Ioan Fedyddiwr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
JAnDbot (sgwrs | cyfraniadau) B robot yn ychwanegu: el, et, tl yn newid: ar, it, nn |
JAnDbot (sgwrs | cyfraniadau) B robot yn newid: sr:Јован Крститељ |
||
Llinell 62: | Llinell 62: | ||
[[sl:Janez Krstnik]] |
[[sl:Janez Krstnik]] |
||
[[sq:Gjon Pagëzori]] |
[[sq:Gjon Pagëzori]] |
||
[[sr: |
[[sr:Јован Крститељ]] |
||
[[sv:Johannes döparen]] |
[[sv:Johannes döparen]] |
||
[[th:จอห์นแบ็พทิสต์]] |
[[th:จอห์นแบ็พทิสต์]] |
Fersiwn yn ôl 13:23, 5 Rhagfyr 2008
Proffwyd Iddewig sydd hefyd yn ffigwr pwysig mewn Cristionogaeth oedd Ioan Fedyddiwr (bu farw tua 30).
Ceir hanes ei eni yn Efengyl Luc yn y Testament Newydd, Roedd yn fab i offeiriad o'r enw Sechariah a'i wraig Elisabeth, oedd yn oedrannus ac wedi bod hyd hynny yn ddi-blant. Mae pob un o'r pedwar Efengyl yn sôn amdano yn pregethu ac yn bedyddio yn Afon Iorddonen. Mae'n fwyaf enwog oherwydd iddo fedyddio Iesu a'i gydnabod fel y Meseia.
Dywed yr Efengylau iddo gael ei garcharu gan Herod Antipas, tetrach Galilea, ychydig fisoedd wedi iddo fedyddio Iesu. Dywedir fod hyn oherwydd iddo gondemnio priodas Herod a Herodias, gwraig i frawd Herod, Philip.
Yn ôl yr hanesydd Josephus, dienyddiwyd Ioan gan Herod i osgoi gwrthryfel. Yn ôl Efengyl Mathew, dawnsiodd merch Herodias, Salome, i Herod, a'i blesio gymaint nes iddo addo iddi unrhyw beth a ddymunai. Ei dymuniad oedd cael pen Ioan.
Ioan Fedyddiwr yw nawddsant Puerto Rico, ac enwyd y brifddinas, San Juan ar ei ôl. Ef yw nawdd-sant Canada Ffrengig hefyd, a dethlir ei ddydd gŵyl, 24 Mehefin yn Quebec fel y Fête nationale du Québec. Ef hefyd yw nawdd-sant dinas Porto, ail ddinas Portiwgal.
Ystyrir ef yn broffwyd yn Islam hefyd, ac mae traddodiad ei fod wedi ei gladdu ym Mosg yr Ummaiaid, Damascus.