoedd mawr'.

Roedd yn wrthwynebydd cydwybodol yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Rhyddhawyd ef yn ddiamod yn dilyn ei ddatganiad gerbron tribiwnlys yng Nghaerfyrddin, 12 Chwefror, 1942.[1]

Roedd yn teimlo mor gryf yn erbyn Rhyfel Corea nes iddo wrthod talu'r dreth incwm, ac fe'i carcharwyd am hynny ddechrau'r 1960au. Roedd yn ymwybodol iawn o feirniadaeth Mohandas Gandhi ar y llenor Rabindranath Tagore pan ddywedodd wrth Tagore 'rhowch i ni weithredoedd nid geiriau.' Gofynwyd i Waldo a oedd wedi ystyried cyhoeddi ei gerddi. Dyma ei ateb i D.J. Williams "Roeddwn i'n teimlo y byddai eu cael gyda'i gilydd mewn llyfr yn ofnadwy, yn rhagrithiol ac yn annioddefol heb fy mod yn gwneud ymdrech i wneud rhywbeth heblaw canu am y peth hwn.[2][3] Dylanwadodd y bardd sosialaidd a'r athronydd Edward Carpenter arno ef a'i dad.

Safodd dros Blaid Cymru yn Etholiad Cyffredinol 1959.

Fe'i claddwyd yn agos i'w wraig Linda ym mynwent capel Blaenconyn, rhwng Llandysilio a Chlunderwen, lle mae ei garreg fedd yn dwyn y geiriau 'Gwyn eu byd y tangnefeddwyr'. Mae carreg goffa i Waldo ar y comin ger Mynachlog-ddu.

Llyfryddiaeth

Gwaith Waldo

  • Cofio (cyfres Y Ford Gron)
  • Brenhiniaeth a Brawdoliaeth. Darlith yng Nghapel y Tabernacl, Abergwaun - 9 Mai 1956. Cyhoeddwyd y nodiadau yn Seren Gomer Haf 1956.
  • 'Mewn Dau Gae'. Baner ac Amserau Cymru. 13 Mehefin 1956.
  • 'Paham y Gwrthodais dalu treth yr incwm'. Baner ac Amserau Cymru 20 Mehefin 1956
  • Paham yr wyf yn Grynwr. Sgwrs Radio 15 Gorffennaf 1956 a gyhoeddwyd yn ddiweddarach ar 25 Mehefin 1971 yn Seren Cymru.
  • Dail Pren (1956)
  • Cerddi'r Plant (1970). Ar y cyd ag E. Llwyd Williams.
  • 'Rhyfel a'r Wladwriaeth'. Erthygl yn Y Faner (1956).
  • 'Barddoniaeth T E Nicholas'. Y Cardi, Rhif 6 , Gŵyl Ddewi 1970.
  • Old Farm House. Cyfieithiad Saesneg o Hen Dŷ Ffarm gan D.J. Williams.

Astudiaethau

Cyfeiriadau

  1. Datganiad Waldo y Traethodydd hydref 1971.
  2. Jâms Nicholas Darlith Goffa Lewis Valentine - Cymdeithas Heddwch Undeb Bedyddwyr Cymru, 2000. Tud 12/13
  3. www.waldowilliams.com; adalwyd 20 Mai 2015