Tehuelche: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B robot yn ychwanegu: it:Tehuelche |
B robot yn ychwanegu: uk:Теуелче |
||
Llinell 29: | Llinell 29: | ||
[[pt:Tehuelche]] |
[[pt:Tehuelche]] |
||
[[tr:Tehuelçe]] |
[[tr:Tehuelçe]] |
||
[[uk:Теуелче]] |
Fersiwn yn ôl 02:01, 3 Rhagfyr 2008
Pobl frodorol Patagonia yw'r Tehuelche (yr Aónikenk yn y de a'r Günün-A-Küna yn y gogledd). Cyfeirir atynt weithiau fel y Patagones. Roedd rhai 4,000 neu 5,000 ohonyn yn byw yn yr ardal cyn i'r Ewropeaid gyrraedd, ond lleihaodd eu nifer yn gyflym ac ar ôl y Databas Ethnolegol does dim ond 4 o bobl yn siarad yr iaith heddiw.
Yr Ewropeiaid cyntaf i gwrdd â'r Tehuelche oedd y morwyr ar long Ferdinand Magellan ym 1520 a cheir adroddiad amdanynt gan Antonio Pigaffeta, cartograffydd a chroniclydd y daith. Daethant i gysylltiad a'r Cymry yn y Wladfa yn Nyffryn Camwy o fewn tua blwyddyn i sefydlu'r Wladfa. Ar y cyfan, roedd y berthynas rhwng y Gwladfawyr a'r Tehuelche yn dda iawn; a dysgodd y Tehuelche lawer i'r Cymry am y wlad ac am ddulliau hela brodorol.
Roedd y Tehuelche yn helwyr, ond newidiodd eu ffordd o fyw ar ôl i'r ymsefydlwyr o Ewrop gyrraedd gyda'u ceffylau. Roedden nhw'n symud o gwmpas y wlad yn grwpiau teuluol. Collasant lawer o'u tiroedd yn ystod Concwest yr Anialwch yn y 1870au a'r 1880au.
Cyswllt allanol
- (Sbaeneg/Saesneg) Gwefan sydd yn cyflwyno'r Tehuelche