David Rees (gwleidydd): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B clean up
Llinell 54: Llinell 54:
{{dechrau-bocs}}
{{dechrau-bocs}}
{{Teitl Dil|cym}}
{{Teitl Dil|cym}}
{{bocs olyniaeth | cyn=''[[Brian Gibbons]]'' | teitl=David Rees dros [[Aberafan (etholaeth Cynulliad)|Aberafan]]| blynyddoedd=[[2011]] – | ar ôl= }}
{{bocs olyniaeth | cyn=[[Brian Gibbons]] | teitl=David Rees dros [[Aberafan (etholaeth Cynulliad)|Aberafan]]| blynyddoedd=[[2011]] – | ar ôl= }}
{{diwedd-bocs}}
{{diwedd-bocs}}



Fersiwn yn ôl 16:57, 8 Chwefror 2018

David Rees
AC
Aelod o Cynulliad
dros Aberafan
Deiliad
Cychwyn y swydd
6 Mai 2011
Rhagflaenwyd ganBrian Gibbons
Mwyafrif6,402 (30.7%)
Manylion personol
Ganwyd (1957-01-17) 17 Ionawr 1957 (67 oed)
Port Talbot
Plaid wleidyddolLlafur Cymru
PriodMarie Rees
Plant2
CartrefCwmafan, Port Talbot
Alma materPrifysgol Caerdydd
GwaithDarlithiwr
ProffesiwnGwleidydd
GwefanGwefan Bersonol

Gwleidydd Llafur Cymru yw David Rees sydd wedi cynrychioli etholaeth Aberafan yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ers 2011.[1]

Bywyd cynnar ac addysg

Magwyd Rees ym Mhort Talbot a fe'i addysgwyd mewn ysgolion lleol cyn astudio ym Mhrifysgol Caerdydd, lle enillodd radd anrhydedd mewn Peirianneg a chymhwyster dysgu ôl-raddedig. Ar ôl cwblhau ei astudiaethau yn y Brifysgol dechreuodd yrfa ym myd addysg. Gweithiodd fel athro yn Ysgol Gyfun Cynffig ym Mynydd Cynffig, ac yna aeth yn ddarlithydd cyfrifiadureg yng Ngholeg Afan cyn symud i Addysg Uwch. Cyn dod yn AC dros Aberafan roedd yn Ddeon Cynorthwyol y Gyfadran ym Mhrifysgol Fetropolitan Abertawe. Yn ystod y cyfnod hwn, tra'n gweithio mewn Addysg Uwch, enillodd gymhwyster ôl-raddedig MSc pellach, ac yn 2016 roedd yn astudio ar gyfer ei ddoethuriaeth.[2]

Gyrfa wleidyddol

Ymunodd Rees â'r Blaid Lafur ym 1982 ac mae wedi bod yn aelod gweithgar ers hynny. Mae wedi dal nifer o swyddi o fewn y Blaid ac roedd yn Ysgrifennydd Etholaeth y Blaid Lafur dros Aberafan rhwng 2005 a 2011, gan sefyll i lawr er mwyn canolbwyntio ar etholiad y Cynulliad yn 2011. Mae'n aelod o Unite ac ar hyn o bryd yn gweithredu fel cynullydd Grŵp Unite yn y Cynulliad. 

Yn 2016 roedd hefyd yn Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn y Cynulliad, yn craffu ar ddeddfwriaeth y llywodraeth ac yn cynhyrchu adroddiadau amserol yn seiliedig ar ymchwiliad y pwyllgor. Mae hefyd yn aelod o Bwyllgor Plant a Phobl Ifanc, sy'n ystyried materion ar draws sawl portffolio, yn enwedig iechyd ac addysg, a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc.

Trwy ei rôl fel Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Gymunedau Diwydiannol, mae'n cymryd rhan mewn ymgyrchoedd i wella amodau economaidd a chymdeithasol yng nghymunedau Cymru. Yn ogystal mae Rees yn gweithredu fel Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Wyddoniaeth .

Mae ei ddiddordebau eraill yn cynnwys Cymunedau yn Gyntaf, tlodi plant, ymgysylltu ieuenctid, addysg ac adfywio.[3]

Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Rhagflaenydd:
Brian Gibbons
David Rees dros Aberafan
2011
Olynydd:
'

Cyfeiriadau

Dolenni allanol