Cyfradd adwaith: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Llinell 38: Llinell 38:
Gan bod angen egni actifadu (yr egni sydd angen i'r ronynnau gwrthdaro yn llwyddianus) er mwyn adweithio, mae'n rhaid i ni wybod sut caiff egni ei dosrannu ymysg y gronynnau. Mewn unrhyw sylwedd, nid yw'r egni mewn pob gronyn yn unfath. Dangosir dosraniad egni gronnynau adwaith tymheredd uchel a tymheredd isel ar y graff. Mae'r ddau gromlin yn cynyddu'n gyflum tuag at uchafbwynt,ac wedyn yn gostwng yn araf. Dyma'r ''dosraniad Boltzmann''. Dim ond y gronynnau sydd a digon o egni sy'n medru adweithio sef yr arwynybedd o dan y cromlinnau tua'r dde o'r llinell egni actifadu. Mae'r graff yn dangos bod yna fwy o wrthdrawiadau llwyddianus yn digwydd ar dyheredd uwch nag oes yna ar dymheredd uchel.
Gan bod angen egni actifadu (yr egni sydd angen i'r ronynnau gwrthdaro yn llwyddianus) er mwyn adweithio, mae'n rhaid i ni wybod sut caiff egni ei dosrannu ymysg y gronynnau. Mewn unrhyw sylwedd, nid yw'r egni mewn pob gronyn yn unfath. Dangosir dosraniad egni gronnynau adwaith tymheredd uchel a tymheredd isel ar y graff. Mae'r ddau gromlin yn cynyddu'n gyflum tuag at uchafbwynt,ac wedyn yn gostwng yn araf. Dyma'r ''dosraniad Boltzmann''. Dim ond y gronynnau sydd a digon o egni sy'n medru adweithio sef yr arwynybedd o dan y cromlinnau tua'r dde o'r llinell egni actifadu. Mae'r graff yn dangos bod yna fwy o wrthdrawiadau llwyddianus yn digwydd ar dyheredd uwch nag oes yna ar dymheredd uchel.


===Gwelir hefyd===
*'''Adwaith Cildroadwy'''
[[Categori:Cemeg]]
[[Categori:Cemeg]]



Fersiwn yn ôl 16:55, 21 Rhagfyr 2008

Mae rhydu yn adwaith araf.

Mae cyfradd adwaith yn mesur pa mor gyflum mae adwaith yn digwydd.

Ffactorau sy'n dylanwadu ar gyfraddau adwaith

Mae adweithiau cemegol yn digwydd ar gyfraddau gwahanol- gall yr adwaith fod yn un cyflum iawn fel adwaith dyddodi neu ffrwydriadau, neu gall fod yn araf fel rhydu. Caiff unrhyw adwaith ei reoli gan sawl ffactor:-

  • Crynodiad unrhyw adweithydd mewn hydoddiant
  • Gwasgedd Unrhyw adweithydd nwyol
  • Arwynebedd unrhyw adweithydd solid
  • Tymheredd yr adwaith
  • Golau (Mewn ffotosynthesis a chlorineiddiad methan)

Dulliau mesur cyfraddau adweithiau

Er mwyn astudio'r effeithiau uchod, rhaid i ni fesur cyfradd yr adwaith. Mae hyn yn dibynnu ar fesur fainto adweithyddion defnyddir a faint o gynnyrch caiff ei greu. Mae'n haws gwneud hyn trwy fesur priodwedd sy'n newid dros amser.

  • Newid mas dros amser
  • Newid cyfaint y nwy dros amser
  • Newid gwasgedd dros amser
  • Newid mewn lliw hydoddiant
  • Dargludiad Hydoddiannau
  • Dadansoddiad trwy ditradu

Theori gwrthdrawiadau gronnynau

Delwedd:Theori Gwrthdrawiadau.jpg
Theori Gwrthdrawiadau Gronnynau.

Mae theori gwrthdrawiadau yn egluro sut mae cyfradd yn amrywio gyda chrynodiad, gwasgedd a tymheredd. Mae adweithiau yn digwydd pan fydd gan wrthdrawiadau rhwng y gronynnau sy'n adweithio yr egni actifadu angenrheidiol.

Crynodiad

Mewn hydoddiant crynodedig mae yna fwy o ronynnau o'r adweithyddion mewn yr un cyfaint felly maent yn gwrthdaro yn fwy aml. Dychmygwch fod yna fwy o ronnynau yn y diagram cyferbyn o fewn yr un lle.

Arwynebedd

Os caiff adweithydd solid ei falu fewn i bowdwr, mae ganddo arwynebedd nag un darn fawr. Mae'r gronynnau yn gwrthdaro yn fwy aml gyda'r arwynebedd uwch sydd yn cynyddu'r cyfradd adwaith.

Tymheredd

Delwedd:Egni Adwaith.jpg
Proffil Egni (∆H- Newid mewn tymheredd °C neu Kelvin).

Er mwyn dechrau adwaith cemegol rhwng moleciwlau, mae'n rhaid torri'r bondiau yn yr adweithyddion, ac mae angen egni i wneud hyn. Gelwir hyn yn egni actifadu ac mae angen i gronynnau enill o leiaf yr swm o egni yma i allu adweithio. Ar ol torri'r bondiau mae'r atomau yn creu moleciwlau newydd trwy rhyddhau egni. Dangosir y newidiadau hyn gan y broffil egni - graff sy'n dangos sut mae egni yn newid yn ystod adwaith cemegol. Y cyflwr trosiannol ydy'r pwynt uchaf, lle mae'r atomau hanner ffordd rhwng yr adweithyddion a'r cynhyrchion. Mae'r cyflwr trosiannol yn bodoli am ffracsiwn o eiliad. Gallai fod yn fwy sefydlog trwy ddisgyn mewn egni i ffurfio'r cynhyrchion neu'r adweithyddion. Pan fo'r cyflwr trosiannol yn ffurfio cynhyrchion, mae'n rhyddhau egni. Ar gyfer adwaith cildroadwy mae'r egni hwn yn hafal i egni actifadu'r ol adwaith. Y gwahaniaeth rhwng egni actifadu'r blaen adwaith a'r ol adwaith yw newid enthalpi-(∆H)

Dosraniad egni gronynnau

Delwedd:Dosraniad Egni Gronnynau.jpg
Cromlinnau Dosraniad Egni Gronnynau

Gan bod angen egni actifadu (yr egni sydd angen i'r ronynnau gwrthdaro yn llwyddianus) er mwyn adweithio, mae'n rhaid i ni wybod sut caiff egni ei dosrannu ymysg y gronynnau. Mewn unrhyw sylwedd, nid yw'r egni mewn pob gronyn yn unfath. Dangosir dosraniad egni gronnynau adwaith tymheredd uchel a tymheredd isel ar y graff. Mae'r ddau gromlin yn cynyddu'n gyflum tuag at uchafbwynt,ac wedyn yn gostwng yn araf. Dyma'r dosraniad Boltzmann. Dim ond y gronynnau sydd a digon o egni sy'n medru adweithio sef yr arwynybedd o dan y cromlinnau tua'r dde o'r llinell egni actifadu. Mae'r graff yn dangos bod yna fwy o wrthdrawiadau llwyddianus yn digwydd ar dyheredd uwch nag oes yna ar dymheredd uchel.

Gwelir hefyd

  • Adwaith Cildroadwy