Sŵnami: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dafyddt (sgwrs | cyfraniadau) |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
{{Gwybodlen Cerddorion |
{{Gwybodlen Cerddorion |
||
| enw = Sŵnami |
| enw = Sŵnami |
||
| delwedd = |
| delwedd = [[File:Sw¦énami IP.jpg|thumb|centre|Sŵnami, 2012]] |
||
| pennawd = |
| pennawd = |
||
| cefndir = group_or_band |
| cefndir = group_or_band |
Fersiwn yn ôl 00:45, 7 Chwefror 2018
Sŵnami |
---|
Mae Sŵnami yn fand roc indie o Wynedd.
Hanes
Sefydlwyd y band yn 2011, gan ymddangos ar gystadleuaeth Brwydr y Bandiau C2 y flwyddyn honno. Daeth y band yn ail, gyda Siân Miriam yn cipio'r wobr gyntaf. Roedd y pum aelod gwreiddiol, Ifan Davies (llais, gitâr), Ifan Ywain (gitâr), Gerwyn Murray (gitar fâs, llais), Huw Ynyr (allweddellau, llais), a Tom Ayres (drymiau), wedi eu magu ym Meirionnydd, gyda'r rhan fwyaf ohonynt yn mynychu Coleg Meirion Dwyfor. Ymddangosodd y grŵp ar raglen Bandit ar y ffurf hwn.[1] Bu i'r grŵp ennill yng nghategori 'Band Newydd Gorau' yn noson wobrau'r Selar y flwyddyn hon.
Erbyn rhyddhau eu senglau cyntaf, Mynd a Dod ac Eira ar label Rasal yn 2012, bu i Tom Ayres gyfnewid â Lewis Williams (gynt o Helyntion Jôs y Ficar) ar y drymiau, a Huw Ynyr yn penderfynu peidio ymddangos â'r band ar lwyfan. Ymunodd Gruff Jones, a oedd eisoes â phrosiect cerddorol electronig o'r enw Crash.Disco!, â'r band, gan achosi iddynt ddatblygu elfennau electronig eu cerddoriaeth ymhellach. Rhyddhawyd EP arall, Du a Gwyn, ar y label hwn yn 2013, a oedd yn cynnwys un o'u caneuon mwyaf poblogaidd, 'Gwreiddiau'.
Ymddangosodd y grŵp fel prif fand Maes B yn Eisteddfod Llanelli, 2014, a hynny er gwaethaf y ffaith mai dim ond un EP a dwy sengl y bu iddynt ryddhau cyn hynny. Yn y flwyddyn honno, hefyd, y bu iddynt gyhoeddi eu cynnyrch cyntaf ar eu label presennol, I Ka Ching, gyda'r record fer Cynnydd / Gwenwyn.
Rhyddhaodd y grŵp eu halbwm cyntaf, Sŵnami, yn 2015. Bu i'r albwm hwnnw ennill gwobr yn Eisteddfod Sir Fynwy a'r Cyffiniau, 2016, am albwm gorau'r flwyddyn.[2] Bu i'r albwm gael ei enwebu ar gyfer Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2015-16.[3]
Gwobrau
Gwobrau'r Selar[4]
- 2011 - Band Newydd Gorau
- 2013 - Record Fer Orau (Du a Gwyn), Fideo Gorau (Gwreiddiau)
- 2014 - Record Fer Orau (Cynnydd/Gwenwyn), Fideo Gorau (Gwenwyn), Offerynnwr Gorau (Lewis Williams)
- 2015 - Cân Orau (Trwmgwsg), Gwaith Celf Gorau (Sŵnami), Band Gorau, Record Hir Orau (Sŵnami)
Albwm Cymraeg y flwyddyn
- 2016 - Sŵnami
Disgyddiaeth
- Mynd a Dod (Sengl, Rasal) (2012)
- Eira (Sengl, Rasal) (2012)
- Du a Gwyn (EP, Rasal) (2013)
- Cynnydd / Gwenwyn (EP, I Ka Ching) (2014)
- Sŵnami (Albwm, I Ka Ching) (2015)