Epigram: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
VolkovBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: ko:에피그램
B robot yn ychwanegu: et:Epigramm
Llinell 44: Llinell 44:
[[eo:Epigramo]]
[[eo:Epigramo]]
[[es:Epigrama]]
[[es:Epigrama]]
[[et:Epigramm]]
[[fi:Epigrammi]]
[[fi:Epigrammi]]
[[fr:Épigramme]]
[[fr:Épigramme]]

Fersiwn yn ôl 13:09, 24 Ionawr 2009

Ffurf lenyddol gryno, yn llinell, cwpled neu bennill, sy'n traethu doethineb neu wirionedd neu gyngor buddiol ynghylch bywyd a'r byd wedi'i fynegi'n goeth, yn fachog a chofiadwy yw epigram. Gair Groeg yw epigam sydd wedi cael ei fenthyg gan sawl iaith, yn cynnwys y Gymraeg, a gan lenorion Groeg yr Henfyd y ceir yr epigramau cynharaf yn nhraddodiad llenyddol y Gorllewin. Ceir ffurfiau tebyg mewn diwylliannau eraill hefyd, e.e. yr haiku yn llenyddiaeth Siapaneg, ac mae'n ffurf lenyddol boblogaidd yn y Gymraeg ers canrifoedd.

Tyfodd yr epigram yn y Gorllewin allan o arfer y Groegiaid o lunio beddargraffiadau am y meirw. Yn ddiweddarach cafwyd casgliadau o epigramau Groeg, yn cynnwys Y Flodeugerdd Roeg. Ymledaenodd yr epigram i Rufain a daeth beirdd fel Martial yn feistri arno. Parhaodd traddodiad yr epigram Lladin clasurol yn rhan o brif ffrwd llenyddiaeth Ewrop am ganrifoedd. Un o epigramwyr Lladin enwocaf yr 17eg ganrif oedd y Cymro John Owen, a adnabyddwyd fel "Martial Prydain".

Yng Nghymru gellid dweud fod naws yr epigram yn elfen bwysig ym marddoniaeth gynnar y Cymry, yn enwedig yn y canu englynol, ond er y ceir llinellau a chwpledi sy'n epigramau mewn llawer o ganu y Cywyddwyr, ni ddatblygodd yn ffurf ar wahân tan y ddeunawfed ganrif. Perthyn yn agos i'r epigram y mae'r diharebion Cymraeg hefyd. Heddiw mae'n parhau i fod yn ffurf boblogaidd gan feirdd Cymraeg ac mae'n un o gystadlaethau arferol Talwrn y Beirdd.

Rhai enghreifftiau

Dyma ychydig o enghreifftiau o epigramau Cymraeg dros y blynyddoedd, gan gychwyn gyda chwpled enwog gan Llawdden (tua 1450-1480):

'Nôl blino'n treiglo pob tref
Teg edrych tuag adref.[1]


Rhys Cain (m. 1614) ar garu'n ofer:

Cur dwfn yw cariad ofer.[2]


Saunders Lewis yn y ddrama Blodeuwedd:

Rhodd enbyd yw bywyd i bawb.[3]


Gerallt Lloyd Owen ar brofiad a chyfiawnder:

A ŵyr frath newyn i'r fron
A ry bris ar y briwsion.[4]

Cyfeiriadau

  1. Y Flodeugerdd o Epigramau Cynganeddol, rhif 101.
  2. ibid., rhif 506.
  3. ibid., rhif 794.
  4. ibid., rhif 1246.

Llenyddiaeth

  • Alan Llwyd (gol.), Y Flodeugerdd o Epigramau Cynganeddol (Cyhoeddiadau Barddas, 1985).