Young Marble Giants: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Huw P (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Huw P (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 68: Llinell 68:
<!--
<!--


///////////// Beth yw'r testun isod? Dylai fod mewn erthygl ar wahan? \\\\\\\\\\\\\
///////////// Beth yw'r testun isod? Dylai fod mewn erthygl ar wahan? Dwi wedi ei gynnwys ar dudalen https://cy.wikipedia.org/wiki/Pync-roc\\\\\\\\\\\\\


==Bandiau Pync-roc eraill o Gymru==
==Bandiau Pync-roc eraill o Gymru==

Fersiwn yn ôl 12:16, 20 Chwefror 2018

Young Marble Giants

Roedd y Young Marble Giants yn grŵp new wave o Gaerdydd rhwng 1978 a 1980, gan ail-ffurfio am rhai blynyddoedd yn 2006.

Yr aelodau oedd y gantores Alison Statton gyda'r brodyr Philip a Stuart Moxham ar gitarau. Doedd y band ddim am gael drymiwr felly defnyddiwyd tapiau o beiriant drymiau Peter Joyce a fu hefyd yn aelod yn y dyddiau cynnar . Mae organ trydanol i'w clywed ar rhai o'u caneuon. [1]

Roedd eu sŵn minimalaidd, moel, yn debyg i recordiad demo syml ac yn dra gwahanol i'r steil ymosodol punk y cyfnod.

Rhyddhawyd un sesiwn i raglen John Peel ar BBC Radio 1 ac un LP Colossal Youth (ar label Rough Trade) a recordiwyd mewn 5 diwrnod a chymysgwyd mewn 20 munud. [2]

Ni chafodd y band fawr o sylw neu lwyddiant masnachol ar y pryd. Ond mae'r LP Colossal Youth bellach yn cael ei gyfrif fel clasur gan feirniad cerddoriaeth a cherddorion. Er enghraifft dywedodd Kurt Cobain o Nirvana roedd y Young Marble Giants wedi bod yn ddylanwad mawr arno. [3] 
 


Discograffi

Recordiau stiwdio


* Colossal Youth (1980)

EPs

  • Final Day (1980)
  • Testcard E.P. EP (1981)

Byw

  • Peel Sessions (1991)
  • Live at the Hurrah! (2004)

Aml-gyfrannog

  • Salad Days (2000)- fersynnau demo o ganeuon Colossal Youth a Testcard

Oriel

Cyfeiriadau

  1. Plagenhoef, Scott; Schreiber, Ryan, gol. (November 2008). The Pitchfork 500. Simon & Schuster. t. 43. ISBN 978-1-4165-6202-3.
  2. https://www.facebook.com/YoungMarbleGiantsOfficial Young Marble Giants
  3. https://www.youtube.com/watch?v=SalY3kgGz_M