Bernhard Schlink: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Petroc2 (sgwrs | cyfraniadau) Bywyd y llenor Bernhard Schlink |
Petroc2 (sgwrs | cyfraniadau) sillafu |
||
Llinell 2: | Llinell 2: | ||
==Bywyd Cynnar== |
==Bywyd Cynnar== |
||
Cafodd ei eni i dad Almaeneg (Edmund Schlink) a mam o'r Swistir, yr ieuengaf o bedwar o blant. Roedd ei fam, Irmgard, wedi bod yn fyfyrwraig ddiwinyddiaeth i'w dad, a phriodon nhw ym 1938. (Bu farw gwraig gyntaf Edmund Schlink ym 1936.) Bu tad Bernhard yn athro |
Cafodd ei eni i dad Almaeneg (Edmund Schlink) a mam o'r Swistir, yr ieuengaf o bedwar o blant. Roedd ei fam, Irmgard, wedi bod yn fyfyrwraig ddiwinyddiaeth i'w dad, a phriodon nhw ym 1938. (Bu farw gwraig gyntaf Edmund Schlink ym 1936.) Bu tad Bernhard yn athro seminari ac yn weinidog. Yn 1935, cafodd ei ddiswyddo o'i swydd addysgu yn [[Giessen]] am ei feirniadaeth gyhoeddus o bolisïau'r Natsïaid. Ym 1946, daeth yn athro diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Heidelberg, lle byddai'n gweithio tan iddo ymddeol yn 1971. Cafodd Bernhard Schlink ei magu yn Heidelberg o ddwy oed ymlaen. Astudiodd gyfraith ym Mhrifysgol Rhydd Gorllewin Berlin, gan raddio ym 1968. |
||
Daeth Schlink yn farnwr yn Llys Cyfansoddiadol talaith ffederal Gogledd Rhine-Westphalia ym 1988 ac ym 1992 yn athro cyfraith gyhoeddus ac athroniaeth y gyfraith ym Mhrifysgol Humboldt, Berlin. Ymddeolodd ym mis Ionawr 2006. |
Daeth Schlink yn farnwr yn Llys Cyfansoddiadol talaith ffederal Gogledd Rhine-Westphalia ym 1988 ac ym 1992 yn athro cyfraith gyhoeddus ac athroniaeth y gyfraith ym Mhrifysgol Humboldt, Berlin. Ymddeolodd ym mis Ionawr 2006. |
||
Fersiwn yn ôl 22:18, 4 Chwefror 2018
Mae Bernhard Schlink (anwyd 6 Gorffennaf 1944 yn Bielefeld, yr Almaen) yn gyfreithydd ac yn awdur Almaeneg. Daeth ei nofel "Der Vorleser", a gyhoeddwyd gyntaf ym 1995, yn werthwr-gorau rhyngwladol.
Bywyd Cynnar
Cafodd ei eni i dad Almaeneg (Edmund Schlink) a mam o'r Swistir, yr ieuengaf o bedwar o blant. Roedd ei fam, Irmgard, wedi bod yn fyfyrwraig ddiwinyddiaeth i'w dad, a phriodon nhw ym 1938. (Bu farw gwraig gyntaf Edmund Schlink ym 1936.) Bu tad Bernhard yn athro seminari ac yn weinidog. Yn 1935, cafodd ei ddiswyddo o'i swydd addysgu yn Giessen am ei feirniadaeth gyhoeddus o bolisïau'r Natsïaid. Ym 1946, daeth yn athro diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Heidelberg, lle byddai'n gweithio tan iddo ymddeol yn 1971. Cafodd Bernhard Schlink ei magu yn Heidelberg o ddwy oed ymlaen. Astudiodd gyfraith ym Mhrifysgol Rhydd Gorllewin Berlin, gan raddio ym 1968. Daeth Schlink yn farnwr yn Llys Cyfansoddiadol talaith ffederal Gogledd Rhine-Westphalia ym 1988 ac ym 1992 yn athro cyfraith gyhoeddus ac athroniaeth y gyfraith ym Mhrifysgol Humboldt, Berlin. Ymddeolodd ym mis Ionawr 2006.
Gyrfa
Astudiodd Schlink gyfraith ym Mhrifysgolion Heidelberg a Berlin. Bu wedyn yn athro y gyfraith ym Mhrifysgolion Bonn a Goethe, (Frankfurt) cyn dechrau ym 1992 ym Mhrifysgol Humboldt Berlin.
