Rhydgrawnt: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B robot yn ychwanegu: simple:Oxbridge
TXiKiBoT (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: vi:Oxbridge
Llinell 17: Llinell 17:
[[tg:Оксбриҷ]]
[[tg:Оксбриҷ]]
[[th:อ๊อกซบริดจ์]]
[[th:อ๊อกซบริดจ์]]
[[vi:Oxbridge]]
[[zh:牛橋]]
[[zh:牛橋]]

Fersiwn yn ôl 17:00, 30 Ionawr 2009

Mae Rhydgrawnt yn enw a ddefnyddir weithiau i gyfeirio at brifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt, y ddwy brifysgol hynaf yn y Deyrnas Unedig a'r byd Saesneg. Gair wedi'i lunio o gymysgu enwau'r ddwy brifysgol ydy'r enw. Mae'n dilyn patrwm y term Saesneg Oxbridge, a ddefnyddir yn y Gymraeg hefyd i gyfleu'r un ystyr.

Yn 2006, daeth Prifysgolion Caergrawnt a Rhydychen yn ail ac yn drydydd yn rhestr y Times Higher Education Supplement o'r brifysgolion ymchwil amlycaf yn y byd, ar ôl Prifysgol Harvard. Yn y gydran bwysicaf o system sgorio y THES, gofynnwyd i 3703 o academyddion ledled y byd ddethol hyd at 30 o brifysgolion a ystyrient yn sefydliadau ymchwil arweiniol yn eu maes. Yma, daeth Caergrawnt yn gyntaf, Rhydychen yn ail, a Harvard yn drydydd.