Thymws: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 18: Llinell 18:


== Anifeiliaid eraill ==
== Anifeiliaid eraill ==
Mae'r thymws yn bresennol ym mhob fertebriad sydd â genau, lle mae'n mynd trwy'r un broses o grebachu gydag oedran ac yn chwarae'r un swyddogaeth yn y system imiwnedd ac y mewn corff dynol. Mae thymws ŵyn a lloi yn cael eu cyfrif yn ddanteithfwyd.
Mae'r thymws yn bresennol ym mhob fertebriad sydd â genau, lle mae'n mynd trwy'r un broses o grebachu gydag oedran ac yn chwarae'r un swyddogaeth yn y system imiwnedd ac y mae mewn corff dynol. Mae thymws ŵyn a lloi yn cael eu cyfrif yn ddanteithfwyd.


==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==

Fersiwn yn ôl 02:54, 31 Ionawr 2018

OSC Microbio 18 01 thymus

Mae'r thymws yn organ lymffoid arbenigol sy'n rhan o'r system imiwnedd. Mae'r thymws i'w canfod o flaen y galon a thu ôl i'r sternwm. Yn y thymws, bydd celloedd T neu lymffocytau T yn aeddfedu. Mae celloedd T yn hanfodol i'r system imiwnedd addasol, lle mae'r corff yn addasu'n benodol i ymosod ar antigenau estron. Y thymws yw lle mae celloedd T yn datblygu o gelloedd hematopoietig (sy'n ffurfio gwaed). Yn ogystal, dyma le mae'r celloedd T yn addasu i fod yn oddefgar i gelloedd y corff[1].

Mae'r thymws yn fwyaf gweithgar yn ystod y cyfnodau newydd-anedig a chyn y glasoed. Erbyn yr arddegau cynnar, mae'r thymws yn dechrau arafu. Fodd bynnag, mae'n parhau i wneud lymffocytau trwy gydol oes oedolion.

Gelwir yr organ yn thymws oherwydd bod ei siâp yn debyg i ddeilen y planhigyn teim[2].

Strwythur

Mae'r thymws yn organ meddal lled drionglog a leolir yn mediastinwm y ceudod thorasig ychydig yn uwch ac o flaen y galon a thu ôl i'r sternwm. Mae ganddo ddwy labed, y ddwy wedi amgylchu gan gapsiwl ffibrog gwydn. O fewn y ddwy labed mae rhan arwynebol o feinwe o'r enw'r cortecs a rhanbarth dwfn o'r enw'r medwla. Meinweoedd epithelaidd a meinweoedd lymffatig sy'n cynnwys celloedd canghennog a macroffagau sy'n ffurfio'r mwyafrif o'r ddau ranbarth.

Mae'r thymws yn tyfu'n gyflym ac yn cyrraedd ei faint mwyaf o'i gymharu â gweddill y corff yn ystod oes y ffetws a blynyddoedd cyntaf plentyndod[3]. Wedi hynny, mae'n parhau i dyfu, ond yn arafach na'r organau eraill. Ar ddechrau glasoed mae'r thymws yn dechrau proses araf o fynd yn llai. Mae'r gostyngiad graddol hwn yn parhau trwy weddill bywyd yr unigolyn. Mae'r thymws yn cyrraedd ei phwysau mwyaf (20 i 37 gram) erbyn cyfnod y glasoed. Wrth i unigolyn heneiddio, mae ei thymws yn crebachu'n raddol, gan ddirywio i mewn i ynysoedd bach o feinwe brasterog. Erbyn 75 mlwydd oed, mae'r thymws yn pwyso dim ond 6 gram. Mewn plant, mae'r thymws yn llwyd-binc mewn lliw ac mewn oedolion mae'n felyn.

Swyddogaeth

Mae lymffocytau T neu gelloedd T yn gelloedd gwaed gwyn sy'n diogelu rhag organebau tramor (bacteria a firysau) sydd wedi llwyddo i heintio celloedd y corff[4]. Swyddogaeth y thymws yw derbyn celloedd T anaeddfed sy'n cael eu cynhyrchu yn fer esgyrn coch a'u hyfforddi i ddyfod yn gelloedd T gweithredol, aeddfed sy'n ymosod ar gelloedd estron yn unig. Mae nifer o hormonau a gynhyrchir gan y thymws yn hyrwyddo cymedroli'r celloedd T cyn eu rhyddhau i mewn i'r llif gwaed. Mae'r celloedd T aeddfed wedyn yn cylchredeg trwy'r corff lle maent yn adnabod ac yn lladd pathogenau estron, yn gwneud celloedd B yn weithredol ac yn storio cof am gyn heintiau.

Mae'r thymws yn tyfu yn ystod plentyndod ac yn crebachu yn yr oedolyn. Mae'r crebachu yn digwydd oherwydd bod llai o rôl gan y thyroid i chware yng nghyrff oedolion - mae'r system imiwnedd yn cynhyrchu'r rhan fwyaf o'i gelloedd T yn ystod plentyndod ac mae angen ychydig iawn o gelloedd T newydd ar ôl y glasoed.

Anifeiliaid eraill

Mae'r thymws yn bresennol ym mhob fertebriad sydd â genau, lle mae'n mynd trwy'r un broses o grebachu gydag oedran ac yn chwarae'r un swyddogaeth yn y system imiwnedd ac y mae mewn corff dynol. Mae thymws ŵyn a lloi yn cael eu cyfrif yn ddanteithfwyd.

Cyfeiriadau

  1. Gray's anatomy : the anatomical basis of clinical practice (40th ed.). London: Churchill Livingstone, 2008. Golygydd Susan Standring ; ISBN 978-0-8089-2371-8
  2. Encyclopædia Britannica Thymus adalwyd 30 Ionawr 2018
  3. Inner Body Thymus Gland adalwyd 30 Ionawr 2018
  4. Thought Co Learn About the Thymus Gland adalwyd 30 Ionawr 2018