Rusalka: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Robbot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: af, bg, cs, de, es, fi, fr, it, ja, pl, pt, ru, sk, sl, sr, uk
B robot yn ychwanegu: myv:Ведьава
Llinell 27: Llinell 27:
[[it:Rusalki]]
[[it:Rusalki]]
[[ja:ルサルカ]]
[[ja:ルサルカ]]
[[myv:Ведьава]]
[[pl:Rusałka]]
[[pl:Rusałka]]
[[pt:Russalka]]
[[pt:Russalka]]

Fersiwn yn ôl 02:02, 2 Rhagfyr 2008

Gweler hefyd Rusalka (gwahaniaethu).
Rusalka, darlun gan Konstantin Vasiliev

Ym mytholeg a llên gwerin Slafig, ysbryd benywaidd, math o nymff dŵr, swcwbws neu ddiafoles sy'n byw mewn ffrydiau ac afonydd yw rusalka (lluosog: rusalki).

Math o bysgod-ferched yn byw ar waelod afonydd yw'r rusalki yn y rhan fwyaf o'r traddodiadau gwerin amdanyn. Gefn nos byddent yn cerdded allan o'r afon i ddawnsio ar ei glan. Pe baent yn gweld dynion golygus byddent yn eu llesmeirio gyda'u canu a dawnsio hudol, ac wedyn yn eu harwain i fyw gyda nhw ar waelod yr afon. Ceir chwedlau am greaduriaid tebyg i'r rusalki mewn diwylliannau eraill yng ngogledd Ewrop, e.e. y Nix Germanaidd, y Banshee Wyddelig, a'r Bean Nighe Albanaidd. Does dim creadur sy'n cyfateb yn union yn llên gwerin Cymru, ond mae straeon am ferched arallfydol sy'n byw mewn llynnoedd ac yn syrthio mewn cariad â meidrolion i'w cael, e.e. Arglwyddes Llyn y Fan.

Mae'r chwedlau am y rusalki yn arbennig o niferus yn Rwsia.

Ysbydolwyd tair opera amdanynt:

  1. Dargomyzhsky, Rusalka
  2. Rimsky-Korsakov, Noson o Fai
  3. Antonín Dvořák, Rusalka