Capital T (cerddor): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 9: Llinell 9:
Yn 18 oed, canodd Kushtrim Ademi y gân, ''Shopping'' ar ''Video Festi Muzikor 2009'', ac yna, flwyddyn yn hwyrach, cyhoeddwyd ''Shum Nalt'', gwaith ar y cyd gyda Dafina Zeqiri a 2po2. Yn 2010 canodd y gân ''Diva'' gydag Eni Koçi yng nghystadleuaeth ''Kënga Magjike'' gan gyrraedd y rownd gyn-derfynnol.
Yn 18 oed, canodd Kushtrim Ademi y gân, ''Shopping'' ar ''Video Festi Muzikor 2009'', ac yna, flwyddyn yn hwyrach, cyhoeddwyd ''Shum Nalt'', gwaith ar y cyd gyda Dafina Zeqiri a 2po2. Yn 2010 canodd y gân ''Diva'' gydag Eni Koçi yng nghystadleuaeth ''Kënga Magjike'' gan gyrraedd y rownd gyn-derfynnol.


Ers hynny, mae Ademi, o dan ei enw llwyfan ''Capital T'' wedi perfformio a chyfansoddi. Mae hefyd yn arddel y llys-enw, ''Trimi''. Ymysg ei hits mwyaf mae ''Një Ëndërr'' ('breuddwyd') gydag Alban Skenderai; ''Pse po ma lun lojen'' ('pam bod hi mor hir') a ''Pasha Jeten''. Ffilmiwyd fideo [https://www.youtube.com/watch?v=RQES6P4I0jI|''Pasha Jeten''] ('gyda bywyd') yn [[Skopje]], prifddinas [[Macedonia]]. Er bod y pensaerniaeth yn ymdebygu ar yr olwg gyntaf i [[B|Paris]], Skopje yw'r lleoliad. Mae oddeutu 20% o boblogaeth Macedonia yn Albaneg.
Ers hynny, mae Ademi, o dan ei enw llwyfan ''Capital T'' wedi perfformio a chyfansoddi. Mae hefyd yn arddel y llys-enw, ''Trimi''. Ymysg ei hits mwyaf mae ''Një Ëndërr'' (Breuddwyd) gydag Alban Skenderai; ''Pse po ma lun lojen'' (Pam bod hi mor hir) a ''Pasha Jeten''. Ffilmiwyd fideo [https://www.youtube.com/watch?v=RQES6P4I0jI|''Pasha Jeten''] (Gyda bywyd) yn [[Skopje]], prifddinas [[Macedonia]]. Er bod y pensaerniaeth yn ymdebygu ar yr olwg gyntaf i [[B|Paris]], Skopje yw'r lleoliad. Mae oddeutu 20% o boblogaeth Macedonia yn Albaneg.


== Personol ==
== Personol ==

Fersiwn yn ôl 12:59, 14 Mawrth 2018

Capital T, rapiwr o Albaneg o Cosofo


Capital T yw enw llwyfan Kushtrim Ademi a anwyd ar 1 Mawrth 1991 yn Priština, Cosofo. Mae'n gyfansoddwr, rapiwr a chanwr sy'n canu yn yr iaith Albaneg yn arbennig yn tafodiaeth Gheg a siaradir yng ngogledd Albania a Kosofo a'i ddinas enedigol, Priština, sef prifddinas Cosofo.

Bywyd

Mynychodd Kushtrim Ademi ysgol uwchradd (Gymnasium) Sami Frashëri yn Priština lle ddechreuodd ei ddiddordeb mewn cerddoriaeth. Ysbrydolwyd ef i ddechrau rapio gan ei ewythr, brawd ei fam, y rapiwr Besnik Canolli, un hanner o'r ddeuawd rapio Albaneg, 2po2, gydag Arben Mehmeti.

Yn 18 oed, canodd Kushtrim Ademi y gân, Shopping ar Video Festi Muzikor 2009, ac yna, flwyddyn yn hwyrach, cyhoeddwyd Shum Nalt, gwaith ar y cyd gyda Dafina Zeqiri a 2po2. Yn 2010 canodd y gân Diva gydag Eni Koçi yng nghystadleuaeth Kënga Magjike gan gyrraedd y rownd gyn-derfynnol.

Ers hynny, mae Ademi, o dan ei enw llwyfan Capital T wedi perfformio a chyfansoddi. Mae hefyd yn arddel y llys-enw, Trimi. Ymysg ei hits mwyaf mae Një Ëndërr (Breuddwyd) gydag Alban Skenderai; Pse po ma lun lojen (Pam bod hi mor hir) a Pasha Jeten. Ffilmiwyd fideo Pasha Jeten (Gyda bywyd) yn Skopje, prifddinas Macedonia. Er bod y pensaerniaeth yn ymdebygu ar yr olwg gyntaf i Paris, Skopje yw'r lleoliad. Mae oddeutu 20% o boblogaeth Macedonia yn Albaneg.

Personol

Bu Capital T yn byw am gyfnod yn yr Unol Daleithiau, ond mae bellach nôl yn ei famwlad. Authentic Entertainment, lapel recordio ei ewythr, 2po2 sy'n cyhoeddi mwyafrif ei gerddoriaeth.

Disgograffi

Albymau

  • 2010: Replay
  • 2012: Kapo
  • 2015: Slumdog Millionaire
  • 2017: Winter Is Here

Senglau

2008
  • Shopping
2009
  • Shum Nalt
  • Supersweet
2010
  • Ma E Mira
2011
  • Make a wish
  • Ku Jon Paret
  • U Bo Von
2012
  • Veç Asaj
  • Karma
  • As Gucci As Luis
2013
  • Zero
  • Dit E Re
2014
  • Hapat E Mi
  • Posh (feat. 2po2)
  • Ballin (feat. Mc Kresha)
  • Kur Fol Zemra
2015
  • Qka Don Ajo
  • Pare Pare
2016
  • Hitman
  • Thirrem n Telefon (feat. Granit Derguti)
  • Bongo (feat. Dhurata Dora)
  • C'est La guerre
  • Koka Kola
2017
  • UNO
  • Hatixhe
  • Lule
  • Andiamo (feat. Ardian Bujupi)
  • Pse Po Ma Lun Lojen
  • Pa Cenzur (feat. Vig Poppa & Lyrical Son)
  • NUMRA (feat McKresha)

Senglau ar y Cyd

2013
2014
  • Prishtinali (2po2 feat. DJ Blunt, Lumi B, Lyrical Son, Capital T, Real 1, Mixey & DJ Flow)
  • Sonte (Flori Mumajesi feat. Capital T)

Dolenni