Dechreuodd ei yrfa fel awdur gyda nifer o nofelau ditectif gyda phrif gymeriad o'r enw Selb-yn chwarae ar y gair Almaeneg am "hunan" - y cyntaf, Selbs Justiz "Hunan Gosb", wedi'i gyd-ysgrifennu â Walter Popp . Enillodd un o'r rhain, "Die gordische Schleife", Wobr Glauser yn 1989. Ym 1995, cyhoeddodd "Y Darllenydd" (Der Vorleser), nofel am fachgen yn ei arddegau yn cael perthynas â menyw yn ei thridegau sy'n yn diflannu; ond y mae'n cyfarfod â hi eto fel myfyriwr cyfraith wrth ymweld â threial am droseddau rhyfel. Daeth y llyfr yn werthwr-gorau yn yr Almaen a'r Unol Daleithiau a chyfieithwyd i 39 o ieithoedd. Hwn oedd y llyfr Almaeneg cyntaf i gyrraedd rhif un yn rhestr y New York Times. Yn 1997, enillodd Wobr Hans Fallada, gwobr lenyddol Almaeneg, a'r Prix Laure Bataillon ar gyfer gwaith a gyfieithwyd i Ffrangeg. Yn 1999 dyfarnwyd Welt-Literaturpreis y papur newydd Die Welt iddo. Yn 2000, cyhoeddodd Schlink gasgliad o ffuglen fer o'r enw "Ehediadau Cariad" (Liebesfluchten). Yn 2008, cyfarwyddodd Stephen Daldry addasiad ffilm Saesneg o'r The Reader (Der Vorleser). Yn 2010, cyhoeddwyd ei hanes gwleidyddol ffeithiol, Guilt About the Past, gan Beautiful Books Limited (UK). Ar hyn o bryd mae Schlink yn rhannu ei amser rhwng Efrog Newydd a Berlin. Mae'n aelod o Ganolfan PEN yr Almaen.
Gwobrau
1989 Friedrich-Glauser-Preis am Die gordische Schleife
1993 Deutscher Krimi Preis ar gyfer Selbs Betrug
1995 Stern des Jahres (Seren y Flwyddyn) o bapur newydd Abendzeitung (Munich) ar gyfer Der Vorleser
1997 Gwobr Grinzane Cavour (Eidaleg) ar gyfer Der Vorleser
1997 Prix Laure Bataillon (Ffrangeg) ar gyfer Der Vorleser
1998 Gwobr Hans Fallada ar gyfer Der Vorleser
1999 Welt-Literaturpreis am waith oes
2000 Gwobr Heinrich Heine o'r "Heinrich-Heine-Gesellschaft" yn Hamburg
2000 Evangelischer Buchpreis ar gyfer Der Vorleser
2000 Gwobr ddiwylliannol y papur newydd Mainichi Shimbun a ddyfarnwyd yn flynyddol i werthwr-gorau yn Japan, ar gyfer Der Vorleser
2004 Dosbarth 1af Verdienstkreuz (Teilyngdod)
2014 Gwobr Parc Kyong-ni (De Korea)
Gwaith llenyddol yn yr Almaeneg
1962 Der Andere (Yr Arall)
1987 Selbs Justiz (Cosb Selb; gyda Walter Popp)
1988 Die gordische Schleife (Cwlwm Gordia), Zurich: Diogenes
1992 Selbs Betrug, Zurich: Diogenes
1995 Der Vorleser (Y Darllenydd), Zurich: Diogenes
2000 Liebesfluchten ( Ehediadau Cariad), Zurich: Diogenes
2001 Selbs Mord ( lofruddiaeth Selb), Zurich: Diogenes
2006 Die Heimkehr (Dod Adref: Nofel), Zurich: Diogenes
2008 Das Wochenende (Y Penwythnos: Nofel), Zurich: Diogenes
2010 Sommerlügen - Geschichten (Celwyddau Haf - Straeon), Zurich: Diogenes
2011 Gedanken über das Schreiben. Heidelberger Poetikvorlesungen. Zurich: Diogenes
2014 Die Frau auf der Treppe. (Nofel) Zurich: Diogenes,
Gweithiau eraill yn yr Almaeneg
1976 Abwägung im Verfassungsrecht, Berlin: Duncker und Humblot
1980 Rechtlicher Wandel durch richterliche Entscheidung: Beitraege zu einer Entscheidungstheorie der richterlichen Innovation, Cyd-olygu efo Jan Harenburg and Adalbert Podlech, Darmstadt: Toeche-Mittler
1982 Die Amtshilfe: ein Beitrag zu einer Lehre von der Gewaltenteilung in der Verwaltung, Berlin : Duncker & Humblot
1985 Grundrechte, Staatsrecht II, Cyd-awdur efo Bodo Pieroth, Heidelberg: C.F. Müller
2002 Polizei- und Ordnungsrecht, Cyd-awdur efo Bodo Pieroth and Michael Kniesel, Munich: Beck
2005 Vergewisserungen: über Politik, Recht, Schreiben und Glauben, Zurich: Diogenes
2015 Erkundungen zu Geschichte, Moral Recht und Glauben, Zurich: Diogenes