Swffragét: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Huw P (sgwrs | cyfraniadau)
Huw P (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 9: Llinell 9:
== Carcharu ==
== Carcharu ==
[[Delwedd:Emmeline_Pankhurst2.jpg|chwith|bawd|Emmeline Pankhurst]]
[[Delwedd:Emmeline_Pankhurst2.jpg|chwith|bawd|Emmeline Pankhurst]]
[[Delwedd:Ymosod ar Swffraget Llanystumdwy 1912.jpg|alt=Ymosod ar Swffraget Llanystumdwy 1912|bawd|Ymosod ar Swffraget Llanystumdwy 1912]]
[[Delwedd:Ymosod ar Swffraget Llanystumdwy 1912.jpg|alt=Ymosod ar Swffraget, Llanystumdwy 1912|bawd|Ymosod ar Swffraget Llanystumdwy 1912]]
Ar ddechrau'r 20g hyd at y [[Rhyfel Byd Cyntaf]] carcharwyd tua mil o swffragetiaid ym Mhrydain.<ref name="Purvis 1995 103">{{Harvard citation no brackets|Purvis|1995|p=103}}.</ref>
Ar ddechrau'r 20g hyd at y [[Rhyfel Byd Cyntaf]] carcharwyd tua mil o swffragetiaid ym Mhrydain.<ref name="Purvis 1995 103">{{Harvard citation no brackets|Purvis|1995|p=103}}.</ref>



Fersiwn yn ôl 15:15, 27 Chwefror 2018

Swffragetiaid mewn rali ym Mharc Cathays, Caerdydd yn 1913.

Roedd y Swffraget yn aelodau o fudiad merched yn yr 19g hwyr a dechrau'r 20g oedd yn hyrwyddo 'etholfraint', neu'r hawl i bleidleisio mewn etholiadau cyhoeddus. Cyfeiria'n benodol at aelodau megis Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched (neu'r WSPU). 

Cysylltir y term swffraget yn benodol gyda ymgyrchwyr o'r WSPU Prydeinig, a'u harweinydd Emmeline Pankhurst, gafodd ei dylanwadu gan dulliau Rwsiaidd o brotestio e.e. ymprydio. Er i Ynys Manaw ganiatau merched oedd berchen ar eiddo bleidleisio mewn etholiadau seneddol yn 1881, Seland Newydd oedd y wlad hunan-lywodraethol cyntaf i ganiatau hawl i bob menyw dros 21 oed bleidleisio mewn etholiadau seneddol yn 1893.[1] Llwyddodd merched yn Ne Awstralia i gael yr un hawliau ac i gael yr hawl i gael eu hethol yn 1895.[2] Yn yr Unol Daleithiau, roedd gan ferched gwyn dros 21 oed yr hawl i bleidleisio yn Wyoming o 1896 ac yn Utah o 1870. Er hynny, yn 1903 nid oedd gan ferched ym Mhrydain yr hawl i bleidleisio a penderfynodd Pankhurst bod rhaid i'r mudiad ddod yn radical a milwriaethus i fod yn effeithiol. Yn rhan o'r ymgyrchu roedd difrodi eiddo, ymprydio a charcharu tan ddechrau'r rhyfel yn 1914.

Daeth yr hawl, i ferched ym Mhrydain dros 30 oed, gydag amodau eiddo penodol, bleidleisio yn 1918, ac yn 1928 daeth hynny'n wir i pob menyw dros 21 oed.[3] 

Carcharu

Emmeline Pankhurst
Ymosod ar Swffraget, Llanystumdwy 1912
Ymosod ar Swffraget Llanystumdwy 1912

Ar ddechrau'r 20g hyd at y Rhyfel Byd Cyntaf carcharwyd tua mil o swffragetiaid ym Mhrydain.[4]

Difrodi eiddo

Yn ystod ymgyrchoedd y swffraget ym Mhrydain roedd cynnwys blychau post yn cael eu rhoi ar dan neu roedd asid neu hylif ysol yn cael ei dollti dros llythyrau a chardiau post. Difrodwyd ffenestri siopau a swyddfeydd gyda morthwylion. Torrwyd gwifrenni ffôn a gwelwyd slogannau graffiti ar y strydoedd.[5] 

Roedd David Lloyd George, fel aelod pwysig o’r llywodraeth ac wedyn yn Brif Weinidog, yn darged cyson ar gyfer y protestiadau. Gweiddwyd Swffragetiaid ar draws ei areithiau yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac ym Mhafiliwn Caernarfon ble cafodd y protestwyr, dynion a merched eu curo gan y dorf.[6] Ym 1912 roedd protest enwocaf y Swffragetiaid yng Nghymru pan ddychwelodd Lloyd George i’w bentref genedigol Llanystumdwy i agor neuadd newydd y pentref . Gwaeddodd y Swffragetiaid yn galw am bleidleisiau i ferched ar draws ei araith. Cafodd y merched eu llusgo o’r neuadd yn filain iawn ac eu curo. Cofodd un o’r merched ei dillad wedi’u tynnu a bron taflwyd un arall oddi ar y bont yr Afon Dwyfor gerllaw i’r creigiau. [7]

Targedwyd Plas Pinfold yn Surrey, oedd wedi ei adeiladu i Lloyd George, gyda dau fom ar Chwefror 19, 1913. Ffrwydrodd un gan greu difrod mawr. Yn hunangofiant Sylvia Pankhurst mae'n honni mai Emily Davison oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad.

Ymprydio

Y ddynes gyntaf i ymprydio dros achos y swffragetiaid oedd Marion Wallace Dunlop. Cafodd ei charcharu am fis ym mis Gorffennaf 1909 am fandaliaeth.[8] Ar ol 91 awr o ymprydio cafodd ei rhyddhau gan i'r Ysgrifennydd Cartref, Herbert Gladstone ofni iddi ddod yn ferthyr.[9]

Cyfeiriadau

  1. Ida Husted Harper. History of Woman Suffrage, volume 6 (National American Woman Suffrage Association, 1922) p. 752.
  2. "Foundingdocs.gov.au". Foundingdocs.gov.au. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 December 2010. Cyrchwyd 8 January 2011. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  3. Crawford 1999.
  4. Purvis 1995, t. 103.
  5. Porter, Ian. "Suffragette attack on Lloyd-George". London walks. London Town Walks. Cyrchwyd 4 February 2013.
  6. "Historic Eisteddfodau and Gorseddau". museumwales.ac.uk. Cyrchwyd 5 February 2016.
  7. "Winning the vote for women in Wales". llgc.org.uk. Cyrchwyd 31 March 2016.
  8. Purvis, ""Deeds, Not Words"", 97
  9. Geddes 2008, t. 82.