Attila: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu |
|||
Llinell 21: | Llinell 21: | ||
Oherwydd iddo farw yn ei wely fel canlyniad i waedlif drom, fe ymddengys, ymledodd sïon fod ei wraig Ildeco wedi llofruddio Attila er mwyn dial arno. |
Oherwydd iddo farw yn ei wely fel canlyniad i waedlif drom, fe ymddengys, ymledodd sïon fod ei wraig Ildeco wedi llofruddio Attila er mwyn dial arno. |
||
[[Categori:Hanes]] |
[[Categori:Hanes Asia]] |
||
[[Categori:Hanes Ewrop]] |
|||
[[Categori:Yr Ymerodraeth Rufeinig]] |
[[Categori:Yr Ymerodraeth Rufeinig]] |
||
[[Categori:Marwolaethau 453]] |
[[Categori:Marwolaethau 453]] |
||
[[Categori:Pobl y 5ed ganrif]] |
Fersiwn yn ôl 16:29, 20 Chwefror 2018
Roedd Attila (c.406 – Mawrth 453) yn frenin yr Hyniaid, a enillodd iddo'i hun y llysenw "Fflangell Duw".
Y cynghrair
Yn 434 daeth yn gyd-frenin, gyda'i frawd, ar ffederasiwn lac o nifer fawr o lwythi Hun o ganolbarth Asia a oedd ar wasgar rhwng Môr Caspia ac Afon Daniwb. Cyn bo hir roedd gan Attila Fandaliaid, Ostrogothiaid, Gepidiaid a Ffranciaid yn ymladd dan ei faner yn ogystal ac roedd yn rheoli tiriogaeth a ymestynnai o Afon Rhein yn yr Almaen i Scythia ar ffin orllewinol Tsieina.
Ymosod ar Ymerodraeth y dwyrain
Yn 447 arweiniodd gyfres o gyrchoedd dinistriol ar yr holl daleithiau Rhufeinig rhwng y Môr Du a'r Môr Canoldir. Gorchfygodd yr ymerodr Theodosius II mewn tair brwydr waedlyd a dim ond ei muriau trwchus ac anwybodaeth yr Hyniaid â'u cynghreiriad o dactegau gwarchae a achubodd Gaergystennin rhag syrthio. Goresgynwyd Thrace, Macedon a gwlad Groeg ei hun hefyd a chymhellwyd Theodosius i ildio tiriogaeth i'r de o Afon Daniwb ac i dalu teyrnged arian i Attila.
Gâl
Yn 451 ymosododd Attila ar Gâl, ond llwyddodd Aetius, y pennaeth Rhufeinig, a'i gynghreiriad Theodoric, brenin y Visigothiaid, i godi ei warchae ar ddinas Orléans a'i drechu'n llwyr wedyn mewn brwydr gostus ar wastadedd Catalaunia, ger Châlons-sur-Marne.
Y cyrch ar Rufain
Tynnodd Attila yn ôl i Hwngari, ond y flwyddyn ar ôl hynny gwnaeth cyrch i'r Eidal gan anrheithio Aquileia, Milan, Padova a dinasoedd Rhufeinig eraill. Dim ond ymyrraeth bersonol Pab Leo I, a roddodd swm anferth o arian i Attila, a achubodd ddinas Rhufain ei hun rhag cael ei dinistrio.
Bu farw Attila yn 453, yn fuan wedi ei briodas i dywysoges Fwrgwynaidd o'r enw Ildeco, a chyda'i farwolaeth bu trai ar ymerodraeth yr Hun.
Cymeriad chwedlonol
Mae Attila yn gymeriad yn y Nibelungenlied Almaeneg dan yr enw Etzel ac yn ymddangos fel Atli yn y Völsunga Saga Hen Islandeg.
Oherwydd iddo farw yn ei wely fel canlyniad i waedlif drom, fe ymddengys, ymledodd sïon fod ei wraig Ildeco wedi llofruddio Attila er mwyn dial arno.