Països Catalans: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) Tudalen newydd: thumb|Y Gwledydd Catalanaidd thumb|200 px|right|Grafitti à [[Belfast.]] [[Image:Mural Independencia.JPG|thumb|Grafi... |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 12:30, 15 Rhagfyr 2008
Defnyddir y term Països Catalans (Catalaneg, yn golygu "y Gwledydd Catalanaidd") am y tiriogaethau lle siaredir Catalaneg. Ystyria llawr o genedlaetholwyr Catalanaidd eu bod yn ffurfio cenedl.
Ymddangosodd y term tua diwedd y 19eg ganrif, a gwnaed ef yn boblogaidd gan yr awdur Joan Fuster i Ortells yn ei lyfr Nosaltres els valencians ("Ni, y Valenciaid"). Mae'r tiriogaethau hyn yn cynnwys:
- Tywysogaeth Catalonia, y dywysogaeth hanesyddol yn cynnwys:
- Cymuned Ymreolaethol Catalonia yn Sbaen
- Gogledd Catalonia (Pays catalan), yn département Pyrénées-Orientales yn Ffrainc
- Andorra
- Y Frange d'Aragon yn Aragon
- Hen Deyrnas Majorca: yr Ynysoedd Balearig
- Hen Deyrnas Valencia
Mae'r ardaloedd hyn yn cynnwys rhai rhannau lle nad Catalaneg yw'r iaith gynhenid, er enghraifft y Val d'Aran, lle siaredir Araneg. Ceir hefyd rai ardaloedd tu allan i'r Països Catalans lle siaredir Catalaneg.