Bulkeley (teulu): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B →top: canrifoedd a Delweddau, replaced: 19eg ganrif → 19g, 18fed ganrif → 18g, 16eg ganrif → 16g using AWB |
|||
Llinell 25: | Llinell 25: | ||
{{Rheoli awdurdod}} |
{{Rheoli awdurdod}} |
||
[[Categori: |
[[Categori:Biwmares]] |
||
[[Categori:Hanes Ynys Môn]] |
|||
[[Categori:Pobl o Ynys Môn]] |
[[Categori:Pobl o Ynys Môn]] |
||
[[Categori:Teuluoedd Cymreig]] |
[[Categori:Teuluoedd Cymreig]] |
Fersiwn yn ôl 15:22, 20 Chwefror 2018
Teulu a fu'n ddylanwadol ar Ynys Môn ac ardaloedd cyfagos am rai canrifoedd oedd teulu Bulkeley (neu'r Bwcleaid)[1]. Eu prif drigfan oedd Baron Hill gerllaw Biwmares, ond roedd nifer o ganghennau o'r teulu.
O ddwyrain Swydd Gaer yn Lloegr y daeth y teulu yn wreiddiol, ond ymddengys eu bod ym Môn cyn 1450. Heblaw y prif gangen, roedd cangen y Gronant a'r Dronwy; y mwyaf adnabyddus o'r rhain yw Syr John Bulkeley o Bresaddfed. Roedd hefyd gangen Porthamel, a ddaeth i ben pan saethodd Francis Bulkeley ei hun yn 1714. Yr aelod mwyaf adnabyddus o gangen y Brynddu oedd William Bulkeley, y dyddiadurwr.
Bu aelod o brif gangen y teulu, Arthur Bulkeley, yn Esgob Bangor rhwng 1541 a 1552. Adeiladwyd plasdy Baron Hill gyntaf yn 1618 gan Syr Richard Bulkeley (bu farw 1621). Gwnaed ei fab, Thomas (1585-1659), yn Is-iarll Bulkeley.
Cynrychiolwyd Sir Fôn a'i bwrdeisdrefi yn San Steffan gan aelodau o deulu Bulkeley neu eu cefnogwyr bron yn ddi-fwlch o ganol y 16g hyd ganol y 19g. Torïaid uchel oeddynt o ran gwleidyddiaeth, ac yn y 18g amheuid hwy o gydymdeimlad a Jacobitiaeth. Daeth y brif linach i ben pan fu farw'r seithfed Is-iarll Thomas Bulkeley heb blant yn 1822. Ei etifedd oedd Syr Richard Williams, mab ei hanner brawd, ac yn 1827 newidiodd ef ei enw i Syr Richard Bulkeley Williams Bulkeley. Mae'r teulu Williams Bulkeley yn parhau i fyw yn yr ardal, er bod Baron Hill yn adfail.
Rhai aelodau nodedig
- Arthur Bulkeley (m. 1552), Esgob Bangor
- Richard Bulkeley (1524 - 1573), Aelod Seneddol Sir Fôn
- Richard Bulkeley (1533 – 1621), Aelod Seneddol dros Ynys Môn
- Syr Richard Bulkeley (1558-1572), Aelod Seneddol Sir Fôn ym 1549, 1554 a 1571
- Lancelot Bulkeley (1568?-1650) - Archesgob Dulyn rhwng 1619 a 1650; mab Richard Bulkeley (bu farw 1573) a hanner brawd Richard Bulkeley (bu farw 1621).
- William Bulkeley (1691 - 1760), tirfeddiannwr a dyddiadurwr o'r Brynddu, Llanfechell, Ynys Môn
Gweler hefyd
- Is-iarll Bulkeley, teitl ym Mhendefigaeth Iwerddon a grewyd ar 19 Ionawr 1644 ar gyfer Thomas Bulkeley, Is-iarll 1af Bulkeley mab Syr Richard Bulkeley
Ffynonellau
- ↑ Y Bywgraffiadur Cymreig Ar-lein; adalwyd 2 Tachwedd 2016.