Corff rheoli iaith: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
eginyn ffwrdd a hi arall.... |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 17:40, 4 Rhagfyr 2008
Corff sy'n ceisio rheoli neu hyrwyddo iaith yw corff rheoli iaith. Ceir sawl enw amgen ar gyrff sy'n rheoli iaith, megis asiantaeth iaith a bwrdd iaith. Mae eu cyfansoddiad, eu cyfrifoldebau a'u pwerau yn amrywio'n fawr o wlad i wlad. Mae rhai ohonynt, fel yr Académie française (Ffrangeg) yn Ffrainc, yn sefydliadau academaidd gyda hanes hir iddynt, tra bod eraill yn gyrff statudol neu lywodraethol dan adain y llywodraeth, tebyg i Fwrdd yr Iaith Gymraeg (Cymraeg) yng Nghymru neu'r Academi Bangla (Bengaleg) ym Mangladesh. Gan amlaf maent yn gyrff a sefydlwyd er mwyn hyrwyddo ac amddiffyn ieithoedd llai, ond dim ym mob achos.
Rhai cyrff iaith
- Academi Bangla: Bengaleg: Bangladesh
- Académie française: Ffrangeg: Ffrainc
- Bwrdd yr Iaith Gymraeg: Cymraeg: Cymru
- Cyngor Iaith Norwy: Norwyeg: Norwy
- Dansk Sprognævn: Daneg: Denmarc