Timor: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
TXiKiBoT (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: uk:Тимор
Llinell 47: Llinell 47:
[[ta:திமோர்]]
[[ta:திமோர்]]
[[tr:Timor]]
[[tr:Timor]]
[[uk:Тимор]]
[[zh:帝汶]]
[[zh:帝汶]]
[[zh-min-nan:Timor]]
[[zh-min-nan:Timor]]

Fersiwn yn ôl 18:48, 25 Rhagfyr 2008

Ynys Timor

Mae Timor yn ynys yn ne-ddwyrain Asia. Mae rhan ddwyreiniol yr ynys yn wladwriaeth annibynnol Dwyrain Timor, tra mae'r rhan orllewinol yn rhan o Indonesia dan yr enw Gorllewin Timor.

Daw'r enw o timur, "dwyrain" mewn Malayeg; mae'r ynys yn un o'r rhai mwyaf dwyreiniol o'r gadwyn o ynysoedd. Mae'n ynys weddol fawr, 11,883 milltir sgwâr (30,777 km²). Mae Awstralia i'r de o'r ynys, Sulawesi a Flores i'r gogledd-orllewin a Sumba i'r gorllewin. I'r gogledd-ddwyrain mae Ynysoedd Barat Daya, yn cynnwys Wetar.

Roedd rhan orllewinol yr ynes yn rhan o ymerodraeth yr Iseldiroedd o ddechrau'r 19eg ganrif hyd 1949 pan ddaeth yn rhan o Indonesia. Roedd dwrain yr ynys yn eiddo i Portiwgal o 1596 hyd 1975. Yn 1975 meddiannwyd y rhan ddwyreiniol hefyd gan Indonesia. Wedi ymladd hir a gwaedlyd rhwng y mudiad cenedlaethol a byddin Indonesia, cynhaliwyd refferendwm yn 1999, pan bleidleisiodd poblogaeth dwyrain Timor dros annibyniaeth. Daeth Dwyrain Timor yn annibynnol yn 2002.