Zephaniah Williams: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
dolen |
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Un o [[Sir Fynwy]] oedd '''Zephaniah Williams''' (1795-1874), ac un o arweinwyr [[Terfysg Casnewydd]] yn 1839. |
Un o [[Sir Fynwy]] oedd '''Zephaniah Williams''' (1795-1874), ac un o arweinwyr [[Terfysg Casnewydd]] yn 1839. Yn enedigol o [[Argoed, Caerffili|Argoed]], roedd yn lowr blaenllaw yn [[Blaina]] ac yn cadw tafarn y Royal Oak yn [[Nantyglo]], ble roedd yn arfer dalu ei lowyr. |
||
== Siartwyr == |
== Siartwyr == |
Fersiwn yn ôl 08:30, 30 Rhagfyr 2008
Un o Sir Fynwy oedd Zephaniah Williams (1795-1874), ac un o arweinwyr Terfysg Casnewydd yn 1839. Yn enedigol o Argoed, roedd yn lowr blaenllaw yn Blaina ac yn cadw tafarn y Royal Oak yn Nantyglo, ble roedd yn arfer dalu ei lowyr.
Siartwyr
Dyn annibynol ei farn, oedd Williams, ac roedd yn cynnal cyfarfodydd 'Cymdeithas y Gweithwyr' yn ei gartref. Daeth yn arweinydd naturiol o ymgyrch y siartwyr yn Ne Cymru.
Terfysg Casnewydd
Arweiniodd golofn o ddynion o ardal Nantyglo i lawr i Gasnewydd, ac at Westy'r Westgate ble roedd rhai o hoelion wyth y siartwyr wedi eu dal gan dros 60 o filwyr. Ei gyd-arweinwyr oedd John Frost a William Jones (Siartydd). Yn ôl rhai haneswyr, dyma gwrthryfel mwyaf a chryfaf gwledydd Prydain yn ystod y 19eg ganrif. [1].
Daeth ei ddynion at ei gilydd, gan ymgynull yn nhafarn y 'Welsh Oak', Pontymister, gan fartsio yn eu blaenau i Gasnewydd.
Awstralia amdani!
Cafodd Williams a'r ddau arweinydd arall eu dedfrydu i'w crogi a'u chwarteru, ond ar ôl protest cryf iawn, newidiwyd hyn i alltudiaeth i Van Diemen's Land (Tasmania, heddiw) yn Awstralia.
Gwneud ei ffortiwn
Ar un cyfnod, gwyddom iddo gynllunio i ddianc o'r cyfandir. Ond, darganfu glo yno, a gwnaeth ei ffortiwn yn ei fwyngloddio. Dychwelodd gyda'i deulu yn ôl i Gymru yn 1854.
Bu farw'n ŵr cefnog iawn yn Launceston, Tasmania ym Mai, 1874.
Dolennau allanol
- ↑ Edward Royal, Chartism, Longman, London: 1996