Cherokee: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B robot yn newid: ca:Cherokees
JAnDbot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: mk:Чироки
Llinell 47: Llinell 47:
[[ko:체로키족]]
[[ko:체로키족]]
[[lt:Čerokiai]]
[[lt:Čerokiai]]
[[mk:Чироки]]
[[mr:चेरोकी]]
[[mr:चेरोकी]]
[[nl:Cherokee (volk)]]
[[nl:Cherokee (volk)]]

Fersiwn yn ôl 23:41, 24 Ionawr 2009

Baner Cenedl y Cherokee
Bachgen a merch Cherokee yng Ngogledd Carolina.

Grŵp ethnig o frodorion Gogledd America yw’r Cherokee. Daw’r gair "Cherokee" o’r iaith Choctaw "Cha-la-ke", sy’n golygu "y rhai sy’n byw yn y mynyddoedd". Yn wreiddiol roedd y Cherokee yn eu galw eu hunain y is Ah-ni-yv-wi-ya ("Y brif pobl"). Maent yn siarad Cherokee, iaith Iroquoiaidd, sy’n defnyddio orgraff a ddyfeisiwyd gan Sequoyah.

Pan ddaethant i gysylltiad ag Ewropeaid gyntaf yn y 1600au roeddynt yn byw yn nwyrain a de-ddwyrain yr hyn sy’n awr yr Unol Daleithiau, yn enwedig taleithiau Georgia, Gogledd Carolina a De Carolina . Ystyrid hwy yn un o’r Pum Llwyth Gwareiddiedig. Yn y 1830au, gyda phoblogaeth Ewropeaidd y tiriogaethau hyn yn cynyddu’n gyflym. gorfodwyd y rhan fwyaf ohonynt i symud tua’r gorllewin i Lwyfandir Ozark yn yr hyn a elwir yn Llwybr y Dagrau.

Yn ol cyfrifiad 2000 yn yr Unol Daleithiau, y Cherokee yw’r mwyaf niferus o’r 563 llwyth brodorol yn yr Unol Daleithiau, y rhan fwyaf ohonynt yn Oklahoma. Yn y blynyddoedd diwethaf mae dadlau wedi bod a ddylai disgynyddion caethweision duon fu ym mherchenogaeth y Cherokee yn y cyfnod cyn Rhyfel Cartref America gael eu hystyried fel aelodau o genedl y Cherokee. Mae’r ddadl yn parhau yn 2007, gyda nifer o achosion llys.

Cherokee enwog

Gweler hefyd

Evan Jones, cenhadwr a gyfieithodd y Beibl i'r iaith Cherokee.

Cysylltiadau allanol

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: