Aneirin Karadog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Adfer diwygiad olaf gan 22:59, 22 Medi 2017‎ MerBoswell i gael gwared o'r dwli gan 212.219.232.142
Dim crynodeb golygu
Llinell 2: Llinell 2:
Bardd, darlledwr, perfformiwr ac ieithydd yw '''Aneirin Karadog''' (ganed [[11 Mai]] [[1982]]) yn Ysbyty H.M Stanley, [[Llanelwy]]<ref>[http://www.literaturewales.org/rhestr-o-awduron/i/131877/ Gwefan Llenyddiaeth Cymru]; adalwyd 9 Rhagfyr 2015</ref>.
Bardd, darlledwr, perfformiwr ac ieithydd yw '''Aneirin Karadog''' (ganed [[11 Mai]] [[1982]]) yn Ysbyty H.M Stanley, [[Llanelwy]]<ref>[http://www.literaturewales.org/rhestr-o-awduron/i/131877/ Gwefan Llenyddiaeth Cymru]; adalwyd 9 Rhagfyr 2015</ref>.


Fe'i magwyd gan fwyaf yn [[Pontypridd|Mhontypridd]] a bu'n ddisgybl yn Ysgol Gynradd Pont-Siôn-Norton ac yna yn [[Ysgol Gyfun Rhydfelen]] rhwng 1993-2000. Graddiodd wedyn o'r [[Coleg Newydd, Prifysgol Rhydychen]], gyda gradd mewn [[Ffrangeg]] a [[Sbaeneg]]. Mae ei fam yn Llydawes a'i dad yn Gymro; gall siarad Cymraeg, Saesneg, Llydaweg, Ffrangeg a Sbaeneg yn rhugl.
Fe'i magwyd yn Llanrwst cyn symud i Bontardawe yn y 1980au ac yna i Bontybpridd [[Pontypridd|Mhontypridd]] a bu'n ddisgybl yn Ysgol Gynradd Pontardawe a Pont-Siôn-Norton ac yna yn [[Ysgol Gyfun Rhydfelen]] rhwng 1993-2000. Graddiodd wedyn o'r [[Coleg Newydd, Prifysgol Rhydychen]], gyda gradd mewn [[Ffrangeg]] a [[Sbaeneg]]. Mae ei fam yn Llydawes a'i dad yn Gymro; gall siarad Cymraeg, Saesneg, Llydaweg, Ffrangeg a Sbaeneg yn rhugl.


Mae bellach yn byw ym [[Pontyberem|Mhontyberem]] yng [[Cwm Gwendraeth|Nghwm Gwendraeth Fawr]] gyda'i wraig Laura.
Mae bellach yn byw ym [[Pontyberem|Mhontyberem]] yng [[Cwm Gwendraeth|Nghwm Gwendraeth Fawr]] gyda'i wraig Laura.

Fersiwn yn ôl 13:43, 9 Mawrth 2018

Aneirin Karadog
Ganwyd11 Mai 1982 Edit this on Wikidata
Llanelwy Edit this on Wikidata
Man preswylKerlouan Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata
Adnabyddus amawdl, Crap ar Farddoni Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Bardd, darlledwr, perfformiwr ac ieithydd yw Aneirin Karadog (ganed 11 Mai 1982) yn Ysbyty H.M Stanley, Llanelwy[1].

Fe'i magwyd yn Llanrwst cyn symud i Bontardawe yn y 1980au ac yna i Bontybpridd Mhontypridd a bu'n ddisgybl yn Ysgol Gynradd Pontardawe a Pont-Siôn-Norton ac yna yn Ysgol Gyfun Rhydfelen rhwng 1993-2000. Graddiodd wedyn o'r Coleg Newydd, Prifysgol Rhydychen, gyda gradd mewn Ffrangeg a Sbaeneg. Mae ei fam yn Llydawes a'i dad yn Gymro; gall siarad Cymraeg, Saesneg, Llydaweg, Ffrangeg a Sbaeneg yn rhugl.

Mae bellach yn byw ym Mhontyberem yng Nghwm Gwendraeth Fawr gyda'i wraig Laura.

