Katherine Philipps: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau) B →Astudiaethau a llyfrau eraill: Rhedeg AWB i glirio gwallau using AWB |
|||
Llinell 37: | Llinell 37: | ||
[[Categori:Genedigaethau 1631]] |
[[Categori:Genedigaethau 1631]] |
||
[[Categori:Marwolaethau 1664]] |
[[Categori:Marwolaethau 1664]] |
||
[[Categori:Merched yr |
[[Categori:Merched yr 17g]] |
||
[[Categori:Llenorion Cymreig yn yr iaith Saesneg]] |
[[Categori:Llenorion Cymreig yn yr iaith Saesneg]] |
||
[[Categori:Llenorion Cymreig yr |
[[Categori:Llenorion Cymreig yr 17g]] |
||
[[Categori:Pobl o Aberteifi]] |
[[Categori:Pobl o Aberteifi]] |
Fersiwn yn ôl 06:33, 17 Ionawr 2018
Bardd, dramodydd ac awdures oedd Katherine Philipps (neu Philips), neu Orinda (née Katherine Fowler, 1 Ionawr, 1631 - 22 Mehefin, 1664). Roedd hi'n boblogaidd iawn yn ei dydd ac yn cael ei hadnabod fel "Y Ddigymar Orinda" ("The Matchless Orinda"). Priododd i fewn i deulu Philipps, tirfeddianwyr cyfoethog o Dde Cymru.
Bywgraffiad
Cafodd ei geni yn Llundain, ond treuliai cyfnodau hir yn ardal Aberteifi gyda'i gŵr James Philipps (priodasant yn 1647 pan oedd hi'n un ar bymtheg oed). Ffurfiodd gylch llenyddol i ferched bonheddig yn yr ardal.
Mae nifer o'i cherddi'n adlewyrchu ei chariad at Gymru a'r iaith Gymraeg. Cyfansoddodd gerdd ar thema wladgarol i Henry Vaughan (1621 - 1695), y bardd a meddyg o Ddyffryn Wysg.
Cyhoeddwyd casgliad o'i holl gerddi dan y teitl Poems by the incomparable Mrs K(atherine) P(hilipps) yn 1664.
Mae'r nofel Orinda gan R. T. Jenkins yn seiliedig ar y cyfnod a dreuliodd Katherine Philipps yn Aberteifi.
Galeri
-
Gwaith Katherine ar fur Eglwys Aberteifi, er cof am 'John Loyd of Kilrhewe'.
Gwaith Orinda
- Poems by the incomparable Mrs K(atherine) P(hilipps) (1664).
Yr unig olygiad diweddar hwylus yw,
- Saintsbury (gol.), Minor Poets of the Caroline Period, cyf. 3 (1905)
Astudiaethau a llyfrau eraill
- Edmund Gosse, 'The Matchless Orinda', yn Seventeenth Century Studies (1883).
- R. T. Jenkins, Orinda (1943). Nofel fer seiliedig ar ei hanes.