Gyrfa

Bu'n gweithio am gyfnod gyda Menter Iaith Rhondda Cynon Taf cyn cael swydd yn Llanelli fel ymchwilydd gyda chwmni teledu Tinopolis yn 2005. Mae wedi cyflwyno Wedi 7 ac arferai rannu'i amser rhwng y rhaglen Heno a Sam Ar y Sgrin, ar S4C.

Enillodd Wobr Emyr Feddyg yn Eisteddfod Casnewydd 2004 a Chadair Eisteddfod yr Urdd yn 2005. Cyhoeddodd gerddi ar y cyd yn y gyfrol Crap ar Farddoni. Yn Eisteddfod Wrecsam 2011 enillodd ar gystadleuaeth Y Delyneg.[angen ffynhonnell] Ym mis Mawrth 2012 cyhoeddodd ei gyfrol gyntaf o gerddi yn unigol: O Annwn i Geltia (Cyhoeddiadau Barddas). Cyfrannodd Huw Aaron ugain o luniau a chlawr i'r gyfrol.[2] Enillodd y gyfrol "O Annwn i Geltia" wobr Categori Barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn.

Yn Eisteddfod yr Urdd Boncath, 2013, cyhoeddwyd mai Aneirin oedd Bardd Plant Cymru 2013-2015.

Mae bellach yn gweithio fel bardd a darlledwr llawrydd, ac yn gwneud ymchwil doethuriaethol ym Mhrifysgol Abertawe.[3]

Cerddoriaeth a llenyddiaeth

Bu'n aelod o Genod Droog a'r Diwygiad[4] ac mae wedi cyfrannu i amryw o albymau cerddorol, gyda Llwybr Llaethog, Cofi Bach a Tew Shady. Ym Mis Mawrth 2012 cyd-greodd a pherfformiodd Aneirin Bx3, sioe farddoniaeth i blant, ar y cyd gydag Eurig Salisbury, Catrin Dafydd a Llyr Bermo.[5]

Yn hydref 2013 cyhoeddodd Albym gysyniadol mewn cynghanedd am zombis yng Nghwm Gwendraeth o'r enw "Y Meirw Byw" gyda'r prosiect Y Datgyfodiad, sy'n cynnwys geiriau gan Abeirin, cerddoriaeth gan Chris Josey a gwaith celf gan Huw Aaron. Bu'n un o 6 a greodd ac a berfformiodd sioe am Dylan Thomas o'r enw Dylan Live/Dylan ar Daith a deithiodd ledled cymru yn ystod 2014 ac gyrhaeddodd uchafbwynt drwy berfformio yn Pen Festival, Efrog newydd ym mis Mai 2014.

Yn 2007 cyflwynodd Aneirin Karadog gyfres Byd y Beirdd i Radio Cymru. Yn 2013, cyflwynodd a sgriptiodd Aneirin rhaglen ddogfen am Zombis i S4C o'r enw Sombis! Byd y Meirw Byw. Yn 2014 cyflwynodd ac actiodd Aneirin estyniad o'i hunan gyda barf piws hir mewn cyfres o'r enw Y Barf ar S4C, gan ymdrechu i gyflwyno barddoniaeth i wylwyr ifanc S4C mewn ffordd hwyliog.[6]

Enillodd Gadair Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy yn 2016 o dan y ffugenw "Tad Diymadferth?" Roedd ei gerdd, ar y testun "Ffiniau", yn archwilio rhyfel a heddwch.[3]

Llyfryddiaeth

Cyfeiriadau

  1. Gwefan Llenyddiaeth Cymru; adalwyd 9 Rhagfyr 2015
  2. Gwefan Gwales; adalwyd 17 Chwefror 2015
  3. 3.0 3.1 'Aneirin Karadog yn ennill Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy'.http://www.bbc.co.uk/cymrufyw/36988660; adalwyd 8 Awst 2016.
  4.  Karadog, Aneirin. Llenyddiaeth Cymru. Adalwyd ar 30 Tachwedd 2012.
  5. www.celfcymru.org.uk; Gwefan www.celfcymru.org.uk, Cyngor Celfyddydau Cymru;] adalwyd 17 Chwefror 2015
  6. Gwefan S4C; adalwyd 17 Chwefror 2015